Ysgoloriaethau Ymchwil y Llywydd
26/01/2010
Mae pecyn newydd gwerth miliynau o bunnoedd o ysgoloriaethau ôl-raddedig wedi cael ei roi ar waith, sydd wedi’i gynllunio i fynd i’r afael â’r heriau allweddol o ran hinsawdd, peirianneg, ymchwil cymdeithasol a meddygol a denu’r myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig mwyaf dawnus i’r Brifysgol.
Buddsoddiad newydd gwerth £4 miliwn yw cronfa Ysgoloriaethau Ymchwil y Llywydd, a sefydlwyd i gyd-fynd ag urddo’r Athro Llawlyfrol Nobel Syr Martin Evans yn Llywydd newydd y Brifysgol.
Mae’r ysgoloriaethau newydd yn rhoi cyfleoedd newydd ar gyfer ymchwil, gan gynnwys trin cleifion ag arthritis, datblygu technegau bioddelweddu newydd, mynd i’r afael â rhai o heriau newid hinsawdd y byd, aml-ddiwylliannaeth a datblygu cyffuriau newydd i ymladd afiechydon.
Nod y gwobrau newydd mawreddog yw denu’r ymgeiswyr gorau gyda’r rheiny sy’n gymwys i gael cyllid fel Ysgolheigion Llywyddol sydd â gradd anrhydedd dosbarth cyntaf, neu 2.1 yn ogystal â gradd Meistr ôl-raddedig ar lefel anrhydedd.
Dywedodd Llywydd y Brifysgol, Syr Martin: “Rwyf wrth fy modd â’r ffaith fod y Brifysgol wedi penderfynu gwneud buddsoddiad ariannol mor sylweddol yn denu’r myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig gorau i’r Brifysgol.
Yr Athro Syr Martin Evans
“Mae’r ysgoloriaethau newydd hyn yn pwysleisio ymrwymiad hirsefydledig y Brifysgol i ragoriaeth academaidd a bydd yn helpu cynnal ein henw da am ymchwil academaidd o’r radd flaenaf mewn meysydd allweddol.”
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael y cyfle i weithio ar brosiectau ymchwil newydd o dan oruchwyliaeth ymchwilwyr mwyaf llwyddiannus a sefydledig y Brifysgol mewn amgylcheddau ymchwil dynamig.
Mae cyfanswm 72 o ysgoloriaethau doethuriaeth llawn ychwanegol cyfradd DU y Cyngor Ymchwil yn cael eu cynnig gan y Brifysgol dros y ddwy flynedd nesaf.
Dywedodd yr Is-Ganghellor, Dr David Grant: “Mae hyn yn ychwanegu’n sylweddol at ein buddsoddiad presennol mewn ysgoloriaethau a bydd yn gwella nifer y bobl sy’n ymgymryd ag ymchwil arwyddocaol, heriol ac arloesol i lefel doethuriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.”
Mae ceisiadau am yr ysgoloriaethau newydd eisoes wedi agor mewn rhai meysydd. Mae mwy o wybodaeth a manylion ynglŷn â sut i wneud cais ar gael yn: www.caerdydd.ac.uk/presidents/

