Cyflymu iacháu yn sgil canser
05/10/2009
Mae cleifion sy’n cael llawdriniaeth i dynnu canserau’r stumog yn iacháu yn gynt os rhoddir bwyd hylifol iddynt o fewn 12 awr, canfu ymchwil newydd gan y Brifysgol.
Yn draddodiadol, nid oes bwyd yn cael ei roi i gleifion sydd â chanserau’r oesoffagws, y stumog a’r pancreas am hyd at 10 niwrnod yn dilyn llawdriniaethau gastroberfeddol.
Fodd bynnag, mae treial clinigol newydd gan Ysgol Astudiaethau Gofal Iechyd y Brifysgol, ar y cyd ag Ysbyty Athrofaol Cymru ac wedi’i ariannu gan y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil Canser (NCRI), wedi canfod bod cleifion, os rhoddir maeth iddynt yn uniongyrchol i’r perfedd – drwy diwb bwydo – yn gallu iacháu rhyw dridiau yn gynt.
Meddai Dr Rachael Barlow, Yr Ysgol Astudiaethau Gofal Iechyd, ac ymchwilydd arweiniol y treial: “Yn ein treial rydym wedi troi’r meddwl traddodiadol i atal cleifion rhag cael bwyd yn dilyn llawdriniaeth gastroberfeddol ar ei ben ac wedi gweld manteision enfawr.
“Y darganfyddiad arwyddocaol oedd bod bwyd yn syth ar ôl llawdriniaeth yn golygu bod cleifion yn iacháu yn gynt ac yn tueddu i gael llai o gymhlethdodau. Yn bwysicaf oll, roedd cleifion a gafodd y maeth yn fwy tebygol o fod yn iachach a chael ansawdd bywyd gwell yn ystod y misoedd ar ôl llawdriniaeth.”
Roedd y treial wedi archwilio a oedd cael bwyd yn uniongyrchol yn dilyn llawdriniaeth yn cael unrhyw effaith ar gyflymder yr iacháu o gymharu â thechnegau newynu.
Mae ymchwilwyr o’r farn nawr y gall bwyd, o’i roi ar ôl pob llawdriniaeth abdomenol a thorasig fawr, atal miliynau o bunnoedd i’r GIG.
Ychwanegodd Dr Barlow: “Y cam nesaf yw darganfod a allwn fabwysiadu’r un arfer mewn mathau eraill o lawdriniaeth ac mae nifer o dreialon clinigol yn digwydd ar hyn o bryd. Gallai arbedion o filiynau o bunnoedd ddeillio o gymryd y cam hwn, a gallai olygu llai o brinderau gwelyau mewn ysbytai.”

