Skip to content
Skip to navigation menu

English

Adeilad Syr Martin Evans

07 Mawrth 2013

Sir Martin Evans Building - Unveiling of the plaque

Mewn seremoni ddadorchuddio arbennig a gynhaliwyd yn gynharach yr wythnos hon, ailenwyd adeilad Ysgol y Biowyddorau yn swyddogol i anrhydeddu Syr Martin Evans, Canghellor y Brifysgol a enillodd Wobr Nobel.

Mae’r adeilad wedi’i ailenwi’n Adeilad Syr Martin Evans i ddathlu cyn-gyfarwyddwr yr Ysgol, y mae ei gyfraniad i fyd meddygaeth wedi ei wneud yn fyd-enwog.

Cynhaliwyd y seremoni ddadorchuddio yng ngŵydd nifer o academyddion blaenllaw a oedd yn cynnwys Robert Huber, enillydd Gwobr Nobel a Chymrodor ac Athro Ymchwil Prifysgol Abertawe; yr Athro Ole Petersen FRS, Cyfarwyddwr presennol yr Ysgol, a’r Athro Elizabeth Treasure, y Dirprwy Is-Ganghellor.

Wrth siarad yn y lansio meddai’r Athro Treasure: "Mae hi’n bleser mawr i ni enwi Ysgol y Biowyddorau ar ôl Syr Martin Evans. Mae ei ymchwil wyddonol a’i gyfraniad i addysg uwch wedi’i wneud yn rhywun y mae gwyddonwyr ifainc ledled y wlad yn dymuno ei efelychu.

"Mae hwn yn ddiwrnod sy’n destun balchder i Syr Martin a Phrifysgol Caerdydd. Mae ei etifeddiaeth yn parhau a gobeithio y bydd yn ysbrydoli ein myfyrwyr i wneud pethau mawr."