Skip to content
Skip to navigation menu

English

Pwy ydych chi’n meddwl ydych chi?

19 Tachwedd 2012

Who do you think you areA wnaeth y Rhufeiniad gyfraniad tameidiog at hanes Cymru yn unig neu a wnaeth Hen Rufain helpu i lunio hunaniaeth Cymru fel rydym yn gyfarwydd â hi heddiw? Mae’r rhan fwyaf o bobl wedi clywed am Caratacus a Boudicca, ond faint ohonynt sy’n gwybod am Julius Frontinus, Gnaeus Agricola neu Magnus Maximus?

Mewn darlith gyhoeddus yn y Brifysgol, bydd Dr Peter Guest, o’r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd yn cyflwyno rhai o’r canlyniadau newydd hynod ddiddorol o’i gloddiadau ar safle’r gaer Rufeinig yng Nghaerllion, cyn archwilio sut mae hanes ac archaeoleg wedi’u defnyddio, a’u camddefnyddio, i greu’r arwyr a’r dihirod rydym mor gyfarwydd â nhw.

Dywedodd Dr Guest: "Mae’r gorffennol yn syflaen i sut mae pobl yn amgyffred eu hunain – mae pwy rydym yn meddwl ydym ni yn dibynnu o ble rydym wedi dod ac ar bwy oedd ein hynafiaid. Felly mae pethau wastad wedi bod, a heddiw mae gan lawer o bobl yng Nghymru ymdeimlad cryf iawn o’u hetifeddiaeth Geltaidd sy’n eu cysylltu â phobloedd eraill yn Ynysoedd Prydain, ac sydd eto i gyd, yn eu gwahanu oddi wrthynt. Ond roedd y Rhufeiniaid yng Nghymru gyhyd ag yr oeddent yn Lloegr, felly mae’n ddiddorol bod y Cymry’n troi’n ôl at y cyfnod cynhanes am eu harwyr, ac y caiff y Rhufeiniaid eu portreadu yn aml fel dihirod yn hanes y genedl.

"Fel archaeolegydd sy’n cloddio ar safle Rhufeinig mor arwyddocaol â Chaerllion, mae’n amlwg bod cwestiwn hunaniaeth yr un mor bwysig 2,000 o flynyddoedd yn ôl ag ydyw heddiw. Mae ‘Pwy oedd y Rhufeiniaid?’ a ‘phwy oedd y Brythoniaid?’ yn gwestiynau rydym yn ceisio eu deall yn gyson drwy eu holion archaeolegol. Yn y ddarlith hon i goffáu’r Athro John Percival, byddaf yn edrych ar sut mae hunaniaeth y Cymry (a’r Saeson) wedi newid dros y canrifoedd ac yn ystyried sut y gall rhywun sy’n rebel yn nhyb un unigolyn fod yn ymladdwr rhyddid yn nhyb y llall, a pha mor hawdd ydyw i’r llyfrau hanes drawsnewid cymeriad o fod i arwr i fod yn ddihiryn yn y llyfrau hanes."

Mae’r ddarlith yn rhan o ddigwyddiad ehangach i nodi ailenwi Adeilad y Dyniaethau Caerdydd yn Adeilad John Percival, er anrhydedd John Percival OBE, cyn Athro Hanes yr Hen Fyd, Pennaeth yr Ysgol Hanes ac Archaeoleg a Dirprwy Is-ganghellor ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae’r ddarlith - Heroes and Villains - yn dechrau am 6.30pm ddydd Iau 29 Tachwedd a chaiff ei chynnal yn Adeilad Julian Hodge (CF10 3EU). Mae’n rhad ac am ddim ac yn agored i’r cyhoedd a gellir cadw lle yma:

http://johnpercivalbuilding.eventbrite.co.uk/

-DIWEDD-

Pennawd y llun:

LLUN 1: Dr Peter Guest ar safle’r cloddio yng Nghaerllion

LLUN 2: Yr Athro John Percival OBE

Dolenni Cysylltiedig:

Yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd