Skip to content
Skip to navigation menu

English

Cymru’n penderfynu

03 Mai 2011

Barn yr Athro Richard Wyn Jones am etholiadau’r CynulliadBarn yr Athro Richard Wyn Jones am etholiadau’r Cynulliad

"Os yw etholiad yr Alban yn frwydr uniongyrchol rhwng Alex Salmond ar y naill ochr ac Iain Gray ar yr ochr arall, gyda’r ddau ohonynt yn ymgorffori egwyddorion eu pleidiau’n glir, rhaid dweud bod y sefyllfa yng Nghymru yn dra gwahanol.

"Yn ôl pob golwg, nid yw’r etholwyr yn ystyried gallu cymharol arweinwyr gwleidyddol Cymru yn bwnc allweddol. Ar yr olwg gyntaf, gall hyn beri syndod. Gellir bod wedi disgwyl i wleidyddiaeth Cymru ers datganoli ddilyn y tueddiad i roi pwyslais cynyddol ar bersonoliaethau. Wedi’r cwbl, ni fyddai tueddiad o’r fath yn newydd yng Nghymru o ystyried rôl a dylanwad Rhodri Morgan yn ystod y degawd cyntaf ar ôl datganoli.

"Nid oes llawer o bolisïau’n cael eu trafod ychwaith. Er bod y pedair prif blaid wedi cyhoeddi maniffestos hirwyntog - yn gwbl ddwyieithog ac yn 218 tudalen o hyd yn achos y Blaid Lafur - prin yw’r syniadau sy’n cipio’r dychymyg. Nid yw’n ymddangos ychwaith bod brys i ddefnyddio’r pwerau deddfu newydd y bydd y Cynulliad yn eu hetifeddu yn sgil buddugoliaeth ysgubol y bleidlais ‘ie’ yn y refferendwm diweddar.

"Dim ond y Ceidwadwyr Cymreig sydd wedi ystyried hyn o ddifrif yn ôl pob golwg. Maent bellach wedi cydio’n llwyr yn y broses ddatganoli ar ôl ei gwrthwynebu am gyhyd - ymgyrchodd pob un o aelodau’r Ceidwadwyr yn y Cynulliad dros bleidlais ‘ie’ - nid oes unrhyw awgrym o betruster neu hyd yn oed besimistiaeth y datganolwyr traddodiadol yn eu maniffesto.

"Y ffactor tyngedfennol yn yr etholiad hwn fydd ymateb Cymru i’r glymblaid yn llywodraeth y DU, fel y dangoswyd drwy gymharu polau opiniwn a gynhaliwyd yng Nghymru cyn ac ar ôl etholiad cyffredinol y DU yn 2010.

"Ddechrau mis Mai 2010, cyn yr etholiad cyffredinol diwethaf, roedd sut yr oedd yr etholwyr am bleidleisio wedi aros fwy neu lai’r un fath â beth ddangosodd y pôl blaenorol yn 2007. Fodd bynnag, erbyn mis Mehefin, roedd y gefnogaeth i’r Blaid Lafur wedi cynyddu 10 pwynt llawn o 32% i 42%, tra bod y gefnogaeth i’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi plymio o 20% i 12%. Mae Llafur yn agosáu at 50% yn ôl y polau mwyaf diweddar.

"Mae rhan o hyn wedi bod ar draul y Democratiaid Rhyddfrydol ac mae’r gefnogaeth ar eu cyfer nhw wedi parhau i lithro i oddeutu 8% yn y pôl mwyaf diweddar. Fodd bynnag, yn lle cael hwb disgwyliedig ymysg yr etholwyr ar ôl y refferendwm, mae’n ymddangos bod Plaid Cymru hefyd yn colli tir i’r Blaid Lafur. O fod fwy neu lai’n gydradd ail gyda’r Ceidwadwyr mae Plaid Cymru wedi llithro i oddeutu 17%.

"Erbyn hyn, mae’n edrych yn anochel y bydd Llafur yn gwneud yn dda iawn ac mai’r Ceidwadwyr fydd yn ail. Nid yw’n glir, fodd bynnag, beth fydd maint y gwymp i’r Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru. O ystyried sut gallai perfformiad eithriadol o wael gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru effeithio ar glymblaid y DU, mae’n fwy na phosibl mai nhw fydd y blaid fydd yn dioddef fwyaf.

"Ac eto, o ystyried perfformiadau gwael y Democratiaid Rhyddfrydol yn etholiadau blaenorol y Cynulliad, mae’n bosibl iddynt daro ‘nôl.

"Yn hytrach na chanolbwyntio ar aelodau ei blaid ei hun, gallai Nick Clegg yn benodol ystyried ffawd Plaid Cymru. Mae’n ymddangos bod y Blaid wedi bod yn isbartneriaid llwyddiannus a chynhyrchiol i Lafur ers 2007. Yn ôl pob sôn, mae eu gweinidogion nhw wedi bod ymysg y rhai mwyaf medrus yn llywodraeth Cymru ac mae’r glymblaid wedi cyflawni amcanion allweddol y blaid, yn enwedig drwy’r refferendwm diweddar.

"Os, er gwaethaf hyn oll, yw’r Blaid yn cael crasfa yn y gorsafoedd pleidleisio, tybed beth felly fydd ffawd y Democratiaid Rhyddfrydol yn etholiad cyffredinol 2015?"

Ymddangosodd yr erthygl hon yn The Guardian ar 19 Ebrill, 2011: www.guardian.co.uk/politics/2011/apr/19/welsh-election-2011-analysis

Dolenni: