Skip to content
Skip to navigation menu

English

Elfen seicolegol newid yn yr hinsawdd

01 Gorffennaf 2011

Athro Nick PidgeonAthro Nick Pidgeon

Mae ymchwilwyr o Gaerdydd sy’n gweithio yn nhair Athrofa Ymchwil y Brifysgol ar flaen y gad wrth fynd i’r afael â materion o bwysigrwydd rhyngwladol ym meysydd canser, niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl a chynaliadwyedd.

Mae’r Athro Nick Pidgeon, sy’n aelod o’r tîm ymchwil yn yr Athrofa Ymchwil i Leoedd Cynaliadwy ac yn Athro Seicoleg Amgylcheddol yn yr Ysgol Seicoleg, wedi bod yn ymchwilio i’r elfen seicolegol sy’n gysylltiedig â’r newid yn yr hinsawdd.

Hen bryd gwella ein dealltwriaeth o’r elfen seicolegol sy’n gysylltiedig â’r newid yn yr hinsawdd

Un o’r pethau mwyaf dryslyd yn y drafodaeth am y newid yn yr hinsawdd yw er bod y rhan fwyaf o bobl ym Mhrydain a gwledydd eraill yn honni eu bod yn bryderus am hyn a’r amgylchedd yn gyffredinol, ychydig ohonynt sy’n fodlon gwneud newidiadau o bwys er mwyn byw mewn ffyrdd mwy cynaliadwy.

Nid yw newid yn yr hinsawdd yn fygythiad sydd gerllaw

Ar sail ymchwil gan wyddonwyr cymdeithasol dros yr 20 mlynedd diwethaf, rydym yn gwybod cryn dipyn am y rhesymau dros yr argraff hon erbyn hyn.

I rai unigolion, mae rhai elfennau ar fywyd yn fwy perthnasol iddynt na’r amgylchedd yn eu bywydau bob dydd – meysydd fel cysylltiadau personol neu deuluol; sefyllfa ariannol, neu waith. Er bod pobl yn gwerthfawrogi sawl un o effeithiau amlycaf y newid yn yr hinsawdd (cynhesu, lefel y môr yn codi, rhewlifau’n codi), maent yn aml yn tybio mai dim ond pobl eraill, y cenedlaethau i ddod neu leoedd sy’n bell i ffwrdd fydd yn cael eu heffeithio ganddynt. Mewn termau seicolegol, mae’r newid yn yr hinsawdd wedi datblygu’n rhywbeth pell o ran lle ac amser i lawer o bobl.

Nid yw’r dystiolaeth o’r newid yn ddigon amlwg?

Os yw pobl yn ystyried y newid yn yr hinsawdd fel rhywbeth pell nad yw’n arbennig o berthnasol iddynt, mae hyn yn codi cwestiwn y mae seicolegwyr amgylcheddol wedi bod yn ei drafod ers cryn amser. Pan fydd pobl yn dod yn ymwybodol o newid yn yr hinsawdd sy’n effeithio arnynt hwy a’r ardal leol, a fydd hyn yn lleihau’r pellter seicolegol ac yn cynyddu eu pryder yn sgil hynny? Mae ceisio profi’r ddamcaniaeth hon wedi bod yn waith caled am sawl rheswm ac mae’r dystiolaeth wedi bod yn dra amwys hyd yma.

Un o’r problemau dan sylw yw pa mor anodd yw dangos tystiolaeth i bobl o effeithiau uniongyrchol y newid yn yr hinsawdd. Gan amlaf, newidiadau cynnil a geir i systemau naturiol fel patrymau mudo, lefel y môr yn codi’n raddol ac asideiddio’r moroedd, neu fel arall ceir risg ychydig bach yn uwch o dywydd anghyffredin sy’n amrywio’n helaeth bob tymor a hyd yn oed bob dydd.

Mae pobl yn sylwi ar dywydd eithafol

Mae tywydd eithafol fel glaw sy’n achosi llifogydd difrifol, o bosibl, yn cynnig yr arwydd lleol mwyaf gweladwy o beryglon hinsoddol cynyddol. Felly, gall y rhain newid y ffordd y mae pobl yn ystyried newid yn yr hinsawdd drwy ei wneud yn rhywbeth mwy real a diriaethol.

Mewn sawl lle, gan gynnwys y DU, rydym yn gwybod bod cyfnodau dwys o law yn digwydd yn amlach dros y 40-60 mlynedd diwethaf gan achosi mwy o lifogydd – ac mae rhagor o lifogydd yn cael eu darogan.

Fodd bynnag, mae gwneud y cysylltiad uniongyrchol rhwng un digwyddiad o’r fath a newid yn yr hinsawdd yn anodd. Er bod yr ymchwil ddiweddaraf i lifogydd, dan arweiniad Prifysgol Rhydychen, yn dangos bod gweithgarwch pobl yn cynyddu’r posibilrwydd o lifogydd niweidiol yn sylweddol yng Nghymru a Lloegr yn hydref 2000, mae cyfathrebwyr a’r cyhoedd yn cael trafferth cysylltu profiadau gwirioneddol â syniadau mwy haniaethol o risg sy’n seiliedig ar fodelau hinsawdd.

Arolwg ymddygiad

Mae Prydain wedi dioddef cyfres o lifogydd amlwg dros y 15 mlynedd diwethaf ac, o ganlyniad, penderfynasom ailystyried hypothesis am bellter seicolegol drwy ddefnyddio arolwg cynrychiadol cenedlaethol o bwys. Mae’r canfyddiadau, a gyhoeddwyd yn rhifyn cyntaf y cylchgrawn Nature Climate Change, yn rhoi tystiolaeth bod profiad uniongyrchol o lifogydd yn cynyddu pryder am newid yn yr hinsawdd ac, yn bwysicaf oll, parodrwydd pobl i ymddwyn mewn modd cynaliadwy.

Gyda chymorth Ipsos-MORI, holwyd 1,822 aelod o gyhoedd Prydain ar ddechrau 2010. Daeth i’r amlwg i ni fod gan yr unigolion a ddywedodd eu bod wedi dioddef llifogydd yn eu hardal leol yn ystyried newid yn yr hinsawdd mewn ffyrdd tra gwahanol o gymharu â’r rhai nad oeddynt wedi cael profiad o lifogydd. Roedd y canfyddiadau hyn, o ganlyniad, yn gysylltiedig â mwy o barodrwydd i arbed ynni.

Dim ond cam cyntaf yw’r astudiaeth hon, wrth gwrs, ac roedd yr effeithiau a welwyd yn rhai digon cynnil. Fodd bynnag, roeddynt yn gyson ac yn ategu’r ymchwil y mae angen ei chynnal i wella dealltwriaeth o’r berthynas rhwng effeithiau hinsoddol cynyddol a lleol a newid barn y cyhoedd. Rwyf hefyd yn gryf o’r farn bod angen i’r gwaith ymchwil hwn gael ei gynnal ar draws disgyblaethau gan gynnwys gwyddonwyr hinsoddol a chymdeithasol.

Mae ein canlyniadau yn awgrymu ffyrdd newydd y gall gwyddonwyr hinsoddol a llunwyr polisïau amgylcheddol annog pobl i drafod ffyrdd o leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ac addasu i’r newid yn yr hinsawdd.

Er bod effeithiau byd-eang y newid yn yr hinsawdd yn bwysig dros ben o ran llunio polisïau, gall canolbwyntio ar hynny’n unig beri i bobl gyffredin ymbellhau o’r maes ymhellach. Felly, gall gwaith cyfathrebu ganolbwyntio hefyd ar sut mae peryglon hinsoddol, hyd yn oed nawr, yn dod yn fwy diriaethol yn lleol a sut yn union y mae hyn yn effeithio ar bobl, eu hardaloedd a’u bywydau bob dydd. Mewn meysydd polisïau cyhoeddus eraill fel ceisio annog pobl i ymddwyn yn iachach, mae ymdrechion o’r fath yn fater o drefn erbyn hyn. O ran y newid yn yr hinsawdd, canfod ffyrdd o sefydlu ymdrechion tebyg yw’r her.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon am y tro cyntaf ar wefan y Swyddfa Dywydd.

http://www.metoffice.gov.uk/climate-change/guest-writer/nick-pidgeon

Sustainable Places Research Institute