Skip to content
Skip to navigation menu

English

Y Brifysgol yn rhan o fenter bwysig newydd ar newid yn yr hinsawdd

27 Tachwedd 2009

Sunset

Mae arbenigwyr o’r Brifysgol yn rhan o gonsortiwm ledled Cymru i astudio effaith newid yn yr hinsawdd ac ehangu cryn dipyn ar broffil gwyddoniaeth hinsawdd Cymru.

Cyhoeddwyd heddiw bod Caerdydd wedi uno â phrifysgolion Aberystwyth, Bangor ac Abertawe yng Nghonsortiwm Newid Hinsawdd Cymru (C3W) mewn menter gwerth £4 miliwn i’w hariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) drwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC).

Ar y cyd â chymorth ychwanegol gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru a buddsoddiad sylweddol gan y pedair prifysgol, mae’r Consortiwm wedi’i ddatblygu gan grŵp o academyddion sy’n cael eu parchu’n rhyngwladol mewn cydweithrediad â staff mewn ystod eang o ddisgyblaethau’n ymwneud â hinsawdd ledled y pedair prifysgol. Mae’r disgyblaethau hyn yn cwmpasu achosion ac effaith newid yn yr hinsawdd ar dir, môr, atmosffer a’r cryosffer, ynghyd â’i ganlyniadau cymdeithasol.

Bydd Caerdydd yn derbyn bron i chwarter y buddsoddiad i gefnogi ymchwil, yn cynnwys swyddi cyfadran ac ymchwilwyr ledled y chwe ysgol partner – Biowyddorau, Seicoleg, Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr, Cynllunio Dinesig a Rhanbarthol, Peirianneg a’r Gwyddorau Cymdeithasol. Ar y cyd ag aelodau arall y consortiwm, byddant yn cyfeirio at y pedair Her Fawr a themâu a ganfuwyd gan C3W: Modelu system y ddaear; newid yn lefel y môr; gwerthuso peryglon, gostyngiad ac addasiad; a dimensiwn Cymru newid yn yr hinsawdd.

Mae gan y C3W ddau nod trosfwoal, sef gwella ein dealltwriaeth sylfaenol o achosion, natur, amseru a chanlyniadau newid yn yr hinsawdd ar amgylchedd y Ddaear ac ar y ddynoliaeth; ac i ail-gyflunio ymchwil i’r hinsawdd yng Nghymru fel canolfan rhagoriaeth gydnabyddedig ar lwyfan y byd.

Dywedodd Dr David Grant, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Mae agenda newid yn yr hinsawdd yn un hynod o enbyd fydd yn effeithio ar hanfodion sylfaenol bywyd i nifer o bobl o gwmpas y byd. Mae Prifysgol Caerdydd yn ymwneud ag ychydig o feysydd ymchwil perthynol ar ynni carbon isel a defnydd ynni effeithlon eisoes. Bydd bod yn aelod o C3W yn brif rôl yng nghyfraniad pellach y Brifysgol at ddyfodol mwy cynaliadwy i bawb, ac yn rhaglen ymchwil fwy cydweithrediadol, aml-ddisgyblaethol ledled Cymru i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a’i ganlyniadau.

Dywedodd Yr Athro Ian Hall o Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr, Cyfarwyddwr Sefydliadol C3W a phrif wyddonydd Systemau Morol ac Atmosfferig a Newid yn yr Hinsawdd: "Mae C3W yn cynrychioli cyfle pwysig iawn i ehangu ymhellach yr ymchwil rhyngddisgyblaethol rhagorol yn ymwneud â newid yn yr hinsawdd sy’n digwydd ledled Prifysgol Caerdydd.

"Nodwedd unigryw’r fenter hon fydd y modd mae gwyddonwyr natur a chymdeithasol yn cydweithio ar y broblem hon yng Nghaerdydd am y tro cyntaf erioed. Trwy fynd i’r afael â nifer o gwestiynau sylfaenol a anelir at ddeall gwyddoniaeth newid yn yr hinsawdd, bydd y consortiwm yn helpu i leihau ansicrwydd mewn rhagfynegiadau yn y dyfodol yng Nghymru a’r DU, a gwella ein gwybodaeth am yr agweddau dynol a chymdeithasol sy’n gysylltiedig â newid o’r fath."

Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Addysg: "Newid yn yr hinsawdd yw un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu’r byd heddiw ac mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i chwarae ei rhan wrth fynd i’r afael â’r mater. Mae’r prosiect chwe blynedd yn anelu at wella ein dealltwriaeth o achosion, natur, amseru a chanlyniadau newid yn yr hinsawdd ar ein hamgylchedd ynghyd â sefydlu Cymru fel awdurdod cydnabyddedig yn nhermau ymchwil i’r hinsawdd."

Bydd C3W yn darparu ffocws canolog ar gyfer bron 200 o staff academaidd, gan annog cydweithio ffurfiol rhwng y prifysgolion, ac adeiladu ar rwydweithiau o bartneriaid yn y DU ac yn rhyngwladol sydd eisoes wedi’u sefydlu. Y bwriad yw llywio’r broses benderfynu ynghylch dyfodol cynaliadwy i Gymru, a chefnogi’r ddarpariaeth o wybodaeth berthnasol, ddiweddar ar gyfer ysgolion, prifysgolion, busnesau a’r cyhoedd ehangach, er mwyn iddynt oll wneud dewisiadau gwybodus ynglŷn â’n ffyrdd o fyw yn y dyfodol.

Nid yng Nghymru yn unig y mae ymchwilwyr Cymreig yn mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, ond ledled y blaned o’r Antarctig a thrwy’r trofannau hyd at yr Arctig, ac o dir at y moroedd dwfn. Ar y cyd, mae ganddynt bersbectif byd-eang y gellid ei ddefnyddio i bwyso ar gynllunio ar gyfer ein dyfodol cyfunol. Mae nifer o fentrau cydweithrediadol eisoes yn digwydd, yn cynnwys asesiad o sefydlogrwydd Llen Iâ yr Ynys Las sydd ymhlyg yn lefelau cynyddol y môr yn y dyfodol, ac yn y modd y gall cofnod gwaddodol blaenorol yng Nghefnfor Gogledd yr Iwerydd roi gwybod i ni am ymatebion hinsawdd y dyfodol i newid cylchrediad cefnforol.

Mae dechrau C3W yn cyd-daro â Chynhadledd hanfodol Newid yn yr Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig yn Copenhagen (7-18 Rhagfyr).

Tags