Skip to content
Skip to navigation menu

English

Astudiaeth yn amlygu parasitiaid sy’n achosi clefydau mewn dyfrgwn marw

17 Mehefin 2013

Dyfrgi yn nofio

Mae gwaith ymchwil a gyflawnwyd gan Brosiect Dyfrgwn Prifysgol Caerdydd wedi amlygu nifer o barasitiaid sy’n achosi clefydau mewn cyrff dyfrgwn marw. Cyflwynwyd y canfyddiadau yn nigwyddiad Haf o Fywyd Gwyllt y BBC a gynhaliwyd yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

Roedd y parasit Toxoplasma gondii, a gaiff ei ledaenu gan ysgarthion cathod, yn bresennol mewn 39.5% o’r dyfrgwn a archwiliwyd. Dyma’r math mwyaf llechwraidd o barasit. Dangosodd y canfyddiadau fod yr haint yn gyffredin mewn nifer o ardaloedd ledled y DU, gyda nifer sylweddol fwy o achosion yn y dwyrain. Ni wyddys eto sut mae hyn yn effeithio ar ddyfrgwn - mae mwy o waith ymchwil yn y maes hwn yn yr arfaeth - ond ymhlith pobl, gall y parasit arwain at erthyliad naturiol ac abnormaleddau retinol.

Canfuwyd llyngyr lledog parasitig mewn 18.3% o ddyfrgwn - gellid rhannu’r rhain yn ddwy rywogaeth: Pseudamphistomum truncatum a Metorchis albidus. Mae’r llyngren gyntaf yn frodorol i ddwyrain Ewrop ac mae’n heintio amrywiaeth o gigysyddion gwyllt; mae’r ddwy’n gysylltiedig â niwed patholegol i goden fustl dyfrgwn. Dangosodd dyraniadau o ddyfrgwn a oedd wedi cael eu heffeithio, fod eu codennau bustl yn llidus neu wedi tewychu. Gall y ddau barasit heintio unrhyw famal sy’n bwyta pysgod - gan gynnwys pobl.

Canfuwyd rhywogaeth o drogen o’r enw Ixodes hexagonus mewn bron chwarter y dyfrgwn (24.3%). Nodwyd hyd at 122 o drogod ar bob dyfrgi. Canfuwyd mwy o drogod ar ddyfrgwn ifanc na dyfrgwn aeddfed. Y rheswm am hyn yn ôl gwyddonwyr yw bod dyfrgwn ifanc yn debygol o dreulio mwy o amser yn y wâl (ffau dyfrgwn). Gan fod dyfrgwn yn gludwyr cyffredin o’r drogen hon, gallai gael goblygiadau ar gyfer clefydau sy’n cael eu cario gan bryfed, a all heintio pobl a’u hanifeiliaid anwes.

Wrth sôn am y canfyddiadau hyn, dywedodd Dr Elizabeth Chadwick:

"Mae gwaith ymchwil y prosiect ar y parasitiaid sy’n heintio dyfrgwn wedi datgelu agweddau nad oedd yn hysbys yn flaenorol ar eu dosbarthiad a’u hecoleg. Mae angen gwneud mwy o waith i’n helpu ni i ddeall yn well eu llwybrau trosglwyddo a’r effaith a gânt ar ddyfrgwn, bywyd gwyllt arall ac iechyd dynol."

Anogwyd aelodau o’r cyhoedd hefyd i ddysgu sut mae dyfrgwn yn cyfathrebu trwy arogl eu hysgarthion. Trwy ddadansoddi arogl dyfrgwn, mae ymchwilwyr wedi datgelu natur gymhleth cyfathrebu trwy arogl ymhlith dyfrgwn, ac wedi arddangos bod arogl yn gwahaniaethu rhwng unigolion, yn ôl y cylch atgenhedlu, yn ôl y wlad wreiddiol, ac yn ôl genoteip.

Cyflwynwyd Project Splatter Prifysgol Caerdydd yn y digwyddiad hefyd, lle yr anogwyd pobl i ddod yn ‘Splatter Spotter’. Nod y prosiect yw lleihau nifer yr anifeiliaid gwyllt sy’n cael eu lladd ar y ffordd yn y DU, gan ddefnyddio data a gyflwynir gan y cyhoedd. Mae Project Splatter yn casglu data am anifeiliaid gwyllt sy’n cael eu lladd ar y ffordd yn y DU trwy Twitter a Facebook, gyda’r bwriad o amlygu mannau lle mae llawer o anifeiliaid gwyllt yn cael eu lladd ar y ffordd. Trwy gasglu data ledled y wlad, gall ymchwilwyr amlygu’r mannau lle mae nifer fawr o anifeiliaid gwyllt yn cael eu lladd ar y ffordd ar gyfer prosiectau lliniaru yn y dyfodol, ac i helpu i ddiogelu ein bywyd gwyllt.

Dolenni defnyddiol


Prosiect Dyfrgwn Prifysgol Caerdydd
Ysgol Biowyddorau Caerdydd