Skip to content
Skip to navigation menu

English

Ffordd o fyw myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd

06 Ebrill 2011

Open Day 2011

Sut mae adfer data Satnav yn fforensig? Beth yw seicoleg y newid yn yr hinsawdd? Pam y mae hi’n anodd gwrthsefyll apêl bwyd? Sut y mae’r broga’n ein helpu ni i ddysgu cyfrinachau datblygiad yr embryo? Beth wnaeth archaeolegwyr Caerdydd ei ddarganfod yn ddiweddar y tu allan i’r gaer Rufeinig yng Nghaerllion?

Dyna ddim ond dyrniad o’r cwestiynau a gaiff sylw ar y campws heddiw (6 Ebrill) gan y miloedd o ddarpar fyfyrwyr sy’n dod i Ddiwrnod Agored 2011.

Bydd y Brifysgol yn dangos ei chyfleusterau diweddaraf un, a’i hymchwil o safon fyd-eang, i ryw 5500 o fyfyrwyr, miloedd o rieni a thros 150 o athrawon yn y diwrnod agored mwyaf a gynhelir gan unrhyw brifysgol yng Nghymru.

Daeth ymwelwyr i’r brifddinas o bob cwr o Gymru, y DU ac Ewrop i gael eu cyflwyno i fywyd y brifysgol yng Nghaerdydd.

Drwy i ddarpar fyfyrwyr gael gwybod am yr ymchwil ddiweddaraf yma, cânt gyfle i fagu profiad uniongyrchol o’r amgylchedd addysgu ymchwil-ganolog sydd yng Nghaerdydd. Yn ystod rhaglen helaeth o ddigwyddiadau ar draws pob un o’r 25 o ysgolion academaidd, caiff myfyrwyr gyfle hefyd i ymweld â phob math o labordy, i fynd i ddarlithiau enghreifftiol ac i gael gwybod am fwy na 300 o raglenni gradd israddedig.

Yn ystod y digwyddiad, caiff myfyrwyr grwydro Undeb y Myfyrwyr, gweld preswylfeydd y myfyrwyr a chael gwybod am y problemau allweddol sy’n wynebu israddedigion.

Meddai David Roylance, Pennaeth Recriwtio Israddedigion i Brifysgol Caerdydd: "Diwrnod Agored Prifysgol Caerdydd yw’r digwyddiad mwyaf o’i fath yng Nghymru ac mae’n gyfle i filoedd o fyfyrwyr ddod i weld bywyd go-iawn mewn prifysgol.

"Rydyn ni’n cynnig safonau academaidd rhagorol a chyfleusterau modern wrth galon prifddinas fywiog a chosmopolitaidd. Mae hynny’n gyfuniad deniadol i fyfyrwyr sydd wrthi’n ystyried eu dewisiadau o ran addysg uwch."

I gael gwybod rhagor am y Diwrnod Agored, ewch i www.caerdydd.ac.uk/opendays.

 

Tags

Newyddion Diweddaraf On Campus