Skip to content Skip to navigation menu
24 Medi 2008
Arddangosir yn yr Ysgol Optometreg a’r Gwyddorau Golygol. Caiff yr arddangosfa ei dadorchuddio o flaen cynulleidfa o westeion gwadd ddydd Mercher 24 Medi 2008.
Tynnwyd y ffotograffau gan bobl mewn gweithdai yn Llundain a Dinas Mecsico fel rhan o brosiect o’r enw Golwg Emosiwn, a drefnir gan yr elusen PhotoVoice.
Cynlluniwyd Golwg Emosiwn er mwyn dathlu ffotograffiaeth ddall. Ceisia galluogi cymunedau â nam ar eu golwg i adeiladu deialog gyda phobl sy’n gallu gweld, gan greu ymwybyddiaeth, ac addysgu cynulleidfaoedd cyhoeddus ynghylch anghenion a phrofiadau pobl â nam ar eu golwg.
Dywedodd yr Athro Tim Wess, Pennaeth yr Ysgol wrth wneud sylw ynghylch yr arddangosfa- " Mae’r ysgol wrth ei bodd yn croesawu arddangosfa sydd mor bwysig, sy’n dathlu cyfranogiad pobl ddall ac â golwg rhannol yn y celfyddydau."
Y ffotograffau yw’r diweddaraf mewn cyfres o gelf gyhoeddus sydd i’w gweld yn yr Ysgol, gan gynnwys ‘Persbectifau Cyfnewidiol’ a gynlluniwyd er mwyn herio camsyniadau sy’n ymwneud â diagnosis syndrom Down yn ogystal â phaentiadau a grëwyd gan artistiaid benywaidd Pacistanaidd sy’n byw yng Nghymru. Mae atriwm yr Ysgol hefyd yn gartref i arddangosfa barhaol sy’n cynnwys darnau o gelf tri dimensiwn.
Mae’r Ysgol Optometreg a’r Gwyddorau Golygol yn croesawu unrhyw un i ymweld â’r arddangosfa Golwg Emosiwn, ynghyd â gwaith celf arall, ddydd Llun i ddydd Gwener 9am hyd 5pm.
First science star for Wales announced 17/06/2013
Study reveals disease-causing parasites in dead otters 17/06/2013
Lansiwyd hwb cymunedol iaith Gymraeg 17/06/2013
Vice Chancellor to co-chair strategic forum for university and business leaders 13/06/2013
This is an externally hosted beta service offered by Google.