Skip to content
Skip to navigation menu

English

Esblygiad y Gweithle Modern

18 Medi 2009

The evolution of the modern workplace book cover

Ni thanseiliwyd undebaeth lafur Prydain gan Margaret Thatcher, ond gan wawrio oes newydd, filain o gystadleuol a’i gwanychodd yn ddramatig yn y sector preifat, yn ôl dadansoddiad newydd o bwys.

Mae’r llyfr, sef The Evolution Of The Modern Workplace, yn crynhoi data o arolygon cysylltiadau cyflogaeth dros 25 mlynedd i ddatgelu’r ffordd y mae gweithwyr yn yr 21ain ganrif yn wynebu amgylchedd mwy llym a chystadleuol na chenhedlaeth eu rhieni.

Mae’r astudiaeth, a arweiniwyd gan ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd, y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Phrifysgol Caergrawnt, yn siartio dirywiad cynhyrchu nwyddau, methiant yr undebau llafur, a phwysigrwydd cynyddol y gyfraith mewn rheoli cysylltiadau cyflogaeth. Hefyd mae’n archwilio pynciau megis yr amrywiaeth cynyddol yng nghyflogaeth Prydain a phwysau cynyddol yn y gweithle, sydd wedi gwthio pwysau gwaith i lefelau uwch nag erioed o’r blaen.

Trwy gymharu data unigryw a gasglwyd dros gyfnod o 25 mlynedd, er hynny, mae hefyd yn cynnig esboniadau newydd ynglŷn â sut a pham mae’r newidiadau hyn wedi digwydd.

Mae’r awduron yn dadlau, er enghraifft, bod yr undebau llafur, y credir yn gyffredinol iddynt gael eu trechu gan lywodraethau Ceidwadol y 1980au, mewn gwirionedd wedi’u niweidio gan broses o globaleiddio a danseiliodd eu pwerau i fargeinio ac mae’n annhebygol y bydd adferiad iddynt.

Hyd yn oed yng ngoleuni’r dirwasgiad presennol, maen nhw’n awgrymu bod undebau’n perthyn i gyfnod gwahanol, llai cystadleuol a ‘chynhesach’ yn gyffredinol mewn hanes economaidd.

Dywedodd yr Athro Keith Whitfield o Ysgol Fusnes Caerdydd a chyd-olygydd: "Ers 1980 mae graddfa’r newidiadau yng ngweithleoedd y DU wedi bod yn anferth, nid yn unig o’u cymharu â chyfnodau eraill, ond hefyd o’u cymharu â newidiadau mewn gwledydd eraill. Mae’n anodd egluro i newydd-ddyfodiaid yn y farchnad swyddi ar hyn o bryd mor wahanol yr oedd pethau i’w rhieni pan oedden nhw’n cychwyn gweithio. Gobeithiwn y bydd y llyfr hwn yn cyfrannu rhywfaint tuag at gau’r bwlch hwnnw."

Dywedodd William Brown, Athro Cysylltiadau Diwydiannol ym Mhrifysgol Caergrawnt a chyd-olygydd y llyfr: "Nid yw undebau’n cael rhyw eiliad wan yn dilyn y 1980au.

"I ryw raddau, roedden nhw’n sefydliadau ar gyfer byd hollol wahanol a mwy monopolistaidd. Os rydym eisiau diogelu’r gwan yn yr 21ain ganrif, bydd yn rhaid i ni feddwl am ffyrdd newydd o wneud hynny."

Seiliwyd yr astudiaeth, a gyhoeddir gan Wasg Prifysgol Caergrawnt, ar brosiect ymchwil a gyllidwyd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol. Gwnaeth ymchwilwyr ddefnydd helaeth o Arolygon Cysylltiadau Cyflogaeth Gweithleoedd cenedlaethol, sydd wedi’u cyhoeddi’n rheolaidd ers 1980, gyda’r nod o ddarparu tystiolaeth sy’n ystadegol ddibynadwy ynglŷn â chysylltiadau diwydiannol ac arferion cyflogaeth ym Mhrydain.

Un o’r patrymau mwyaf dramatig a ddatgelwyd gan yr astudiaeth yw diflaniad cydfargeinio – sef cydymdrafod ynglŷn â chyflog, oriau, a hawliau ac amodau eraill rhwng gweithwyr a chyflogwyr.

Yng nghanol yr 20fed ganrif, yn aml trafodwyd cytundebau o’r fath gydag undebau llafur ar raddfa genedlaethol. Ond rhwng 1984 a 2004, syrthiodd y gyfran o weithleoedd yn y sector preifat a oedd yn cydfargeinio mewn unrhyw ffordd o 47% i 16% wrth i undebau frwydro i ddal gafael hyd yn oed ar bresenoldeb lleiafrifol.

Er y gwelir hyn yn aml fel adlewyrchiad o’r trywydd caled, gwrth-undebol a ddilynwyd gan lywodraethau Thatcher a Major, ynghyd â dirywiad y sector cynhyrchu nwyddau ble roedd undebaeth yn gryf, mae’r ffigyrau’n adrodd hanes gwahanol.

Maen nhw’n awgrymu, wrth i gystadlu rhyngwladol gynyddu yn ystod yr 20fed ganrif, cafodd cwmnïau Prydeinig, a fu’n flaenllaw yn y farchnad genedlaethol, drafferth i gadw’u safle. Nid oedd cyflogwyr yn gallu fforddio taro bargeinion gyda’r undebau yn yr amgylchedd anoddach hwn. Gyda dirywiad y pŵer i fargeinio, methodd gallu’r undebau i apelio i’w haelodau hefyd.

Yn eu lle, mae’r astudiaeth yn siartio twf cyfraith lafur unigol, mwy o gyfathrebu rhwng cyflogwyr a gweithwyr nad yw’n ymwneud ag undebau llafur, a datblygiad arferion rheoli sydd â’r nod o wella perfformiad sefydliadol.

Tags