Skip to content
Skip to navigation menu

English

Datgloi imiwnedd

26 Hydref 2009

Athro Andy SewellAthro Andy Sewell

Mae ymchwil i imiwnedd a haint ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cael hwb gwerth sawl miliwn o bunnoedd gyda dyfarniad pwysig gan y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC).

Bydd tîm a gydnabyddir yn rhyngwladol o’r Ysgol Feddygaeth, dan arweiniad yr Athro Andy Sewell, yn arwain eu gwaith blaenllaw i gelloedd T ar ôl cael £3m gan BBSRC.

Mae celloedd T yn cyflawni rolau hanfodol yn y system imiwnedd ddynol. Maent yn rheoli heintiau ac yn ein hamddiffyn rhagddynt, yn hanfodol o ran cael gwared â chanser yn naturiol ac yn rhan allweddol o frechiadau llwyddiannus.

Gall celloedd T gamweithio hefyd a, phan ddigwydd hyn, credir eu bod yn achosi clefydau awtoimiwn fel diabetes, crydcymalau gwynegol a pharlys ymledol. Fel arfer, mae awtoimiwnedd yn hirbarhaol, yn fwyfwy gwanychol ac ni ellir ei wella, ac mae’r clefydau hyn yn arwain at gostau dynol ac ariannol enfawr.

Bydd y dyfarniad gwerth £3m yn galluogi’r Athro Sewell a’i dîm i archwilio sut y mae celloedd T unigol yn cydnabod niferoedd mawr o antigenau estron (sy’n cael ei alw’n groesadweithedd). Mae’r croesadweithedd hanfodol hwn yn cael ei alluogi gan fod y moleciwl derbyn ar wyneb y gell T yn amlgymharus iawn ac yn gallu adnabod llawer o ‘siapiau’ molecwlaidd tebyg.

Er bod amlgymharaeth derbynyddion celloedd T yn galluogi ein celloedd T i reoli haint, credir ei bod hefyd yn gyfrifol am yr effeithiau niweidiol y gall y celloedd hyn eu hachosi ambell waith. Credir fod awtoimiwnedd yn digwydd pan fo derbynnydd sy’n cael ei godi i frwydro haint yn ddigon amlgymharus i adnabod ein meinweoedd ein hunain yn anfwriadol. Gall yr adnabyddiaeth amlgymharus hon arwain at adweithiau alergaidd hefyd a hwn yw’r rheswm pam y mae celloedd imiwnedd yn ymosod ar organau ‘estron’ yn ystod yr wythnos gyntaf ar ôl eu trawsblannu hefyd.

Wrth egluro’r angen am yr ymchwil hon, dywedodd yr Athro Sewell: "Mae amlgymharaeth derbynyddion celloedd T wrth wraidd y rhan fwyaf o iechyd dynol. Er gwaethaf ei phwysigrwydd amlwg, ni wnaed ymgais priodol hyd yma i archwilio nac asesu’r amlgymharaeth hon na’r croesadweithedd y mae’n ei alluogi. O’r diwedd, mae offerynnau newydd a ddatblygwyd gan y tîm yng Nghaerdydd wedi darparu’r allwedd i ddatgloi’r astudiaeth hon ac yn gwneud yr ymchwil hon yn arbennig o amserol.

"Mae ymchwil fiolegol sylfaenol yn hanfodol ar gyfer defnyddiau clinigol diweddarach, ond mae hwn yn un o’r meysydd lle mae’r posibilrwydd o drosiadau yn glir o’r dechrau. Gan hynny, rydym yn disgwyl y bydd y gwaith hwn yn arwain at ddeilliannau gwerthfawr sy’n gwella arfer clinigol, yn ogystal â hybu ein dealltwriaeth o’r rhyngweithiad sy’n cyd-drefnu imiwnedd dynol."

Dywedodd yr Athro Janet Allen, Cyfarwyddwr Ymchwil BBSRC: "Mae ymchwil biowyddoniaeth sylfaenol yn hanfodol o ran tanategu datblygiadau mewn meddygaeth a gofal iechyd. Trwy ddeall y prosesau sydd wrth wraidd y modd y mae ein cyrff yn gweithio, fel amlgymharaeth derbynyddion celloedd T, gall ymchwilwyr symud ymlaen i ddefnyddio’r wybodaeth honno i ddatblygu triniaeth a therapïau newydd ar gyfer ystod eang o glefydau."

Mae gan yr Athro Sewell a’i dîm hanes hir mewn ymchwilio i gelloedd T. Maent eisoes wedi helpu i greu derbynyddion celloedd T sy’n gallu adnabod yr holl ffyrdd hysbys y mae HIV wedi cuddio ei hun er mwyn osgoi cael ei ganfod. Roedd y celloedd a grëwyd yn enetig yn gallu dinistrio celloedd a oedd wedi’u heintio â HIV, ac mae profion clinigol newydd ddechrau.

Ychwanegodd yr Athro Sewell: "Mae defnyddiau posibl a manteision y gwaith hwn yn eang. Rydym eisoes wedi adeiladu derbynyddion celloedd T sy’n ddigon amlgymharus i weld holl amrywiadau osgoi imiwnedd y firws HIV. Ar ben hynny, rydym wedi adeiladu derbynyddion sydd â ‘siapiau’ gwell ar gyfer canfod a dileu canser. Yn ogystal, rydym yn disgwyl i’r gwaith hwn chwyldroi brechiadau a rhoi mewnwelediad i falltod clefydau awtoimiwn."

BBSRC yw prif gyllidwr ymchwil biowyddoniaeth yn y DU. Mae’n buddsoddi tua £450m y flwyddyn mewn gwyddoniaeth a hyfforddiant arloesol sy’n helpu i gefnogi ansawdd bywyd y genedl ac economi’r DU trwy danategu datblygiadau mewn gofal iechyd, deunyddiau fferyllol, bwyd ac amaeth.

Erbyn hyn, mae’r tîm yng Nghaerdydd yn cynnwys arbenigedd clinigol yr Athro David Price mewn clefydau heintus, cefndir milfeddygol Dr Linda Woolridge, yn ogystal â Dr Pierre Rizkallah, ffisegydd sy’n arbenigo mewn crisialeg protein. Bydd Hugo van den Berg o Ganolfan Fioleg Warwick Systems yn helpu’r tîm amlddisgyblaeth hon i ddadansoddi’r data. Bydd y grŵp yn dechrau gwaith ar yr ymchwil newydd ym mis Tachwedd 2009.

Tags