Skip to content Skip to navigation menu
14 Mai 2012
Mae prosiect pum mlynedd ar y cyd rhwng y Brifysgol ac English Heritage sydd â’r nod o lunio cronoleg fwy manwl gywir o wareiddiadau Neolithig yn Ewrop newydd dderbyn €2.5M gan Gyngor Ymchwil Ewrop.
Mae Amserau Eu Bywydau, o dan arweiniad yr Athro Alasdair Whittle o Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd y Brifysgol a Dr Alex Bayliss o English Heritage, yn adeiladu ar y llwyddiant arloesol o gyfuno arbenigedd mewn archaeoleg Neolithig a dadansoddi ystadegol Bayesaidd i fapio cronoleg fanwl gywir o gaeadleoedd â sarnau, sef math o wrthglawdd Neolithig cynnar, ym Mhrydain.
Mae caeadleoedd â sarnau’n nodweddion cynhanesyddol hysbys, ond hyd yn hyn credwyd eu bod wedi lledaenu’n araf ledled Prydain dros bum canrif. Gan ddefnyddio’r dechneg newydd, mae’r Athro Whittle a Dr Bayliss eisoes wedi dangos bod y dosbarth newydd hwn o henebion enfawr wedi ymledu’n gyflym ar hyd a lled de Prydain mewn cyfnod byr o 75 mlynedd, gan ddechrau o Aber Afon Tafwys drwy Gaint a Sussex, ac wedyn i’r gorllewin, ar raddfa ddwys nad oedd yn amlwg cyn hyn. Mae’r wybodaeth newydd fod hyn wedi digwydd yn gyflym o fewn dwy i dair cenhedlaeth wedi chwyldroi’r ffordd y caiff y cyfnod cynhanesyddol ei ddeall a’i astudio ym Mhrydain, ac mae wedi ysgogi diddordeb eang o amgylch y byd.
"Mae ein gallu i astudio bywydau pobl Neolithig ar raddfa cenedlaethau a hyd yn oed degawdau yn y fantol, yn hytrach na’r raddfa fwy arferol o ganrifoedd," meddai’r Athro Whittle o Adran Archaeoleg a Chadwraeth y Brifysgol.
"Mae’r cyfnod Neolithig yn Ewrop, fel mewn mannau eraill dros y byd, o ddiddordeb parhaol oherwydd ei fod yn cyflwyno un o’r trawsnewidiadau mawr yn hanes dynol: dros amser, yn ôl pob tebyg yn aml o gymunedau symudol ac egalitaraidd o helwyr-gasglwyr ar raddfa fach, i gymdeithasau cymhleth, hierarchaidd amrywiol yn seiliedig yn hanfodol ar fodolaeth sefydlog ac economi ffermio. Bydd prosiect Amserau Eu Bywydau yn canolbwyntio ar ddatblygiad y ffordd hon o fyw, yn hytrach na’i chychwyniad."
Bydd y tîm ymchwil yn canolbwyntio ar archwilio safleoedd yn Serbia, Hwngari, Gwlad Pwyl, y Swistir, Awstria, yr Almaen, Ffrainc, Sbaen a Malta, gyda chymorth a chydweithrediad partneriaid Ewropeaidd. Bydd y rhain yn cynnwys twmpathau neu domenni anheddu haenedig dros ben, aneddiadau ‘gwastad’ eraill, mynwentydd, henebion megalithig, a llociau ffosog. Caiff diagramau paill dyddiedig o Loegr eu modelu hefyd.
Wrth esbonio’u dull ymchwil newydd, dywedodd Dr Alex Bayliss o English Heritage: "Yn seiliedig ar theorem Thomas Bayes o’r ddeunawfed ganrif, mae’r fethodoleg Bayesaidd a ddefnyddiwn yn cyfuno dyddiadau radiocarbon â gwybodaeth archeolegol flaenorol o samplau dyddiedig i lunio amcangyfrifon o ddyddiadau wedi’u modelu’n ffurfiol o ddigwyddiadau a ffenomenau mewn unrhyw ddilyniant penodol. Bydd defnydd trylwyr y model hwn yn galluogi cyfrifo amcangyfrifon o ddyddiadau wedi’u meintioli, sy’n llawer mwy manwl gywir ac yn fwy dibynadwy na’r rhai a geir trwy edrych ar ganlyniadau radiocarbon yn unig."
Bydd yr ymchwil yn galw ar arbenigedd tîm o archeolegwyr yng Nghaerdydd a modelwyr ystadegol yn Llundain hefyd. Yn ogystal â llunio darlun cliriach o fywydau ein hynafiaid, mae’r Athro Whittle a Dr Bayliss yn anelu at adael gwaddol o arferion gorau mewn perthynas â’u methodoleg ddewisol a’i heffaith ar ein dealltwriaeth o faterion cronoleg ac amser.
Yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd
http://www.english-heritage.org.uk/
More Tags
First science star for Wales announced 17/06/2013
Study reveals disease-causing parasites in dead otters 17/06/2013
Lansiwyd hwb cymunedol iaith Gymraeg 17/06/2013
Vice Chancellor to co-chair strategic forum for university and business leaders 13/06/2013
This is an externally hosted beta service offered by Google.