Skip to content
Skip to navigation menu

English

The Picture of Dorian Gray

07 Chwefror 2013

The picture of dorian gray

Mae sioe gerdd newydd gan fyfyriwr yn y Brifysgol yn dod ag un o weithiau mwyaf nodedig Oscar Wilde i’r llwyfan.

Mae Callum Nicholls, sy’n fyfyriwr Meistr yn yr Ysgol Gerdd, wedi cyfansoddi sioe gerdd wedi’i seilio ar y nofel The Picture of Dorian Gray – sef hanes dyn ifanc sy’n gwneud dymuniad angheuol y byddai darlun ohono’n heneiddio yn hytrach nag ef ei hun.

Cymerodd Callum ychydig dros bum mis i ysgrifennu’r sioe gerdd a fydd yn cael ei pherfformio gan fyfyrwyr cerdd y Brifysgol ar ddwy noson ym mis Chwefror.

Dywedodd Callum: "Rwyf bob amser wedi cael fy ysbrydoli gan waith Oscar Wilde, oherwydd er iddynt gael eu hysgrifennu yn oes Fictoria, maen nhw’n parhau i gyffwrdd â chynulleidfa fodern ac mae ganddynt lawer i’w ddweud am fywyd yn gyffredinol. Cefais fy nenu gan Dorian Gray yn arbennig oherwydd ei natur dywyll, sydd bob amser yn gweddu’n dda i sioeau cerdd, fel sydd yn amlwg mewn gweithiau megis The Phantom of The Opera, Les Miserables a Sweeney Todd, ac mae’r gweithiau hyn wedi ysbrydoli f’ysgrifennu.

"Y cyfan rwy’n gobeithio ei gyflawni yw cael y sioe gerdd hon wedi’i chlywed ac i bobl adael y cyngerdd yn hymian yr alawon. Mae Prifysgol Caerdydd a’r Ysgol Gerdd yn arbennig wedi rhoi llawer i mi. Yn fy nhro, hoffwn i roi cyfle i fyfyrwyr Caerdydd gael y cyfle i berfformio gwaith newydd am y tro cyntaf, a galluogi cynulleidfaoedd i weld sioe gerdd newydd sbon a’r dalent sydd i’w chael yn y Brifysgol."

Cynhelir perfformiadau o The Picture of Dorian Gray yn Neuadd Gyngerdd y Brifysgol, Yr Ysgol Gerdd, ddydd Gwener 22 a dydd Sadwrn 23 Chwefror 2013.

Mae tocynnau’n costio £3.50 i fyfyrwyr a £5 i oedolion a gellir eu prynu ar-lein ar www.ticketsource.co.uk/thepictureofdoriangray. Caiff yr holl elw o’r digwyddiad ei roi i elusen.

Dolenni cysylltiedig:

Yr Ysgol Gerdd