Skip to content
Skip to navigation menu

English

Dychmygwch eich dyfodol

20 Ebrill 2010

Students outside the main building at Cardiff University

Mae Caerdydd yn cynnal y Diwrnod Agored mwyaf yng Nghymru gan roi’r cyfle i ymwelwyr gael blas ar fywyd yn un o brifysgolion mwyaf blaenllaw’r byd. Bydd hefyd yn gyfle i weld y campysau cain, y cyfleusterau modern yn ogystal â mwynhau’r awyrgylch yn un o brifddinasoedd ieuengaf Ewrop.

Ddydd Mercher 21 Ebrill 2010, bydd miloedd o ddarpar ymgeiswyr o bob cwr o’r wlad yn ymweld â’r Brifysgol i gael gweld dros eu hunain y cyfleoedd a’r cyfleusterau fydd ar gael iddynt fel myfyrwyr israddedig.

Bydd yr ymwelwyr yn cael gwybod am yr addysg sy’n cael ei harwain gan ymchwil a roddir i fyfyrwyr a sut gallent fod yn rhan o ddiwylliant academaidd blaenllaw sy’n rhoi manteision lleol, cenedlaethol a ledled y byd ac yn mynd i’r afael â rhai o’r materion pwysicaf yn y byd sydd ohoni.

Bydd y trafodaethau cyflwyniadol yn cyffwrdd â sawl maes gan gynnwys sylfaen wyddonol cyfarpar MP3 a seicoleg y newid yn yr hinsawdd. Bydd yr arddangosiadau o sgiliau clinigol yn rhoi cipolwg ar faes meddygaeth, tra bod digwyddiadau eraill yn mynd i drin a thrafod diwylliant a hunaniaeth; papurau newydd, teledu a rhyfel; fferyllfeydd cymunedol; bywyd y Bydysawd; ffonau symudol sy’n hel clecs; Twitter heb y rhyngrwyd; diogelwch gwybodaeth; busnesu mewn data preifat o rwydwaith WiFi; a’r hyn sy’n mynd trwy feddwl seicopath.

Yn ystod y digwyddiad, bydd ymwelwyr hefyd yn gallu ymweld ag Undeb y Myfyrwyr – un o’r rhai mwyaf llwyddiannus ym Mhrydain – lle ceir arddangosfa o’r clybiau chwaraeon, y cyngherddau, yr adloniant a’r gwasanaethau cymorth fydd ar gael iddynt fel myfyrwyr yng Nghaerdydd. Bydd teithiau tywys hefyd yn cael eu cynnal o’r cyfleusterau chwaraeon cynhwysfawr a rhai o’r neuaddau preswyl drwy gydol y dydd.

Meddai David Roylance, Pennaeth Recriwtio Israddedigion: "Y Diwrnod Agored ym Mhrifysgol Caerdydd yw’r digwyddiad mwyaf o’i fath yng Nghymru a bydd yn rhoi’r cyfle i filoedd o fyfyrwyr ddod i weld sut beth yw bywyd prifysgol mewn gwirionedd. Rydym yn cynnig safonau academaidd gwych, cyfleusterau modern ac mae’r ffaith ein bod hefyd yng nghanol prifddinas fywiog a chosmopolitan yn ein gwneud yn ddewis hynod atyniadol i fyfyrwyr sy’n ystyried ble i astudio Addysg Uwch."

Nod y Diwrnod Agored yw rhoi darlun mor gyflawn o fywyd mewn prifysgol i ddarpar fyfyrwyr israddedig yn ogystal â’r cyfle i gwrdd â staff a myfyrwyr a chael gwybodaeth am bopeth o gynlluniau gradd a llety, i fywyd cymdeithasol a gyrfaoedd. I gael mwy o wybodaeth am y digwyddiad, ewch i www.caerdydd.ac.uk/opendays. Cewch gadw lle ar gyfer y digwyddiad ar-lein yn https://www.surveys.caerdydd.ac.uk/openday2010>

Gall ymwelwyr y Diwrnod Agored hefyd ennill £75 o dalebau Amazon drwy lenwi arolwg ar-lein ac ateb ychydig o gwestiynau am y digwyddiad. Mae’r arolwg i’w weld yma: www.caerdydd.ac.uk/opendays

Tags

Newyddion Diweddaraf Student News