Skip to content
Skip to navigation menu

English

Deall Awtistiaeth

03 Awst 2010

Bydd Dr McGonigle yn defnyddio’r technegau delweddu diweddaraf i fapio sut mae’r ymennydd yn ymddwyn yn wahanol i gyffyrddiad.Bydd Dr McGonigle yn defnyddio’r technegau delweddu diweddaraf i fapio sut mae’r ymennydd yn ymddwyn yn wahanol i gyffyrddiad.

Gwneir archwiliad o’r ffordd y mae’r ymennydd yn ymateb yn wahanol i synnwyr cyffwrdd mewn pobl ag Awtistiaeth fel rhan o astudiaeth arloesol gan y Brifysgol i helpu i ddeall a thrin y cyflwr yn well.

Bydd Dr David McGonigle, o’r Ysgolion Seicoleg a Biowyddorau, ar y cyd â’r Athrawon Krish Singh, Derek Jones a Dr Richard Edden o Ganolfan Ddelweddu Ymchwil i'r Ymennydd y Brifysgol (CUBRIC), yn defnyddio’r technegau delweddu diweddaraf i fapio sut mae’r ymennydd yn ymddwyn yn wahanol mewn pobl ag Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth (ASD).

Gwyddys fod amhariad synhwyraidd yn effeithio ar ansawdd bywyd pobl ag Awtistiaeth. Gwyddys fod priodweddau penodol yn ymwneud â chyffwrdd, sŵn neu symud yn wrthdynnol ac annifyr i rai pobl, a gall na fydd eraill hyd yn oed yn sylwi ar sŵn neu liw arbennig - a all wneud gweithgareddau beunyddiol yn anodd.

Dywedodd Dr McGonigle, sy’n arwain yr astudiaeth ddwy-flynedd: "Sefyllfa gyffredin yw bod gwaith ar Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth (ASD) yn canolbwyntio ar agweddau cyfathrebol neu gymdeithasol ar yr anhwylder hwn.

"Fodd bynnag, mae symptomau synhwyraidd yn digwydd yn fynych iawn mewn pobl ag ASD. A chofio bod oddeutu 80 y cant o'r rhai y canfyddir eu bod yn dioddef o ASD yn dioddef hefyd o ryw agwedd ar amhariad synhwyraidd, mae hyn yn rhywbeth y mae’n rhaid i ni ei ddeall yn well er mwyn darparu darlun mwy cyflawn o’r anhwylder."

Bydd yr astudiaeth, am y tro cyntaf, yn cyfuno arbrofion arbrofol traddodiadol yn ymwneud â chyffwrdd, megis y gallu i deimlo a gwahaniaethu rhwng gwahanol fathau o ddirgryniadau sy’n cyrraedd y bysedd, â delweddau o’r ymennydd o’r cyfarpar niwroddelweddu diweddaraf.

Bydd Dr McGonigle yn gweithio yng Nghanolfan Ddelweddu Ymchwil i'r Ymennydd (CUBRIC) ym Mhrifysgol Caerdydd, lle bydd yn defnyddio Magnetoenseffalograffeg (MEG) i gofnodi gweithgaredd yr ymennydd; Sbectrosgopeg Cyseiniant Magnetig (MRS) i fesur crynodiad niwrodrosglwyddyddion - y cemegau a ddefnyddir gan gelloedd y nerfau i gyfathrebu; ac MRI trylediad (D-MRI) i ddarparu gwybodaeth ynglŷn â sut mae rhannau gwahanol o'r ymennydd yn cysylltu â’i gilydd.

Ychwanegodd Dr McGonigle: "Mae’r astudiaeth yn caniatáu i ni gyfuno gwybodaeth ar draws technegau arbrofol gwahanol ac i greu darlun cliriach o sut mae’r ymennydd yn ymateb i synwyriadau cyffwrdd mewn pobl ag ASD.

"Wrth wneud hyn rydym yn gobeithio gallu esbonio’n well y symptomau synhwyraidd mewn Awtistiaeth. Yn y diwedd, ein gobaith yw y bydd yr ymchwil hwn yn ein helpu i greu model o’r mathau o amhariad synhwyraidd sy’n perthyn i bobl ag ASD ac ymateb â gwell ffyrdd o driniaeth."

Yr astudiaeth, a ariannwyd gan Sefydliad Waterloo, yw un o’r cyntaf o’i bath i gael eu datblygu gan Ganolfan Ymchwil Awtistiaeth Cymru (WARC).

Dan arweiniad yr Athro Sue Leekam, un o’r ymchwilwyr mwyaf blaenllaw i’r ffactorau ymddygiadol a gwybyddol sy’n effeithio ar gychwyniad a datblygiad Anhwylderau Sbectrwm Awtistiaeth, mae WARC yn gydweithrediad rhwng Awtistiaeth Cymru, Autistica a Llywodraeth Cynulliad Cymru i geisio hybu ymchwil gwyddonol ym meysydd ffactorau risg a chanfod awtistiaeth a gwneud diagnosis cynnar.

Pwysigrwydd yr ymchwil hwn oedd testun cynhadledd ddiweddar a drefnwyd ar y cyd gan WARC a Chanolfan Niwrowyddoniaeth Caerdydd (CNC).

Ymunodd ymarferwyr o ledled De Cymru, gan gynnwys athrawon, pediatryddion, therapyddion lleferydd ac iaith, therapyddion galwedigaethol a chynrychiolwyr o elusennau, ag ymchwilwyr, rhieni a phobl ag awtistiaeth a buont yn trafod eu profiadau personol o’r symptomau a'r angen am fwy o ymchwil yn y maes hwn.

Dywedodd Jackie Edwards, sydd â dau fab yn dioddef o anawsterau prosesu synhwyraidd, wrth y gynhadledd: "Sylweddolais gyntaf fod ganddyn nhw wahaniaethau o ran prosesu synhwyraidd pan oedden nhw’n crïo wrth glywed sugnwr llwch neu sŵn dŵr tŷ bach.

"Gwnaed diagnosis o Awtistiaeth "Kanner" clasurol ar fy ail fab pan oedd yn ddwyflwydd a hanner oed a darganfuwyd yn ddiweddarach fod ei frawd yn dioddef o Syndrom Asperger. Maen nhw nawr yn 21 a 19 blwydd oed ac mae prosesu synhwyraidd yn dal i fod yn anodd iddyn nhw.

"Ar gyfer fy mab Awtistaidd, dewiswyd cartref mewn pentref tawel lle nad oes ond ychydig o geir neu aflonyddwch arall y mae’n rhaid iddo ei brosesu. Cafodd ei gartref ei baentio mewn lliwiau naturiol sy’n tawelu, er ei fod yn mwynhau symbyliad synhwyraidd y gall ei reoli, megis clustogau ffluwchog, a theganau cerddorol.

"Mae fy mab â Syndrom Asperger yn gallu ymdopi’n well â strategaethau fel chwarae ei hoff gerddoriaeth trwy iPod er mwyn boddi sŵn allanol sy’n anodd iddo’i anwybyddu.

"Mae’r ddau fachgen yn sensitif i sut mae dillad yn teimlo ar eu crwyn ac maen nhw’n gorfod gwisgo dillad cyfforddus yn hytrach na rhai ffasiynol. Mae un yn eithafol o sensitif i flas bwyd ac mae ganddo ddiet cyfyngedig, ond bydd y llall yn bwyta unrhyw beth, gan gynnwys yr hyn nad yw’n fwyd.

"Felly, mae ymchwil i brosesu synhwyraidd yn hanfodol oherwydd bydd yn helpu pawb i gael gwell dealltwriaeth o’r hyn y gallai person ag Awtistiaeth fod yn ei brofi yn hytrach nag edrych o safbwynt niwronodweddiadol a disgwyl iddyn nhw ymddwyn yn y ffordd y byddem ni’n ei disgwyl.

"Bydd cael gwell dealltwriaeth o’r hyn yw eu gwahaniaethau prosesu yn ein caniatáu i’w cefnogi yn eu cymuned eu hunain."