Skip to content
Skip to navigation menu

English

Pedwerydd Etholiad y Cynulliad Cenedlaethol

11 Hydref 2011

assembly Web New

A oedd canlyniad etholiad y Cynulliad Cenedlaethol 2011 yn bleidlais o gefnogaeth i’r Blaid Lafur, neu’n bleidlais yn erbyn llywodraeth y DU?

Mae’r data diweddaraf ynghylch y pleidleisio gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru’r Brifysgol a Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru Prifysgol Aberystwyth wedi codi rhai cwestiynau diddorol ynghylch ymgyrch etholiad y Cynulliad Cenedlaethol eleni.

Cymerwyd y data o Astudiaeth Etholiad Cymru 2011 a gynhaliwyd mewn cydweithrediad â YouGov, ac mae’r Athro Richard Wyn Jones a’r Athro Roger Scully wedi defnyddio’r dystiolaeth i roi dadansoddiad manwl o ddewisiadau pleidleisio dros 2,000 o unigolion.

Mae darganfyddiadau o’r astudiaeth yn datgelu y cafodd perfformiad Gweinidogion y Blaid Lafur a Phlaid Cymru yn llywodraeth glymblaid Cymru’n Un ei weld yn gyffredinol yn llawer mwy cadarnhaol na pherfformiad llywodraeth bresennol y DU a’i rhagflaenydd o dan Gordon Brown.

Gwelwyd bod llai na chwarter yr ymatebwyr yn Astudiaeth Etholiad Cymru’n ystyried perfformiad Gweinidogion y Blaid Lafur neu Blaid Cymru naill ai’n ‘Wael Iawn’ neu’n ‘Eithaf Gwael’, gyda 42 y cant yn ystyried perfformiad Gweinidogion Llafur naill ai’n ‘Dda Iawn’ neu’n ‘Eithaf Da’, a 31 y cant yn dweud yr un peth am Weinidogion Plaid Cymru. Mewn cyferbyniad, roedd 26 y cant yn meddwl bod y llywodraeth Lafur flaenorol yn ‘Wael Iawn’ ac 18 y cant arall yn nodi ei bod yn ‘Eithaf Gwael’. Roedd y farn ynghylch clymblaid bresennol Llundain y fwy anffafriol fyth - yn enwedig i’r Democratiaid Rhyddfrydol. Roedd tua 38 y cant o ymatebwyr Astudiaeth Etholiad Cymru yn ystyried perfformiad y Democratiaid Rhyddfrydol fel rhan o’r llywodraeth yn ‘Wael Iawn’, gyda 23 y cant arall yn nodi ei fod yn ‘Eithaf Gwael’. Fodd bynnag, roedd llawer mwy o bleidleiswyr yng Nghymru’n hawlio eu bod yn pleidleisio’n bennaf ar sail ‘yr hyn oedd yn digwydd yng Nghymru’ (52 y cant) yn hytrach na’r ‘hyn oedd yn digwydd ym Mhrydain gyfan’ (20 y cant, gyda 29 y cant yn pleidleisio ar sail yr hyn oedd yn digwydd ar y ddwy lefel, neu am resymau eraill).

Hefyd datgelodd yr astudiaeth fod difaterwch cyhoeddus sylweddol ynghylch yr ymgyrch etholiadol: roedd ychydig iawn dros hanner yr holl bleidleiswyr (51 y cant) yn parhau heb benderfynu, hyd yn oed wedi’r etholiad, ynghylch pa blaid oedd â’r ymgyrch orau. Ymysg y rhai â barn benodol, roedd bron i dair gwaith yn fwy o bleidleiswyr yn meddwl mai’r Blaid Lafur oedd â’r ymgyrch orau ar gyfer etholiad y Cynulliad (28 y cant) nag oedd yn meddwl hynny am y Blaid Geidwadol (11 y cant), gyda Phlaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol ymhellach y tu ôl eto.

Er iddynt gael y canlyniad etholiad Cynulliad gorau erioed, yn ôl yr astudiaeth mae’r Ceidwadwyr yn parhau’n amhoblogaidd ymhlith llawer o bleidleiswyr Cymru. Pan ofynnwyd iddynt osod y pleidiau ar raddfa 0-10 o ran eu poblogrwydd, rhoddwyd sgôr o sero i’r blaid gan 29 y cant o’r ymatebwyr. Hefyd, cafodd arweinydd y Cynulliad, Nick Bourne, sgôr isel gan y pleidleiswyr, ac mae David Cameron yn parhau’n llai poblogaidd ymhlith pleidleiswyr Cymru nag Ed Miliband a dim ond ychydig bach yn llai amhoblogaidd na Nick Clegg. Dywed awduron yr astudiaeth fod y canlyniad da i’r Ceidwadwyr yn yr etholiad yn awgrymu eu bod yn effeithiol o ran trosi eu cefnogaeth gyfyngedig yn bleidleisiau yng Nghymru. Ond maen nhw hefyd yn awgrymu y gall amhoblogrwydd parhaus y Ceidwadwyr ymhlith llawer o bleidleiswyr yng Nghymru gyfyngu ar eu potensial i symud ymlaen ymhellach.

Mae data Astudiaeth Etholiad Cymru’n awgrymu, er gwaethaf canlyniad siomedig yn yr etholiad, bod cryn dipyn o ewyllys da tuag at Blaid Cymru ymhlith llawer o etholwyr yng Nghymru. Fodd bynnag, cafodd ymgyrch etholiadol Plaid Cymru, ac Ieuan Wyn Jones, yr arweinydd sydd ar fin ymadael, sgôr isel gan y pleidleiswyr, sy’n gwneud y blaid yn llai effeithiol o ran trosi agweddau ffafriol ar ran y cyhoedd yn bleidleisiau.

Mae perfformiad gwaethaf erioed y Democratiaid Rhyddfrydol mewn etholiad y Cynulliad Cenedlaethol yn adlewyrchu cynnydd sylweddol mewn gwrthwynebiad i’r blaid dros y 12 mis blaenorol. Daw’r astudiaeth i’r casgliad y cafodd y Democratiaid Rhyddfrydol eu hachub rhag trychineb gan ddau ffactor: lwc ac arweinyddiaeth. Roedd y blaid yn ffodus i ennill dwy sedd ranbarthol gyda chyfanswm o lai na 250 pleidlais o fwyafrif. Ac er gwaethaf amhoblogrwydd ei phlaid, daeth yr arweinydd Kirsty Williams allan o’r ymgyrch fel yr ail arweinydd mwyaf poblogaidd yng Nghymru, gyda phleidleiswyr yn rhoi sgôr uwch iddi na Nick Bourne ac Ieuan Wyn Jones.

Hefyd nododd yr awduron fod cefnogaeth dros annibyniaeth i Gymru’n parhau o dan 10 y cant o bleidleiswyr (8 y cant), gyda dim ond 16 y cant o sampl yr astudiaeth yn ffafrio dileu datganoli. Mae mwyafrif clir o bleidleiswyr yn ffafrio datganoli, gyda bron i saith o bob 10 (69 y cant) yn cefnogi’r syniad y dylai Llywodraeth Cymru fod â’r ‘dylanwad mwyaf dros y modd y llywodraethir Cymru’ o’i gymharu â dim ond 18 y cant sy’n meddwl mai llywodraeth y DU ddylai fod â’r dylanwad mwyaf dros Gymru. Ar yr un pryd, mae’r canfyddiad o bwysigrwydd llywodraeth ddatganoledig yn cynyddu: ym mis Mai 2007 dim ond traean o’r pleidleiswyr mewn astudiaeth debyg oedd yn meddwl mai Llywodraeth Cymru oedd â’r â’r ‘dylanwad mwyaf dros y modd y llywodraethir Cymru’; erbyn mis Mai eleni, roedd y ganran honno wedi codi i 61 y cant.

Wrth drafod y darganfyddiadau, dywedodd yr Athro Roger Scully o Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru, "Dyma’r etholiad lle’r oedd popeth o blaid Llafur. Dengys ein tystiolaeth mai nhw oedd y blaid fwyaf poblogaidd yng Nghymru, gyda’r arweinydd mwyaf poblogaidd o bell ffordd. Hefyd dengys y data mai’r Blaid Lafur gafodd yr ymgyrch fwyaf gweladwy ac effeithiol o’r holl bartïon. A llwyddwyd i ymgyrchu yn erbyn llywodraeth go amhoblogaidd yn y DU. Felly nid yw’n syndod iddi gael y canlyniad gorau erioed mewn etholiad Cynulliad. Yr hyn fydd yn poeni rhai o gefnogwyr mwy meddylgar y Blaid Lafur efallai yw hyn: os na lwyddwyd i ennill mwyafrif clir yn y Cynulliad mewn amgylchiadau fel hyn, pryd fydd hi’n bosibl iddyn nhw gyflawni hynny?"

Dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru, "Er y bydd y blaid ei hun yn siŵr o bwysleisio’r ‘gwydr hanner llawn’ - ac yn sicr mae tystiolaeth o agweddau cadarnhaol tuag ati ymhlith etholwyr Cymru – byddwn yn awgrymu fod y data yma’n ddigalon iawn i Blaid Cymru. Mae’n rhaid cyfaddef fod ei hymgyrch yn fethiant. Yn benodol, methodd yr arweinydd, Ieuan Wyn Jones, ymgysylltu â’r cyhoedd. Gyda’r blaid bellach wedi ei heithrio o’r llywodraeth ac wedi ei hisraddio rhag bod yn wrthblaid swyddogol, bydd gan olynydd Ieuan Wyn Jones waith caled iawn yn ailadeiladu sefyllfa Plaid Cymru o fewn gwleidyddiaeth Cymru."

Cafodd sampl gynrychiadol o etholwyr Cymru, yn cynnwys dros 2,000 o ymatebwyr, eu cyfweld ar y rhyngrwyd yn ystod pedair wythnos ymgyrch yr etholiad. Cafodd yr ymatebwyr hyn eu cyfweld eto yn syth wedi’r bleidlais.

Rhoddwyd cefnogaeth ariannol i’r astudiaeth gan Gyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol y Deyrnas Unedig.

Dolenni perthnasol:

Canolfan Llywodraethiant Cymru