Skip to content
Skip to navigation menu

English

Targedu parasitiaid trofannol

10 Mai 2011

Pills

Gall cyffuriau a ddefnyddir i drin HIV ffurfio templedi ar gyfer cyffuriau newydd i achub bywydau wrth dargedu malaria a chlefydau parasitig eraill, yn ôl astudiaeth newydd gan y Brifysgol.

Mae gwyddonwyr yn gwybod bod rhai cyffuriau gwrth-HIV yn gallu lladd parasitiaid pathogenaidd, ond doedd dim dealltwriaeth ynghylch sut oedd hyn yn gweithio. Nawr, mae ymchwilwyr wedi nodi protein penodol, Ddi 1 o barasitiaid Leishmania, sy’n sensitif i atalyddion gwrth-HIV. Mae gan y darganfyddiad hwn y potensial i newid yn sylweddol y ffordd y caiff clefydau parasitig – sy’n fygythiad difrifol i iechyd byd-eang – eu trin.

Dywedodd Dr Colin Berry o Ysgol y Biowyddorau, sy’n un o’r ymchwilwyr sy’n cymryd rhan yn y gwaith: "Mae pobl mewn gwledydd datblygol yn agored i glefydau parasitig megis malaria a leishmaniasis sy’n gallu lladd miliynau o bobl, felly mae angen cyffuriau newydd ac effeithiol ar frys i ymladd yr heintiau hyn.

"Mae defnyddio asiantau gwrth-HIV sydd eisoes yn bodoli wedi dangos bod targed dichonadwy mewn rhai parasitiaid a thrwy nodi’r protein sy’n gyfrifol, gobeithiwn ddefnyddio’r gwendid hwn yn y parasit i ddatblygu therapiwtegau newydd ac effeithiol i ymladd y clefydau dinistriol hyn."

Cynhaliwyd yr astudiaeth gan dîm Dr Berry a chydweithwyr o Ganolfan Ymchwil Meddyginiaethau GlaxoSmithKline yn Stevenage. Fe’u cefnogwyd gan Wobr Cydweithredu mewn Gwyddoniaeth a Pheirianneg gan y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol.

Bu’r tîm yn astudio burum nad oedd yn cynnwys y protein Ddi, gan archwilio effeithiau ychwanegu’r protein ac atalyddion HIV. Wrth ddefnyddio Ddi 1 dynol, cofnodwyd cyffuriau a all atal actifedd y protein Leishmania hefyd, ond a oedd yn llawer gwannach yn erbyn y gyfatebiaeth ddynol, sy’n awgrymu y gellir lleihau sgil effeithiau mewn cyffur yn y dyfodol.

Cyhoeddir ‘HIV proteinase inhibitors target the Ddi1-like protein of Leishmania parasites’ yn rhifyn mis Mai cyfnodolyn FASEB. Caiff hwn ei gyhoeddi gan y Federation of the American Societies for Experimental Biology, a dyma’r cyfnodolyn bioleg y cyfeirir ato fwyaf ledled y byd.

Dolenni perthnasol:

Your computer cannot play the audio in your browser. To fix this, you need to make sure both Javascript and Adobe Flash are available.

Get the Adobe Flash plug-in by clicking here

To find out how to enable JavaScript, check the Help option for your browser.


Cardiff University campus users

If you are on the Cardiff University campus and have problems with plug-ins or browsers, you can contact the INSRV Helpdesk on extension 74487 or visit the INSRV webpages


Dr Berry discusses his research

 

Tags