Skip to content Skip to navigation menu
28 Mehefin 2008
Mae seiciatreg ym Mhrydain yn wynebu "argyfwng hunaniaeth", yn ôl erthygl yn rhifyn Gorffennaf 2008 o’r British Journal of Psychiatry.
Mae awduron yr erthygl, gan gynnwys rhai o Athrawon mwyaf blaenllaw Prydain – yn eu plith, yr awdur blaen yr Athro Nick Craddock o’r Ysgol Feddygaeth – yn hawlio bod ansawdd gofal cleifion dan fygythiad oherwydd y newidiadau diweddar yn y GIG. Yn benodol, mae’r gwelliannau diweddar sydd i’w croesawu mewn gofal seicogymdeithasol wedi arwain yn anfwriadol at danseilio ymagweddau meddygol at ddiagnosis a thriniaeth.
Y canlyniad yw ‘datganoliad ymgripiol meddygaeth’ sy’n niweidio gallu seiciatryddion i ddarparu gofal seiciatrig rhagorol.
Mae’r arbenigwyr yn galw am well dealltwriaeth a chydnabyddiaeth o'r rhan allweddol sydd gan seiciatreg wrth reoli pobl â salwch meddwl. Mae’r blaenoriaethau’n cynnwys:
Dywedodd yr Athro Craddock, o adran meddygaeth seicolegol yr Ysgol: "Mae’r ymdrechion didostur i fychanu pwysigrwydd meddygaeth yn seiciatreg y GIG eisoes yn golygu rhoi llawer o gleifion dan anfantais ac mae’n cynyddu yn hytrach na lleihau gwarth y rhai â salwch meddwl.
"Wrth i’r ddealltwriaeth o glefydau dynol cymhleth gynyddu'n gyson, mae yna wir berygl y bydd yr ymbellhau diweddar oddi wrth ymagweddau biofeddygol at salwch seiciatrig yn gyrru cleifion fwyfwy i’r cyrion mewn cymhariaeth â'r rhai sy’n dioddef o salwch corfforol."
First science star for Wales announced 17/06/2013
Study reveals disease-causing parasites in dead otters 17/06/2013
Lansiwyd hwb cymunedol iaith Gymraeg 17/06/2013
Vice Chancellor to co-chair strategic forum for university and business leaders 13/06/2013
This is an externally hosted beta service offered by Google.