Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

English

Trosglwyddo rhagoriaeth mewn peirianneg

06/11/2009

Trosglwyddo rhagoriaeth mewn peirianneg

Mae cynlluniau gan y Brifysgol i drosglwyddo gwybodaeth ac arbenigedd mewn peirianneg er budd busnesau yng Nghymru wedi cael hwb gan grant o £1.23M gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae’r dyfarniad o £1.23m, sy’n rhan o raglen Arbenigedd Academaidd i Fusnesau (A4B) Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn galluogi Ysgol Beirianneg y Brifysgol i ddatblygu Canolfan Trosglwyddo Gwybodaeth.

Mae sefydlu’r Ganolfan Trosglwyddo Gwybodaeth yn rhan fawr o Strategaeth Arloesi ac Ymgysylltu yr Ysgol Beirianneg, a’i diben yw helpu i hyrwyddo trosglwyddo gwybodaeth ac ysgogi ymchwil ddiwydiannol ar y cyd gyda busnesau Cymru.

Bydd y Ganolfan yn darparu mynediad at y cyfuniad unigryw o arbenigedd a chyfleusterau o’r radd flaenaf sy’n bodoli yn yr Ysgol, gan helpu cwmnïau i ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd, yn ogystal â’u cynorthwyo i wella’r hyn maent yn ei gynnig ar hyn o bryd er mwyn llwyddo mewn marchnadoedd mwyfwy cystadleuol.

Dywedodd yr Athro Phil Bowen, Cyfarwyddwr Arloesi ac Ymgysylltu, yr Ysgol Beirianneg: “Rydym yn hynod falch o allu sefydlu’r Ganolfan hon a fydd yn galluogi cwmnïau lleol i fanteisio ar ymchwil fyd-enwog a chyfleusterau o radd flaenaf yr Ysgol.”

Mae tri phrosiect trosglwyddo gwybodaeth allweddol yn y Ganolfan newydd – Amgylchedd; Peirianneg Perfformiad; a Chyfathrebu Gwyrdd.

Bydd y prosiect Amgylchedd yn gweithredu ym maes hylifau, nwyon a solidau organig ac anorganig, a gallai fod o fudd i ystod o sectorau, gan gynnwys mwyngloddio, ymgynghori amgylcheddol, trin dŵr, rheoli gwastraff, ailgylchu, peirianneg sifil a pheirianneg prosesu.

Bydd y prosiect Peirianneg Perfformiad yn helpu i wneud pedair technoleg ddiweddar ar gael i fusnesau Cymru: modelu cyfrifiadurol uwch ar gyfer systemau cymhleth fel hongiadau ceir neu robotau a ddefnyddir ar gyfer prosesau gweithgynhyrchu; profion allyriant acwstig ar gyfer asesu difrod, monitro iechyd strwythurol a nodi diffygion gweithgynhyrchu; cydberthynas delweddau digidol ar gyfer nodi elfennau critigol mewn cydrannau, strwythurau a mecanweithiau; ac awtoclaf ar gyfer gweithgynhyrchu cydrannau cyfansawdd o ansawdd uchel ar raddfa fawr. Bydd y technolegau hyn o ddiddordeb arbennig i’r sectorau Modurol, Awyrofod, Amddiffyn, Peirianneg Sifil a sectorau gweithgynhyrchu cyffredinol.

Bydd y prosiect Cyfathrebu Gwyrdd yn helpu busnesau yng Nghymru sy’n gweithredu yn y sector cyfathrebu di-wifr a sectorau cysylltiedig i gynhyrchu cydrannau lled-ddargludol, modiwlau electronig ac isadeileddau sy’n defnyddio ynni’n fwy effeithlon.

Bydd hyn o ddiddordeb i ystod eang o gwmnïau sy’n gweithio yn y maes hwn, gan gynnwys cyfathrebu daearol ac awyrofod, cyflenwyr electroneg a chydrannau pŵer, gweithgynhyrchwyr byrddau cylched printiedig, dylunio rhwydwaith, cwmnïau rheoli ac arolygu, gweithgynhyrchwyr offeryniaeth fesur, a dylunwyr a gweithgynhyrchwyr cylchedau a chydrannau.

Mae Arbenigedd Academaidd i Fusnesau (A4B) yn brosiect £70m chwe blynedd, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chronfeydd Strwythurol Ewropeaidd, i sicrhau bod Cymru’n hyrwyddo i’r eithaf effaith economaidd ei sefydliadau academaidd.

Dywedodd Dirprwy Brif Weinidog Cymru a'r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ieuan Wyn Jones: “Er mwyn datblygu economi gynaliadwy sy’n seiliedig ar wybodaeth, mae angen i ni gryfhau’r cysylltiadau hyn a sicrhau bod gan fusnesau Cymru fynediad i’r ymchwil a’r datblygu a wneir gan ein prifysgolion, a’u bod yn elwa ohonynt.”