Skip to content
Skip to navigation menu

English

Deall Cyfraith Cymru

25 Hydref 2011

Emyr Lews Web

Mae’r cyfreithiwr blaenllaw o Gymru, Emyr Lewis, wedi’i benodi’n Uwch Gymrawd Cyfraith Cymru yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd. Penodiad diwrnod yr wythnos yw hwn.

Ac yntau’n uwch bartner gyda’r cwmni cyfreithwyr, Morgan Cole, bydd Mr Lewis yn gweithio’n agos gyda Phrifysgol Caerdydd i ddatblygu’r astudiaeth o gyfraith Cymru ac ymwybyddiaeth ohoni. Yn ogystal, bydd yn gyfrifol am alluogi cyfreithwyr academaidd a phroffesiynol i ymhél yn agosach â’r broses ddeddfwriaethol fel rhan o gymdeithas sifil.

Mae Mr Lewis, a gymhwysodd ym 1984, yn arbenigo mewn cyfraith gyhoeddus a chyfraith fasnachol, ac mae ganddo ddealltwriaeth benodol o faterion caffael cyhoeddus.

Mae gwaith Mr Lewis wedi cynnwys cynghori’r Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan, Llywodraeth Cymru, Comisiwn Cynulliad Cymru, Prifysgolion, Llywodraeth Leol, CCAUC, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, sefydliadau’r GIG, nifer o gyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru, sefydliadau Addysg Bellach, elusennau a busnesau. Ef hefyd yw aelod y Deyrnas Unedig ar un o gyrff monitro Cyngor Ewrop, sef y Pwyllgor Arbenigwyr, sy’n monitro cydymffurfiad Gwladwriaethau â’u rhwymedigaethau cyfraith ryngwladol o dan y Siarter Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd Rhanbarthol a Lleiafrifol.

Fel Uwch Gymrawd Cyfraith Cymru yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, bydd Mr Lewis yn chwarae rôl ganolog yn natblygiad gweithgareddau sy’n ymwneud â Chyfraith Cymru ac yn cynghori ar y cyfleoedd sy’n codi yng nghyd-destun ymchwil empirig; bydd yn cynnig cymorth a chyngor ac yn cyfrannu at y rhaglen addysgu ym Mhrifysgol Caerdydd, ynghyd â nodi cyfleoedd i gydweithio â Phrifysgolion eraill.

Daw’r cyhoeddiad wrth i Gyfraith Cymru ddenu sylw gwleidyddion yn gynyddol. Mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, a’r Cwnsler Cyffredinol, Theo Huckle, ill dau wedi gwneud datganiadau’n ddiweddar ar bwysigrwydd sicrhau bod cyfraith Cymru’n hygyrch ac yn ddealladwy, ynghyd a datganiadau ar awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru; ar yr un pryd, cyhoeddwyd hefyd y bydd Comisiwn Silk yn bwrw golwg ar bwerau cyfreithiol a chyfansoddiad y Cynulliad.

A chanddo ddiddordeb brwd yng nghyfraith Cymru, mae Mr Lewis yn ystyried y bydd cyfraniad Prifysgolion yn hanfodol ar gyfer sicrhau bod system gyfreithiol iach yng Nghymru. Dywed: "Er 1997, bu newid cyflym a dynamig yn y ffordd y caiff Cymru ei llywodraethu, gyda thri threfniant cyfansoddiadol gwahanol wedi bod ar waith. Mae’n ymddangos bod y newid hwn yn mynd i barhau. Mae gan brifysgolion rôl hollbwysig i’w chwarae o ran sicrhau system gyfreithiol iach, drwy esbonio’r gyfraith yn glir, drwy ddadansoddi gweithrediadau a phenderfyniadau deddfwyr a barnwyr yn feirniadol, ac wrth gwrs drwy ledaenu gwybodaeth a dealltwriaeth drwy gyfrwng gweithgareddau addysgu ac allymestyn. Mae proffesiwn y gyfraith, ac felly’r cyhoedd y mae’n eu gwasanaethu, yn dibynnu ar hyn."

"Mae’n rhaid i ni ymateb i’r heriau a gyflwynwyd gan newidiadau cyfansoddiadol y 14 blynedd diwethaf. Mae hyn yn gofyn am ddatblygu sylfaen academaidd gadarn ar gyfer Cyfraith Cymru ym Mhrifysgolion Cymru. Bydd hyn yn werthfawr nid yn unig o safbwynt yr effaith iach y mae’n debygol o’i chael ar gymdeithas sifil Cymru, ond hefyd o safbwynt y diddordeb y mae’n debygol o’i ennyn ymhlith academyddion mewn gwledydd eraill sy’n edrych ar faes llywodraethu rhanbarthol ac is-wladwriaethol drwyddi draw, sef thema sydd o arwyddocâd cynyddol."

Dywedodd Richard Wyn Jones, Athro Gwleidyddiaeth Cymru a Chyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd ynghylch penodiad Mr Lewis: "Mae Emyr yn ffigur blaenllaw ym myd y gyfraith yng Nghymru ac mae ganddo’r profiad angenrheidiol i fod yn bwynt cyfeirio canolog mewn trafodaethau cyhoeddus ynghylch datblygiad Cyfraith Cymru a’r sefyllfa gyfreithiol yng Nghymru. Bydd ei waith yn cynnwys meithrin cysylltiadau a rhwydweithiau ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn allanol mewn perthynas â datblygiad Cyfraith Cymru, sefydliadau cyfreithiol yng Nghymru a datganoli’n fwy cyffredinol."

"Mae ef mewn sefyllfa arbennig o dda i gyfrannu at lunio a chyflwyno rhaglenni ymchwil a rhaglenni allymestyn Canolfan Llywodraethiant Cymru, gan fod yn gatalydd ac yn fentor ar gyfer gwaith ymchwil ac addysgu ar Gyfraith Cymru a’r sefyllfa gyfreithiol yng Nghymru, yn Ysgol y Gyfraith, Caerdydd. Rydym yn falch iawn ei fod yn ymuno â ni."

Meddai Robin Havard, Cadeirydd Morgan Cole: "Rydym yn falch iawn bod Emyr wedi cael ei benodi i’r swydd hon. Mae’n rhan o draddodiad yr ydym yn falch iawn ohono, traddodiad sy’n mynd yn ôl ganrif a mwy, o bartneriaid yn y cwmni yn cyfrannu at fywyd cyhoeddus Cymru. Gwyddom y bydd yn dod â’r brwdfrydedd a’r deallusrwydd sydd i’w gweld yn ei waith gyda chleientiaid i’r swydd hon."

Bydd Mr Lewis yn dechrau ar ei waith gyda Phrifysgol Caerdydd ar 1 Tachwedd 2011. Bydd yn parhau’n uwch bartner gyda Morgan Cole ac yn parhau â’i waith i gleientiaid yn ôl yr arfer.