Skip to content
Skip to navigation menu

English

Safoni’r defnydd o wrthfiotigau

24 Mehefin 2009

Antibiotics

Mae astudiaeth ymchwil bwysig wedi’i harwain gan y Brifysgol wedi dod i’r casgliad y dylai rhoi presgripsiwn ar gyfer peswch llym gael ei safoni ledled Ewrop, er mwyn helpu i leihau nifer y presgripsiynau amhriodol a mynd i’r afael â’r broblem gynyddol o ymwrthedd gwrthfiotig.

Yn yr astudiaeth fwyaf o’i math, mapiodd tîm o ymchwilwyr dan arweiniad yr Athro Christopher Butler, yr Ysgol Feddygaeth, amrywiadau mewn rhoi presgripsiwn ar gyfer peswch llym ledled Ewrop, a’i effaith ar wella.

Mae rhoi presgripsiwn ar gyfer gwrthfiotigau amhriodol ac ymwrthedd gwrthfiotig yn broblem gynyddol o hyd. Yn Ewrop, mae 10% o facteria Streptococcus pneumoniae wedi’u cofnodi’n anchwannog i benisilin a rhoi presgripsiwn dianghenraid ar gyfer gwrthfiotig, yn enwedig ar gyfer afiechydon resbiradol, sydd wedi’i feio am yr ymwrthedd cynyddol i wrthfiotigau

Canfu’r astudiaeth, a gyhoeddwyd yn y British Medical Journal, amrywiaeth eang rhwng gwledydd o ran y tebygolrwydd o gael presgripsiwn ar gyfer gwrthfiotig. Mewn rhai gwledydd, canfu’r astudiaeth fod y tebygolrwydd o gael presgripsiwn ar gyfer gwrthfiotig dros bum gwaith yn fwy na’r cyfartaledd cyffredinol, a phum gwaith yn llai mewn gwledydd eraill.

Erbyn hyn, mae’r Athro Butler yn galw am i’r drefn o roi presgripsiwn ar gyfer gwrthfiotigau ar gyfer afiechydon resbiradol gael ei safoni ledled Ewrop.

Dywedodd yr Athro Butler, " Mae’r ymchwil yn rhoi tystiolaeth bod gormod o bresgripsiynau yn cael eu rhoi ar gyfer gwrthfiotigau o hyd ar gyfer peswch llym, ac na ellir cyfiawnhau’r gwahaniaethau mawr rhwng rhoi presgripsiynau ar gyfer gwrthfiotigau rhwng gwahanol wledydd ar sail feddygol. Felly, mae’n dangos cyfle mawr i safoni mwy ar y gofal ar gyfer yr afiechyd llym cyffredin hwn ledled Ewrop.

"Dylai safoni gofal yn well arwain at gynnydd sylweddol o ran lleihau’r defnydd dianghenraid o wrthfiotigau a bydd yn erfyn allweddol wrth ymatal ymwrthedd i wrthfiotigau, sef un o’r bygythiadau mwyaf brys i iechyd y cyhoedd yn yr oes gyfoes."

Er gwaethaf yr amrywiad o ran rhoi presgripsiwn ar gyfer gwrthfiotigau rhwng gwledydd, roedd cleifion yn gwella ar gyfradd debyg, p’un a oeddent wedi cael gwrthfiotig ar gyfer peswch llym ai peidio. Felly, canfuwyd nad oedd yr amrywiad o ran rhoi presgripsiwn ar gyfer gwrthfiotig o fudd i’r claf.

Mae’r astudiaeth yn rhan o brosiect pwysig ledled Ewrop o’r enw GRACE. Mae GRACE yn dod ag 28 o grwpiau academaidd ynghyd, gyda sbectrwm eang o arbenigedd, wedi’u lledaenu ar draws 13 o aelod-wladwriaethau’r UE, gyda’r nod o fynd i’r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd.

Mae’r astudiaeth a ariennir gan yr UE hefyd yn ceisio esbonio’r rhesymau sylfaenol dros yr amrywiad mewn rheoli trwy un o’r archwiliadau ansoddol mwyaf o heintiadau erioed.

Ychwanegodd yr Athro Herman Goossens o Brifysgol Antwerp, sy’n cydlynu Rhwydwaith Rhagoriaeth GRACE, "Mae’r bygythiad hwn o ymwrthedd gwrthfiotig yn debygol o fod yn fwy difrifol wrth i feddygon teulu wynebu galw cynyddol i roi presgripsiwn ar gyfer gwrthfiotigau ar gyfer peswch llym yn ystod y pandemig byd-eang presennol o ffliw H1N1. Dylai’r dystiolaeth newydd hon gyfrannu at ymatal presgripsiynau ar gyfer gwrthfiotigau."

Tags