Skip to content
Skip to navigation menu

English

Trin diabetes

27 Ionawr 2010

Consultant discussing results

Gwyddys fod lefelau uchel o glwcos heb ei reoli yng ngwaed cleifion â diabetes (hyperglycemia) yn cynyddu marwolaethau, ond mae ymchwil newydd dan arweiniad y Brifysgol yn dangos y gall triniaeth ddwys i reoli glwcos yn y gwaed ei ostwng yn ormodol (hypoglycemia), sydd hefyd yn cynyddu marwolaethau. Felly, dylai targedau lefel y glwcos gwaed fod â therfynau isaf yn ogystal â therfynau uchaf.
Mae’r canfyddiadau mewn erthygl yn The Lancet, wedi’i hysgrifennu gan Dr Craig Currie o’r Ysgol Feddygaeth a chydweithwyr.

Darganfu’r astudiaeth hefyd fod cleifion â diabetes math 2 sy’n derbyn triniaethau yn seiliedig ar inswlin yn 50% yn fwy tebygol o farw na chleifion sy’n derbyn therapi cyfunol drwy’r geg.
Y nod penodol ar gyfer rheoli siwgr gwaed yw dychwelyd haemoglobin glycedig – sef lefel y glwcos yn y gwaed dros gyfnod hir – i amrediad normal. Mae’n hysbys fod rheolaeth dda ar siwgr gwaed yn lleihau cymhlethdodau hirdymor gyda gwythiennau bach mewn perthynas â diabetes math 1 a 2.

Wrth esbonio’r angen am yr ymchwil, meddai Dr Currie: Mae adroddiadau am y posibilrwydd o gyfraddau marwolaeth uwch yn gysylltiedig â rheolaeth ddwys o siwgr gwaed wedi peri trafodaeth ynglŷn ag argymhellion ar gyfer trin diabetes math 2, yn enwedig mewn perthynas â’r targed gorau posibl ar gyfer haemoglobin glycedig. Mae ymchwilwyr wedi awgrymu fod hypoglycemia yn cyfrannu at risg uwch o farwolaeth i gleifion â diabetes. Am fod rheolaeth ddwys o siwgr gwaed yn cynyddu’r risg o hypoglycemia yn fwy gyda rhai cyffuriau nag eraill, mae’n bwysig asesu’r peryglon sy’n gysylltiedig â’r triniaethau gwahanol i ostwng lefel y glwcos yn y gwaed."

Bu’r ymchwil yn asesu’r cysylltiad rhwng marwolaethau o bob achos a haemoglobin glycedig mewn cleifion â diabetes math 2 mewn lleoliad gofal sylfaenol, a’r nod oedd gweld a oedd unrhyw gysylltiad amlwg nad oedd yn ymwneud â’r driniaeth ddiabetes.

Rhannwyd cleifion dros 50 oed a oedd yn dioddef o ddiabetes math 2 yn ddwy garfan, gan ddefnyddio Cronfa Ddata Ymchwil Meddygon Teulu’r DG rhwng Tachwedd 1986 a Thachwedd 2008. Nododd yr ymchwilwyr 27,965 o gleifion yr oedd eu triniaethau wedi dwysau o fonotherapi i therapi cyfunol gyda chyfryngau drwy’r geg i ostwng glwcos gwaed (metformin ynghyd â sulphonylurea), a 20,005 o gleifion a oedd wedi newid i driniaethau a oedd yn cynnwys inswlin.

Ni chynhwyswyd y cleifion hynny yr oedd diabetes yn achos eilaidd. Marwolaeth pob-achos oedd y prif ganlyniad. Nodwyd bod oed, rhyw, statws ysmygu, colesterol, risg gardiofasgwlaidd, ac afiachusrwydd cyffredinol yn ffactorau pwysig o ran dylanwadu ar y sefyllfa, ac fel canlyniad cafodd y data eu cymhwyso gyda golwg ar y ffactorau hyn.

Wrth gynnig sylwadau ar y canfyddiadau, dywedodd Dr Currie: "Er bod y data’n awgrymu y gallai inswlin gynyddu’r risg o farwolaeth mewn diabetes math 2, gallai gwahaniaethau yn nodweddion sylfaenol cleifion sy’n cael triniaeth inswlin, megis bod yn hŷn, cyflyrau meddygol eraill, dioddef yn hirach o diabetes, fod yn rhan o’r risg gynyddol yma.

"Mae angen ymchwil pellach a rhaid asesu’r cydbwysedd risg cyffredinol i weld a yw dwysau rheolaeth glwcos ag inswlin yn ddigon ar ei ben ei hun i gynyddu’r risg o farwolaeth ymhlith cleifion â diabetes.

"Cafodd gwerthoedd cymedrig isel ac uchel ar gyfer haemoglobin glycedig eu cysylltu â chynnydd yn y marwolaethau pob-achos ac achosion cardiaidd. Os bydd hyn yn cael ei gadarnhau, mae’n bosibl y bydd rhaid adolygu’r canllawiau diabetes er mwyn cynnwys gwerth lleiaf.

Tags