Skip to content
Skip to navigation menu

English

Trais difrifol yn parhau i ostwng

19 Ebrill 2012

Serious violence continues to fall - Web

Yn ôl astudiaeth flynyddol y Brifysgol am anafiadau, bu 4% yn llai o anafiadau yn dilyn trais lle’r oedd angen triniaeth mewn unedau anafiadau yng Nghymru a Lloegr yn 2011.

Tybiwyd yr aeth 307,998 o bobl i unedau damweiniau ac achosion brys am anafiadau oedd yn gysylltiedig â thrais. Roedd hyn 10,879 yn llai na’r nifer yn 2010.

Yn ôl pob golwg, mae’r astudiaeth yn dangos gostyngiad sy’n groes i’r cynnydd a berodd ofid mewn trais yn erbyn plant yn y ddwy flynedd flaenorol. Mae hefyd yn dangos bod trais wedi gostwng yn gyflymach yng Nghymru nag yn Lloegr ers y 1990au, a bod y bwlch rhwng y ddwy wlad bron wedi cau erbyn hyn.

Mae 42 o adrannau achosion brys ac unedau mân anafiadau ledled Cymru a Lloegr yn cymryd rhan yn yr arolwg blynyddol. Mae pob uned yn aelodau cofrestredig o’r Rhwydwaith Goruchwylio Trais Cenedlaethol a gynhelir gan y Grŵp Ymchwil Trais ac Ymchwil arobryn.

Mae’r gostyngiad o 4 y cant eleni yn cyd-fynd â’r gostyngiadau cyson a fu mewn trais ers i’r astudiaeth ddechrau yn 2001 oherwydd bu gostyngiad bob blwyddyn ar wahân i un. Cafodd 5.3 y cant yn llai o ddynion ac 1 y cant yn llai o ferched anaf difrifol oedd yn gysylltiedig â thrais, er bod o hyd tua thair gwaith yn fwy o ddynion na merched yn dioddef anafiadau o’r fath. Bu gostyngiad o 3.8 y cant yn y grŵp oed sydd fwyaf o dan fygythiad. Y rhai sydd rhwng 18 a 30 yw’r rhain ac mae bron hanner y dioddefwyr yn y categori hwn.

Bu cynnydd o 8 y cant a 22 y cant mewn anafiadau a effeithiodd ar blant o dan 10 yn y ddwy flynedd flaenorol. Mae astudiaeth eleni’n dangos bod y rhod wedi troi gan fod 14 y cant yn llai o blant wedi dioddef. Dioddefodd pob grŵp oed lai o anafiadau yn dilyn trais, ar wahân i’r rhai sydd dros 51 oed sy’n cynrychioli 1.1 y cant yn unig o’r holl ddioddefwyr.

Am y tro cyntaf, mae’r grŵp wedi dadansoddi patrymau trais ar wahân ar gyfer Cymru a Lloegr. Gwelwyd bod cyfraddau trais difrifol yn is yn gyson yn Lloegr nag ydoedd yng Nghymru’n rhwng 1995 a 2009. Yn ystod y cyfnod dan sylw, bu cyfradd o 12.6 anaf ymysg pob 1,000 Cymro a 7.6 ymysg pob Sais. Fodd bynnag, er nad yw’r gyfradd hon wedi newid rhyw lawer yn Lloegr, bu gostyngiad amlwg yng Nghymru wrth i’r gyfradd ostwng o 10.1 anaf fesul 1,000 preswylydd ym 1997 i 5.7 yn 2008. Caeodd hyn y bwlch rhwng y ddwy wlad o fod yn 5.2 fesul 1,000 preswylydd ym 1997 i fod yn 0.4 yn 2008.

Meddai’r Athro Jonathan Shepherd, Cyfarwyddwr y Grŵp Ymchwil Trais ac Ymchwil: "Mae’n galonogol bod y niferoedd sy’n mynd i’r ysbytai ar ôl dioddef trais yn parhau i ostwng ers i’r gyfradd fod ar ei huchaf ar ddiwedd y 1990au. Yr hyn sy’n arbennig o addawol yw’r gostyngiadau yn y grwpiau sydd fwyaf o dan fygythiad, sef y rhai rhwng 11 a 30 oed. Mae hyn yn parhau’r tueddiad a amlygwyd yn 2010 ac sy’n gysylltiedig â phlismona, partneriaethau cymunedol ac ymyriadau iechyd cyhoeddus yn ôl pob tebyg. Croesawn hefyd y ffaith fod y cynnydd mewn niwed a achosir i blant bach wedi mynd i’r cyfeiriad arall. Gallai hyn fod yn adlewyrchiad o ymdrechion y Llywodraeth i fynd i’r afael â’r broblem hon.

"Rydym hefyd yn falch iawn o weld y gostyngiad sylweddol mewn trais yng Nghymru dros y 15 mlynedd ddiwethaf gan gau’r bwlch traddodiadol gyda Lloegr. Mae’r rhesymau dros y gwahaniaethau rhwng y ddwy wlad yn aneglur ond bydd iechyd a ffyniant, yn ogystal â dylanwadau addysgol, amgylcheddol a ffyrdd o fyw, yn gysylltiedig yn ôl pob tebyg. Nid ydym yn siŵr ychwaith pam y bu gostyngiad cyflymach yng Nghymru ond mae’n bosibl bod camau atal trais ar lefel gymunedol wedi bod yn fwy effeithiol dros gyfnod hwy nag loegr. Er enghraifft, cafodd y system lle mae ysbytai a phartneriaid cymunedol yn rhannu gwybodaeth am leoedd treisgar ei mabwysiadu gan Lywodraeth Cymru cyn i Lywodraeth y DU ymrwymo iddi. Fodd bynnag, mae cyfradd amcangyfrifiedig yr anafiadau sy’n gysylltiedig â thrais ymysg pawb yng Nghymru a Lloegr, sef 5.59 fesul 1,000 o drigolion, yn parhau’n rhy uchel ac rydym am ei gweld yn parhau i ostwng."

Cyflwynwyd yr astudiaeth flynyddol o drais i geisio dod â threfn i’r dulliau sefydledig o fesur trais oedd yn gwrthddweud ei gilydd drwy gynnwys Arolwg Troseddau Prydain a chofnodion yr heddlu. Mae’r cofnodion y mae’r Rhwydwaith Goruchwylio Trais Cenedlaethol wedi’u cyflwyno wedi dangos eu bod yn ddulliau mesur dibynadwy a gwrthrychol. Ar wahân i 2008, pan gafwyd cynnydd o 7 y cant, mae’r astudiaeth wedi dangos bod nifer yr anafiadau sy’n gysylltiedig â thrais lle bu’n rhaid mynd i unedau damweiniau ac achosion brys wedi gostwng yn gyffredinol bob blwyddyn rhwng 2001 a 2011.

Dolen

http://www.caerdydd.ac.uk/dentl/research/themes/appliedclinicalresearch/violenceandsociety/index.html