Skip to content
Skip to navigation menu

English

Dadorchuddio rhyfeddodau Galaethol newydd

15 Chwefror 2012

Unveiling new Galactic surprises webY “Tarth Galaethol” fel y’i mesurwyd gan Planck, i’w weld fel tywyn ger y Craidd Galaethol. Y band tywyll ar draws y canol yw'r lle cafodd yr allyriad cryf o weddill yr Alaeth ei guddio. Nid yw tarddiad y Tarth yn hysbys eto, ond mae yna nifer o bosibiliadau. Y llun gan: Gydweithrediaeth yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd/Planck

Mae cyrch Plank gan yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd, â chymorth seryddwyr y Brifysgol, wedi dadorchuddio rhyfeddodau pellach ynglŷn â’n Galaeth, gan ddod â gwyddonwyr yn nes at allu deall ffurfiant y Bydysawd.

Mae’r canlyniadau yn cynnwys cymylau o nwy oer nad oedd neb yn gwybod amdanynt o’r blaen, a tharth rhyfedd o allyriad microdon ger canol yr Alaeth.

Mae Planck yn archwilio’r awyr yn ôl tonfeddi microdon a’r nod pennaf o ran gwyddoniaeth yw arsyllu ar y Cefndir Microdon Cosmig, sef ôl-dywyniad y Glec Fawr. Ond yn ystod ei ymchwil cosmolegol bydd Planck hefyd yn creu mapiau o unrhyw beth yn y blaendir, sydd yn cynnwys ein Galaeth ni ein hunain.

Mae seryddwyr yn fyd eang, gan gynnwys y rhai yn Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth y Brifysgol yn prysur astudio’r mapiau hyn, ac eisoes cyflwynwyd rhai o’r canlyniadau rhyngol.

Mae’r rhan fwyaf o’r allyriad o’n Galaeth ni yn cael ei achosi gan nwy a llwch poeth rhwng y sêr, neu gan electronau egnïol dros ben sydd yn symud drwy’r meysydd magnetig. Hefyd, mae offer Planck yn gallu canfod yr allyriad o gymylau oer iawn o nwy sydd ar wasgar ledled y Llwybr Llaethog.

Prif gyfansoddyn y cymylau hyn yw hydrogen, er ei bod yn anodd iawn ei weld am nad yw moleciwlau hydrogen yn allyrru llawer o olau. Yn hytrach, bydd seryddwyr yn adnabod y cymylau nwy wrth ganfod allyriad gan foleciwlau monocsid carbon; er bod yr allyriad hwn yn brinnach, mae’n haws ei ganfod.

"Mae’n wych bod data o’r fath yn dod yn serendipaidd wrth i ni gael prif ganlyniadau gwyddoniaeth Planck," meddai Dr Locke Spencer, o’r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth ac aelod o gydweithrediaeth Planck.

"Mae’n anodd iawn gallu gweld monocsid carbon ar y tonfeddi hyn, ac mae angen llawer o arbenigwyr mewn sawl maes yn cydweithio. Bydd y map monocsid carbon o’r awyr gyfan yn adnodd hollbwysig i seryddwyr sy’n defnyddio telesgopau eraill, gan ddangos lleoedd eraill i chwilio am sêr sydd yn y broses o gael eu ffurfio," ychwanegodd.

Canlyniad mwy anarferol byth yw canfyddiad tarth rhyfedd o allyriad microdon ger y Craidd Galaethol. Mae ffenomen sy’n cael ei deall yn gymharol dda, sef ‘allyriad syncrotron’, yn ymwneud ag electronau cyflym iawn yn teithio drwy feysydd magnetig. Fodd bynnag, ymddengys fod y tarth yn cael ei achosi gan boblogaeth o electronau ag egni annisgwyl, na wyddys i sicrwydd beth yw’r tarddiad.

Mae yna nifer o esboniadau posibl ar gyfer y tarth, ond ni chafodd yr un ei gadarnhau. Mae’n bosibl fod yna fwy o uwchnofâu nag a dybiwyd yng nghanol yr Alaeth, neu efallai bod yr hyn sy’n dod o’r Craidd Galaethol yn llifo’n gryfach am ryw reswm.

Posibilrwydd mwy diddorol yw y gallai’r electronau fod yn ganlyniad i ddifodiant gronynnau sylwedd tywyll. Os yw hyn yn wir, yna byddai gennym ffordd newydd o olrhain y cyfansoddyn anarferol hwn o’r Bydysawd.

"Roeddem yn gwybod drwy’r amser y byddem, wrth archwilio’r awyr gyfan mnaw tonfedd, yn gwneud darganfyddiadau annisgwyl," meddai’r Athro Peter Ade, o’r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, a fu’n gyfrifol am adeiladau, profi a graddnodi’r canfodyddion sy’n synhwyro oerfel eithafol a leolir yng nghanol yr Offer Amledd Uchel.

"Mae canfod y tarth yn y Craidd Galaethol a mapio serendipaidd y nwy oer yn enghreifftiau da o hyn. Wrth i ni ddal i gloddio’n ddyfnach i’r delweddau a chanlyniadau dylem gael llawer iawn rhagor o ddarganfyddiadau diddorol dros ben," ychwanegodd.

Dolenni Perthynol

Yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth

Planck

Yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd (ESA)