Skip to content
Skip to navigation menu

English

I ffwrdd â ni!

15 Mai 2009

Herschel

Mae dwy o'r lloerennau seryddol mwyaf pwerus ac uchelgeisiol yn y byd a ddatblygwyd gan seryddwyr y Brifysgol wedi eu lansio'n llwyddiannus oddi ar borth gofod Ewrop yn Kourou, Gaiana.

Bydd Arsyllfa Gofod Herschel a Lloeren Planck yn archwilio'r Bydysawd drwy ei holl hanes bron, o'r ychydig funudau ar ôl y Glec Fawr, drwy ffurfiad ac esblygiad y galaethau, hyd at enedigaeth y sêr a'r planedau yn ein galaeth ni heddiw.

Ar fwrdd Herschel mae'r offeryn SPIRE, a ddatblygwyd gan gonsortiwm rhyngwladol o 18 sefydliad mewn wyth gwlad, o dan arweiniad yr Athro Matt Griffin, yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth. Mae lloeren Planck yn cynnwys offeryn HFI, a adeiladwyd gan gonsortiwm rhyngwladol a oedd yn cynnwys tîm o Gaerdydd o dan arweiniad yr Athro Peter Ade, sydd hefyd yn yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth. Mae Grŵp Offeryniaeth Caerdydd, sy'n arbenigo ar offeryniaeth flaengar ar gyfer seryddiaeth isgoch ac isfilimedr, wedi cyflwyno nifer o elfennau pwysig i offer SPIRE a HFI, a bydd yn cymryd rhan mewn profi a rheoli'r ddau offeryn ar ôl y lansiad.

Dywedodd yr Athro Matt Griffin, yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth: "Gyda'i delesgop mawr a'i offer soffistigedig a sensitif, bydd Herschel yn astudio'r cosmos fesul tonfedd ychydig gannoedd o weithiau'n hwy nag eiddo golau gweladwy.

"Bydd yn cynnig offeryn pwerus iawn i seryddwyr ar gyfer llawer o astudiaethau, gan amrywio o Gysawd ein Haul ni i'r galaethau mwyaf pellennig. Bydd y canlyniadau yn datgelu sut mae sêr fel yr Haul yn ffurfio yn ein galaeth ni heddiw, sut y tyfodd a datblygodd y galaethau yn ystod amser cosmig, a sut y gall y systemau planedol ddatblygu o'r llwch a'r nwy o gwmpas sêr ifainc. Bydd seryddwyr o Gaerdydd ar y blaen wrth wneud y darganfyddiadau gwyddonol cyffrous hyn."

Mae Herschel yn cludo'r telesgop gofod mwyaf a lansiwyd erioed. Bydd y drych 3.5m ar ei draws yn rhoi'r cip gorau eto i seryddwyr ar y Bydysawd ar donfeddi isgoch ac isfilimedr pell. Bydd yn craffu trwy gymylau cysgodol o lwch i edrych ar gyfnodau cynnar adeg geni seren a ffurfiant galaeth; bydd yn archwilio cyfansoddiad a chemeg y comedau ac amgylcheddau planedol yng Nghysawd yr Haul; a bydd yn gallu astudio y llwch sêr a deflir allan gan sêr sy'n marw i'r gofod rhyngserol sy'n ffurfio deunydd crai ar gyfer planedau fel y Ddaear.

Bydd Planck yn archwilio'r awyr gyfan mewn bandiau naw tonfedd, gan astudio ymbelydredd Cefndir Microdonnau Cosmig, a adawyd ar ôl y Glec Fawr, mewn manylder cwbl newydd. Bydd cosmolegwyr yn gallu cymharu'r canlyniadau hyn â rhagolygon eu theorïau am y Glec Fawr a'r ffiseg sylfaenol a arweinioidd ati.

I wneud eu mesuriadau sensitif mae'n rhaid oeri telesgopau Herschel a Planck i dymheredd isel iawn a rhaid eu cadw'n bell oddi wrth y Ddaear er mwyn sicrhau nad yw gwres y Ddaear neu'r lloerennau eu hunain yn drysu'r canfodyddion. Ar ôl y lansiad bydd y lloerennau yn teithio i'w lleoliadau orbitol oddeutu 1.5miliwn cilomedr o'r Ddaear. Bydd yn cymryd nifer o fisoedd i baratoi a rhoi trefn ar y llong ofod a'r offer ac wedyn byddant yn cychwyn arsylwi.

Dywedodd yr Athro Peter Ade:"Bydd lloeren Planck yn chwyldroi ein dealltwriaeth am sut y dechreuodd y Bydysawd yr ydym yn byw ynddo yn ystod eiliad gyntaf yn deg y Glec Fawr, a bydd yn defnyddio’r bydysawd cynnar fel labordy ar gyfer ffiseg sylfaenol, gan ddatgelu dealltwriaeth o’r newydd o rymoedd natur."

Mae seryddwyr eraill o Gaerdydd hefyd yn brysur yn paratoi arsylwadau gwyddonol gyda Herschel a Planck, ac yn arwain nifer o raglenni gwyddonol mawr a wneir gan y lloerennau.

Tags