Skip to content
Skip to navigation menu

English

Taranau Sonig

19 Ebrill 2011

Herschel-1 WEB

Mae seryddwyr y Brifysgol, sy’n defnyddio Arsyllfa Ofod Herschel Asiantaeth Gofod Ewrop, wedi dangos bod gan ffilamentau nwy a llwch mewn cymylau rhyngserol faint dewisol, gan awgrymu eu bod wedi’u ffurfio o ganlyniad i daranau sonig rhyngserol sy’n teithio trwy’r Alaeth.

Mae’r ffilamentau’n anferth, yn ymestyn am ddegau o flynyddoedd goleuni, ac mae Herschel wedi dangos bod sêr newydd-anedig i’w gweld yn y rhannau dwysaf ohonynt. Mae un o’r ffilamentau hyn yng nghytser Aquila yn cynnwys tua 100 o sêr ifanc.

Dim ond â golau is-goch pell y gellir gweld y nwy a’r llwch oer iawn yn y gofod rhyngserol. Er y gwelwyd y ffilamentau hyn o’r blaen, mae cydraniad uchel Herschel wedi galluogi seryddwyr i fesur eu lled am y tro cyntaf erioed.

Mewn seryddiaeth, mae’n anghyffredin i wrthrychau fod â maint penodedig - daw planedau, sêr a galaethau mewn ystod eang o feintiau - felly disgwyliwyd y byddai gan y ffilamentau ystod eang o ledau. Dadansoddodd y tîm 90 o ffilamentau mewn tri rhanbarth o’r awyr.

Trwy eu cymharu ag efelychiadau cyfrifiadurol, mae’r seryddwyr wedi dod i’r casgliad y gallai’r ffilamentau hyn gael eu ffurfio pan fydd siocdonnau araf yn afradloni mewn cymylau rhyngserol. Daw’r siocdonnau hyn yn sgil ynni sy’n cael ei greu wrth i sêr ffrwydro, sy’n achosi tyrfedd mawr yn y rhanbarthau cyfagos. Mae’r siocdonnau hyn yn teithio trwy’r Alaeth, gan ysgubo nwy a llwch a ffurfio’r ffilamentau trwchus y gwelwn heddiw.

Gan fod y cymylau rhyngserol yn ofnadwy o oer, sef tua 10 gradd yn uwch na sero absoliwt (neu -263 Celsiws), mae cyflymder sain yn gymharol araf, sef 200 m/s (450 mya) yn unig, o’i gymharu â 340 m/s (760 mya) ar lefel y môr yma ar y Ddaear. Mae hyn yn golygu bod y siocdonnau araf yn gywerthydd rhyngserol i daranau sonig. Wrth iddynt golli ynni yn y cymylau, maent yn gadael ffilamentau tenau o nwy a llwch ar eu hôl.

Mae modelau blaenorol eraill wedi cysylltu ffurfiant y ffilamentau hyn â chwympiad disgyrchol ac effaith meysydd magnetig, ond heb yr arsylwadau hyn, nid oedd yn bosibl gweld y gwahaniaeth.

Dywedodd yr Athro Derek Ward-Thompson o’r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth: "Mae hon yn dystiolaeth gref iawn i gysylltu’r siociau rhyngserol hyn â ffurfiant sêr. Bydd deall y cysylltiad hwn yn ein helpu i ddatblygu ein damcaniaethau ynghylch ffurfiant sêr."

Mae’r canlyniadau yn defnyddio arsylwadau gan offerynnau SPIRE a PACS ar Herschel, ac yn canolbwyntio ar dri rhanbarth sy’n amrywio o 500 i 1,500 o flynyddoedd oleuni o’r Ddaear, yng nghytserau Cygnus ac Aquila, a ger Polaris yn Ursa Minor. Maent yn rhan o Lathen Gould, sef cylch o ranbarthau tebyg lle caiff sêr eu ffurfio, sy’n ymestyn o gwmpas yr awyr ac sy’n cael ei astudio gan Herschel fel rhan o Arolwg Llathen Gould, dan arweiniad Dr Philippe André o CEA Ffrainc.

Ychwanegodd yr Athro Matt Griffin o Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd, a phrif wyddonydd offeryn SPIRE: "Mae hwn yn ganlyniad arbennig o ddiddorol na allai unrhyw un fod wedi’i ragweld. Yn sgil arsylwadau fel y rhain, mae Herschel yn ein helpu i ateb rhai o’r cwestiynau mwyaf mewn seryddiaeth o hyd."

Dolenni

Delwedd: Herschel 1

Mae ffilamentau trwchus i’w gweld yn y cwmwl rhyngserol IC5146 yng nghytser Cygnus yr Alarch. Nifwl y Cocŵn yw’r rhanbarth llachar ar y chwith, sef rhanbarth lle caiff sêr eu ffurfio sydd tua 1,500 o flynyddoedd oleuni o’r Ddaear. Mae’r ddelwedd yn defnyddio tonfeddi 70 micron (glas) o PACS, 250 micron (gwyrdd) a 500 micron (coch) o SPIRE.

Clod ar gyfer y ddelwedd: Asiantaeth Gofod Ewrop/Herschel/PACS/ D. Arzoumanian (CEA Saclay) ar ran consortiwm Arolwg Llathen Gould

 

Tags