Skip to content
Skip to navigation menu

English

Ffosilau mân yn dal atebion i gwestiynau mawr ar y newid yn yr hinsawdd

21 Ionawr 2013

Glacial melting webDr Jenny Pike, Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr

Mae’r Penrhyn Antarctig gorllewinol yn un o’r rhanbarthau ar y blaned sy’n cynhesu gyflymaf, a dyma’r rhan o Hemisffer y De sy’n cynhesu gyflymaf.

Mae gwyddonwyr wedi trafod achosion y cynhesu hwn, yn enwedig yng ngoleuni cofnodion offerynnol diweddar o gynhesu atmosfferig a chynhesu cefnforol o’r rhanbarth. Wrth i’r awyrgylch a’r cefnfor gynhesu, mae’r llen iâ (sy’n dal yr hyn sy’n cyfateb i gynnydd o bum metr yn lefel fyd-eang y môr, wedi’i gloi mewn iâ) yn dod yn agored i ddymchwel.

Nawr, mae gwaith ymchwil dan arweiniad Prifysgol Caerdydd a gyhoeddwyd yn Nature Geoscience (20 Ionawr 2013) wedi defnyddio cofnod unigryw o 12,000 o flynyddoedd o ffosilau algâu morol microsgopig i olrhain mynediad iâ rhewlifol i’r cefnfor ar hyd y Penrhyn Antarctig gorllewinol.

                               
Mae’r astudiaeth wedi canfod bod yr awyrgylch wedi cael effaith fwy sylweddol ar gynhesu ar hyd y Penrhyn Antarctig gorllewinol na chylchrediad cefnforol yn y cyfnod Holosen hwyr (3,500-250 o flynyddoedd yn ôl).

glacier web

Nid oedd hyn yn wir cyn 3,500 o flynyddoedd yn ôl, ac nid yw hyn yn wir yn yr amgylchedd modern. Mae’r astudiaeth wedi dangos hefyd bod y cynhesu atmosfferig hwn yn y cyfnod Holosen hwyr yn gylchol (gyda chylchoedd a oedd 400-500 mlynedd o hyd) a’i fod yn gysylltiedig â chryfder cynyddol ffenomen El Niño - Osgiliad Deheuol (sef patrwm hinsawdd wedi’i ganoli yn y Cefnfor Tawel sy’n isel o ran lledred) sy’n dangos dylanwad cyhydeddol ar yr hinsawdd lledred uchel.

Dywedodd Dr Jennifer Pike, Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr: "Mae ein hymchwil yn helpu deall ymddygiad deinamig Llen Iâ'r Penrhyn Antarctig yn y gorffennol. O ran goblygiadau ein canfyddiadau, dylid ystyried arsylwadau modern o gynhesu wedi’i yrru gan y cefnfor ar hyd y Penrhyn Antarctig gorllewinol fel rhan o gylch naturiol canmlwyddol o ran graddfa amser o amrywioldeb yn yr hinsawdd, ac er mwyn deall y newid yn yr hinsawdd ar hyd y Penrhyn Antarctig, mae angen i ni ddeall y cysylltiadau ehangach o ran yr hinsawdd â gweddill y blaned."

Mae gan iâ sy’n deillio o dir gymhareb nodedig iawn o isotopau ocsigen. Mae’r ymchwil hon yn defnyddio cydraniad uchaf techneg i fesur cymarebau isotopau ocsigen mewn ffosilau algâu morol microsgopig (diatom silica) mewn gwaddodion morol arfordirol yr Antarctig. Pan fydd swm mawr o iâ rhewlifol yn cael ei ryddhau i’r cefnfor arfordirol, mae hyn yn newid y gymhareb o isotopau ocsigen yn nŵr y môr y mae’r algâu morol yn byw ynddo. Mae hyn yn creu nod eglur yn y ffosilau sy’n dangos yr amodau amgylcheddol ar y pryd. Mae gwyddonwyr yn defnyddio cymhareb isotopau ocsigen y ffosilau er mwyn darganfod faint o iâ rhewlifol aeth i mewn i’r cefnfor arfordirol yn y 12,000 mlynedd diwethaf, ac i benderfynu a yw’r amrywiadau ym maint yr iâ a gafodd ei ryddhau yn ganlyniad i newidiadau yn y cefnfor neu’r amgylchedd atmosfferig.

glacier3

Dywedodd yr Athro Melanie Leng, o Arolwg Daearegol Prydain, a Chadeirydd Geowyddorau Isotop yn Adran Ddaeareg Prifysgol Caerlŷr: "Yn dechnolegol mae dadansoddi cyfansoddiad isotopau ocsigen diatom silica yn eithriadol o anodd, ac Arolwg Daearegol Prydain yw un o nifer fach o sefydliadau ymchwil sy’n gallu ymgymryd â’r math hwn o ddadansoddi. Ar gyfer y prosiect ymchwil hwn, datblygwyd y fethodoleg dros y pum mlynedd diwethaf gyda’r nod penodol o ymchwilio i’r meintiau gwahanol o doddi yn y rhanbarthau pegynol. Mae’n deg dweud mai ni yw arloeswyr mwyaf blaenllaw’r byd yn y dechneg hon."

Mae’r gwaith ymchwil wedi’i awduro ar y cyd gan Brifysgol Caerdydd a phrifysgolion Nottingham a Chaerlŷr ac Arolwg Daearegol Prydain a chafodd ei ariannu gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol.

Y Diwedd

Nodiadau i Olygyddion

1.      Gellir darllen y canfyddiadau’n llawn yn y papur "Glacial discharge along the west Antarctic Peninsula during the Holocene" yn Nature Geoscience: http://www.nature.com/ngeo/journal/vaop/ncurrent/index.html

2.      Caiff Prifysgol Caerdydd ei chydnabod mewn asesiadau annibynnol gan y llywodraeth fel un o brifysgolion addysgu ac ymchwil mwyaf blaenllaw Prydain, ac mae’n aelod o Grŵp Russell o’r prifysgolion mwyaf blaenllaw o ran ymchwil ym Mhrydain. Ymhlith ei staff academaidd mae dau enillydd Gwobr Nobel, gan gynnwys enillydd Gwobr Nobel 2007 am Feddygaeth, sef Llywydd y Brifysgol, yr Athro Syr Martin Evans.

Sefydlwyd y Brifysgol drwy Siarter Frenhinol ym 1883 ac erbyn heddiw mae hi’n cyfuno cyfleusterau modern trawiadol ac agwedd ddynamig at addysgu ac ymchwil. Mae ehangder arbenigedd y Brifysgol mewn ymchwil ac addysgu ymchwil-ganolog yn cwmpasu: y dyniaethau; y gwyddorau naturiol, ffisegol  a chymdeithasol a gwyddorau iechyd a bywyd; peirianneg a thechnoleg; paratoi ar gyfer amrywiaeth mawr o broffesiynau; ac ymrwymiad ers amser maith i addysg gydol oes. Cafodd tri Sefydliad Ymchwil mawr newydd yn cynnig ymagweddau newydd a radical at y niwrowyddorau ac iechyd meddwl, bôn-gelloedd canser a lleoedd cynaliadwy eu cyhoeddi gan y Brifysgol yn 2010. www.caerdydd.ac.uk.

3.      Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:

1. Dr Jennifer Pike [dalier sylw: mae Dr Pike yn Awstralia ond gellir cysylltu â hi drwy e-bost am gyfweliad]

Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr
Prifysgol Caerdydd

E-bost: PikeJ@caerdydd.ac.uk

2. Professor Melanie J. Leng

Chair of Isotope Geosciences

Department of Geology, University of Leicester

Ffôn: 0116 252 3922

E-bost yng Nghaerlŷr: mjl49@le.ac.uk

&

Head of Stable Isotopes

NERC Isotope Geosciences Laboratory, British Geological Survey

Ffôn: 0115 9363515

E-bost yn NIGL: mjl@bgs.ac.uk