Skip to content
Skip to navigation menu

English

Goresgyn rhwystrau sy’n atal pobl rhag dychwelyd i’r gwaith

30 Awst 2011

Yr Athro Syr Mansel AylwardYr Athro Syr Mansel Aylward

Ffactorau seicolegol a phroblemau yn y gweithlu yw’r rhwystrau mwyaf sy’n atal pobl rhag dychwelyd i’r gwaith ar ôl salwch ac mae’n rhaid i gyflogwyr wneud mwy i’w datrys, yn ôl arbenigydd blaenllaw o’r Brifysgol.

Er mai gwaith yw’r ffordd fwyaf effeithiol i wella iechyd a lles pobl, mae’r Athro Syr Mansel Aylward, Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Seicogymdeithasol ac Anabledd y Brifysgol yn yr Ysgol Feddygaeth, wedi canfod bod dychweliad rhywun i’r gwaith yn aml yn cael ei lesteirio gan ffactorau ynglŷn â ffordd o fyw a’r amgylchedd a ffactorau seicolegol yn hytrach na’r salwch ei hun.

Amcangyfrifir bod budd-daliadau a’r refeniw sy’n cael ei golli ar ffurf trethi yn costio cyfanswm o fwy na £60 biliwn y flwyddyn i’r trethdalwyr yn y Deyrnas Unedig a bod rhyw 172 miliwn o ddiwrnodau gwaith yn cael eu colli yn sgil salwch, gan gostio mwy na £13 biliwn i’r economi yn ôl amcangyfrif Cydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI).

Wrth annerch cynhadledd i arbenigwyr iechyd blaenllaw yn yr Unol Daleithiau yn Massachusetts, dywedodd Syr Mansel: "Yr hyn y mae’r ymchwil yn ei ddangos yw mai ffactorau ynglŷn â’r ffordd o fyw, y gymdeithas a’r diwylliant a’r seicoleg, yn hytrach na phroblem ‘feddygol’ y person, yw prif benderfynyddion iechyd ac afiechyd.

"Yn aml, sut mae pobl yn meddwl ac yn teimlo ynglŷn â’u problemau iechyd sy’n penderfynu sut maen nhw’n delio â nhw ac â’u heffaith. Mae’r dystiolaeth glinigol hefyd yn dangos bod syniadau pobl mewn gwirionedd yn gwaethygu ac yn ymestyn oes salwch ac anabledd. Ffactorau seicogymdeithasol yw’r prif rwystr sy’n eu hatal rhag mynd yn ôl i’r gwaith."

O ran y dylanwadau negyddol, gwelodd arolwg gan y Brifysgol fod 38% o bobl yn rhestru ffactorau seicolegol fel ofni’r gwaethaf, amau eu gallu eu hunain i lwyddo mewn sefyllfaoedd a ffactorau bywyd sy’n cyfyngu ar ymreolaeth yn uchaf, a bod 32% o bobl wedyn yn sôn am broblemau yn y gweithle fel rhwystrau sy’n eu hatal rhag dychwelyd i’r gwaith.

Ar y llaw arall, dim ond 7% o bobl soniodd am boen neu symptomau poen fel dylanwad negyddol o ran dychwelyd i’r gwaith.

Ychwanegodd Syr Mansel: "Rydyn ni’n gwybod bod diweithdra hirdymor ymhlith y risgiau mwyaf adnabyddus i iechyd y cyhoedd - gyda chynnydd yn risg hunanladdiad a phobl mewn mwy o risg nag yn y mwyafrif o swyddi peryglus.

"Yn anffodus mae pobl yn credu bod rhaid ichi gadw draw o’r gwaith er mwyn ymadfer yn llawn ar ôl salwch - yr her i ni felly yw dileu’r camsyniadau hyn."

Yn ôl Syr Mansel, un ffordd allweddol i fynd i’r afael â’r broblem hon yw gwella dealltwriaeth wael o iechyd a lles, canolbwyntio ar ymyrryd yn gynnar a mynd i’r afael ag anfantais gymdeithasol.

"Mae yna lawer o gyflogwyr nad ydyn nhw’n gwybod am yr achos busnes o blaid buddsoddi mewn iechyd a lles. Mae angen mwy o ymagwedd amlddisgyblaeth o’r cychwyn - gyda gweithwyr iechyd proffesiynol, cyflogwyr a gwasanaethau amlddisgyblaeth yn cydweithio i sicrhau bod pobl yn dychwelyd i’w gwaith yn barhaol," mynna Syr Mansel.

"Yn benodol, mae ar reolwyr llinell angen gwell hyfforddiant i adnabod ac ymateb i arwyddion cynnar afiechyd a diogelu iechyd corfforol a meddyliol gweithwyr. Mae arnon ni angen newid radicalaidd mewn ymddygiad a diwylliant tuag at waith os ydyn ni am gael gwir obaith o wella lles pobl a chael pobl yn ôl i’r gwaith.

"Mae’r neges yn syml: Gwaith yw’r ffordd fwyaf effeithiol i wella lles unigolion, eu teuluoedd a’u cymunedau ac mae’n rhaid inni wneud mwy i hwyluso hyn," ychwanegodd.

Dolenni: