Skip to content
Skip to navigation menu

English

Twitter yn dangos cariad at Lee Rigby

22 Mai 2014

Internet_web

Mae gwyddonwyr a fu’n astudio gweithgarwch yn y cyfryngau cymdeithasol yn sgil llofruddiaeth Lee Rigby wedi canfod bod negeseuon yn llawn tensiwn a chasineb hiliol yn llawer llai tebygol o fynd ar led na’r negeseuon sy’n llawn cariad.

Trwy gasglu hanner miliwn o enghreifftiau o drydar yn gysylltiedig â’r ymosodiad trwy Twitter, fe wnaeth academyddion o Arsyllfa Cyfryngau Cymdeithasol Ar-lein y Brifysgol (COSMOS) allu modelu yn ystadegol sut y gwnaeth y cyhoedd ymateb, ac maent wedi cyhoeddi eu canfyddiadau yn y cyfnodolyn rhyngwladol sy’n cael ei adolygu gan gymheiriaid, sef Social Network Analysis and Mining. Roedd gan yr awduron ddiddordeb arbennig mewn nodi’r enghreifftiau o drydar a oedd fwyaf tebygol o fynd ar led ar ôl y digwyddiad.

"Roedd y canlyniadau’n annisgwyl, ac nid oedden nhw’n cefnogi’r cysyniad cyffredin bod llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn hafanau i’r rheiny sy’n lledu cynnwys ar-lein cas a chymdeithasol aflonyddgar," dywedodd Dr Matthew Williams, o’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol.

"I’r gwrthwyneb, gwelsom fod enghreifftiau o drydar a oedd yn cynnwys lefelau uchel o densiwn hiliol, fel y rheiny sy’n lledu cynnwys cas tuag at y rheiny o’r ffydd Foslemaidd, yn ystadegol yn llai tebygol o gael eu haildrydar na negeseuon yn cynnwys teimladau cadarnhaol, er enghraifft trydar dymuniadau da i deulu Lee Rigby," ychwanegodd.

Roedd negeseuon o gariad, canfu’r academyddion, yn ystadegol yn fwy tebygol o gael eu haildrydar yn aml a ffurfio llif gwybodaeth fawr a hirbarhaus.  Roedd hyn wedi’i seilio ar fethodoleg a oedd yn canolbwyntio ar gynnwys emosiynol negeseuon fel teimladau negyddol a chadarnhaol, a thensiwn hiliol, yn ogystal â chynnwys sy’n cysylltu nodweddion o fewn negeseuon, er enghraifft hashnodau a URLau.

Dywedodd y Dr Pete Burnap o’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg:

"Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn aml wedi bod yn gysylltiedig â lledu cynnwys maleisus a gelyniaethus a allai beryglu cysylltiadau cymunedol. Rydym ni’n clywed yn aml am drolio a chyfryngau cymdeithasol yn cael eu defnyddio i aflonyddu aelodau o’r cyhoedd neu grwpiau penodol mewn cymdeithas. Fodd bynnag, mae’r gwaith ymchwil hwn yn rhoi ychydig o dystiolaeth sy’n awgrymu mai’r negeseuon mwy cadarnhaol a chefnogol sy’n mynd ar led yn sylweddol mewn gwirionedd yn dilyn digwyddiadau o’r natur hon."

Y canfyddiadau yw’r cyntaf i ddangos y gallai llwyfannau cyfryngau cymdeithasol, yn arbennig Twitter, hunanreoleiddio, gan atal llif gwybodaeth negyddol a chas yn dilyn digwyddiadau terfysgol a digwyddiadau tebyg o ddiddordeb cenedlaethol. Cam nesaf y gwaith ymchwil i dîm COSMOS yw ymchwilio os yw defnyddwyr cyfryngau cymdeithasol yn cymryd rhan mewn siarad i’r gwrthwyneb, i atal negyddoldeb rhag lledu ar-lein.

Parhaodd y Dr Williams: "Mae gwyddonwyr cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd wedi bod yn ymchwilio i’r modd y mae pobl yn ymddwyn ar-lein ers dros dri degawd.  Mae rhywfaint o’r gwaith hwn ar gymunedau rhithwir wedi dangos y modd y mae hunanreoleiddio, neu’r hyn y mae troseddegwyr wedi’i alw yn ‘gwneud rhywun yn gyfrifol’, yn amlwg ar-lein.  Mae’n ymddangos yn debygol bod y patrwm hwn o ymddygiad yn bresennol mewn rhwydweithiau cyfryngau cymdeithasol."

Dywedodd y Cymrawd Ymchwil, y Dr Claire Wardle o Ganolfan Tow ar gyfer Newyddiaduraeth Ddigidol yn Ysgol Newyddiaduraeth Columbia: "Mae’n demtasiwn llunio barn am sgyrsiau ar-lein, sydd wedi’u seilio ar fawr ddim mwy na chanfyddiad personol, amheuon neu achosion amlwg o gam-drin. Mae’r gwaith ymchwil hwn, sydd wedi’i seilio ar fethodoleg drylwyr, yn rhoi cipolwg go iawn ar y sgyrsiau a’r cynnwys sy’n cael eu rhannu bob dydd ar rwydweithiau cymdeithasol.

"Rwy’n edrych ymlaen at weld yr un fethodoleg yn cael ei defnyddio ar gyfer digwyddiadau eraill er mwyn i ni allu deall p’un ai achos unigryw oedd y canlyniadau hyn wedi’u hachosi gan ddigwyddiad erchyll, neu eu bod, mewn gwirionedd, yn cynrychioli patrwm o ymddygiad o amgylch sylwadau ar rwydweithiau cymdeithasol. Byddai’n wych gwybod, er bod siarad yn gas a cham-drin yn parhau i fod yn broblem, bod y mwyafrif helaeth o bobl, mewn gwirionedd, yn defnyddio rhwydweithiau cymdeithasol i gefnogi ei gilydd a’u cymunedau."

Yr ymosodiad terfysgol ar Lee Rigby oedd y cyntaf yn y DU i feithrin ymateb sylweddol yn y cyfryngau cymdeithasol. Mewn llai nag 20 munud o roi gwybod i’r heddlu am yr achos, roedd llygad-dystion yn defnyddio Twitter i roi gwybodaeth ar led am y digwyddiad wrth i’r stori ddatblygu.  Ymddangosodd delweddau a fideos annifyr ar-lein yn fuan ar ôl hynny. Aeth y pytiau hyn o wybodaeth ar led yn gyflym trwy system eco y cyfryngau cymdeithasol trwy’r weithred o ‘aildrydar’. Archwiliodd tîm COSMOS hefyd p’un a oedd pa mor gyflym yr oedd negeseuon yn cael eu haildrydar yn effeithio ar nifer wirioneddol y negeseuon a oedd yn cael eu haildrydar, ac a oedd defnyddwyr Twitter oedd â mwy o ddilynwyr yn cael mwy o ddylanwad wrth roi negeseuon ar led.

Mae ymchwilwyr yn awr yn bwriadu defnyddio’r un model ystadegol ar gyfer llawer mwy o ddigwyddiadau, gan gynnwys y bomio yn Boston, y cyhoeddiad gan y seren Olympaidd Tom Daley ar YouTube, seremoni agoriadol y Gemau Paralympaidd, ac aflonyddu ar Caroline Criado-Perez ar-lein. 

Mae’r gwaith ymchwil hwn yn cael ei gynnal fel rhan o grant Dadansoddeg Data Google Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) COSMOS: Siarad 'Cas' a’r Cyfryngau Cymdeithasol: Deall Defnyddwyr, Rhwydweithiau a Llif Gwybodaeth’. Mae cydweithredwyr yn cynnwys academyddion o Brifysgolion Warwick a St Andrews.