Skip to content
Skip to navigation menu

English

Gwerthu Cymru

01 Chwefror 2012

St Davids Day declaration web

Rhaid i Gymru fod yn fwy cystadleuol o ran mewnfuddsoddi, yn ôl adroddiad newydd gan Ysgol Fusnes Caerdydd.

Nod yr astudiaeth, a gomisiynwyd gan Bartneriaeth Busnes Caerdydd, oedd darganfod sut mae’r asiantaethau sy’n hyrwyddo mewnfuddsoddi yn gweithredu yng Nghymru.

Mewn ymateb i bedwar canfyddiad allweddol, mae’r adroddiad yn argymell cydweithio agosach rhwng asiantaethau yng Nghymru, ynghyd â defnyddio adnoddau’n fwy effeithlon a’r angen i newid ymagwedd er mwyn datblygu brand cryfach ar gyfer Cymru.

Mae’r adroddiad hefyd yn pwysleisio y dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu polisi cyson, â chefnogaeth yr holl asiantaethau, ynglŷn â denu buddsoddiad gan sectorau allweddol allanol.

Dywedodd awdur yr adroddiad, Dr Andrew Crawley o Ysgol Fusnes Caerdydd: "Roedd yr astudiaeth yn unigryw o ran ymchwil i fuddsoddiad uniongyrchol tramor oherwydd roedd yn canolbwyntio ar y rhai sy’n gwneud y gwaith.

"Yng Nghymru heddiw mae yna niferoedd sylweddol o sefydliadau sydd â’r swyddogaeth o ddenu mewnfuddsoddi. Mae angen i ni gael yr asiantaethau hynny i gydweithio’n agosach er mwyn gwneud yn siŵr fod yna neges gyson yn cael ei throsglwyddo i’r byd busnes, sef bod Cymru’n barod i dderbyn busnes."

Dywedodd Cadeirydd Partneriaeth Busnes Caerdydd, Adrian Clark: "Mae denu buddsoddiad i Gymru’n dal i fod yn hanfodol, a dylai gwerthu Cymru fod yn ymdrech ar y cyd. Mae Caerdydd yn ffenestr siop, ond mae dinasoedd eraill hefyd yn chwarae rhan bwysig.

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi nifer o feysydd. Dydy’r cyfan ddim yn newyddion da, ond mae’n bwysig cofio taw llinell yn y tywod yw’r adroddiad hwn. Rhaid i ni gefnogi pawb – o’r Llywodraeth i gwmni cynhenid bach sy’n cyflenwi cwmni rhyngwladol."

Ychwanegodd Roy J Thomas, Cyfarwyddwr Partneriaeth Busnes Caerdydd: "Mae hyn yn ymwneud nid yn unig â Chaerdydd neu fewnfuddsoddi - mae’n ymwneud â’r argraff y mae Cymru’n ei wneud yn rhyngwladol. Does a wnelo hyn ddim â chystadleuaeth rhwng buddsoddiad cynhenid a mewnfuddsoddiad, neu rhwng y sectorau preifat a chyhoeddus, neu rhwng gogledd a de. Nid llywodraeth neu awdurdodau lleol yn unig sydd â dyletswydd i ganmol a hybu Cymru, ond pob dinesydd sydd am weld Cymru’n ffynnu.

"Rhaid i ni edrych tua’r dyfodol. Mae yna gytundeb barn fod rhaid i bawb ohonom weithio gyda’n gilydd."

Mae modd lawrlwytho adroddiad Selling Wales yma

Dolenni Perthynol

Ysgol Busnes Caerdydd