Skip to content
Skip to navigation menu

English

Datgelu dirgelion diliau mêl

18 Gorffennaf 2013

Honeycomb web

Mae dirgelwch siâp chweonglog celloedd diliau mêl wedi’i ddatgelu gan fecaneg syml.

Mae diliau mêl gwenyn yn ffurf gellog naturiol sy’n cael ei hastudio’n eang. Mae siâp chweonglog crwn eu celloedd wedi ennyn diddordeb gwyddonwyr naturiol ac athronwyr am filenia. Maent wedi awgrymu nifer o wahanol esboniadau, a rhai ohonynt yn golygu y byddai angen i wenyn feddu ar y gallu rhyfedd ("rhagfeddwl" yn ôl Pappus o Alexandria yn y flwyddyn 4 OC) i gyflawni cyfrifiadau mathemategol neu’r gynneddf hudol i fesur hydoedd ac onglau.

Erbyn hyn, mae ymchwil gan Ysgol Beirianneg Prifysgol Caerdydd, a gyhoeddwyd yn y Journal of the Royal Society Interface,wedi canfod bod gan y celloedd mewn diliau mêl naturiol siâp crwn o "enedigaeth" ond eu bod yn trawsnewid yn gyflym i’r siâp chweonglog crwn cyfarwydd tra bod y diliau mêl yn cael eu hadeiladu.

Mae’r ymchwil, a arweiniwyd gan yr Athro Bhushan Karihaloo o Ysgol Beirianneg Caerdydd, gyda chydawduron o Athrofa Dechnoleg Beijing a Phrifysgol Peking, hefyd yn dangos sut mae’r trawsnewidiad hwn yn digwydd.

"Mae pobl wastad wedi dyfalu ynglŷn â sut mae gwenyn yn ffurfio diliau mêl," meddai’r Athro Karihaloo. "Mae rhai esboniadau anhygoel, esoterig, a hyd yn oed rhyfedd wedi’u cynnig; roeddent yn credu bod gan wenyn y gallu rhyfedd i fesur onglau. Ond mae’n llawer symlach na hynny mewn gwirionedd."

Honeycomb web 2

Yr ateb, yn ôl astudiaeth newydd, yw bod y celloedd yn dechrau fel cylchoedd yn hytrach na hecsagonau. Roedd Darwin wedi awgrymu hyn, ond nid oedd ganddo unrhyw dystiolaeth ategol.

Maent yn ffurfio’n hecsagonau yn raddol trwy lif cwyr, sy’n cael ei droi’n lled-doddedig gan y gwres o’r gwenyn gweithgar "gwresogi" arbenigol. Pan fydd yn cyrraedd tua 45°C, mae’r cwyr yn dechrau llifo’n araf fel hylif elastig. Yna mae’r cwyr, wedi’i feddalu gan y gwres, yn cael ei dynnu’n siâp celloedd chweonglog gan dyndra arwyneb ar y pwyntiau lle mae tair wal yn cysylltu â’i gilydd.

Er iddynt ddatrys y dirgelwch, mae’r ymchwilwyr yn talu teyrnged i’r gwenyn, gan ysgrifennu yn yr astudiaeth: ""Ni allwn... anwybyddu, na pheidio â rhyfeddu at rôl y gwenyn yn y broses hon trwy wresogi, tylino a theneuo’r cwyr yn union lle y mae ei angen."

Mae’r ymchwil wedi denu sylw yn y cyfryngau rhyngwladol gan gynnwys Nature, Discovery News, Livescience (Efrog Newydd); ABC Science a’r Huffington Post.

Dolenni cysylltiedig

Ysgol Beirianneg Caerdydd