Skip to content
Skip to navigation menu

English

Gweithwyr yng Nghymru yn gwneud y gorau o swydd wael

08 Gorffennaf 2013

computer keyboard

Mae gweithwyr yng Nghymru yn hapusach nag y maent mewn mannau eraill ym Mhrydain, er bod cyflogau swyddi’n is a swyddi’n llai medrus, yn ôl arolwg cenedlaethol a gynhaliwyd gan y Brifysgol.

Mae’r canfyddiadau wedi eu seilio ar gyfweliadau wyneb yn wyneb â 3,200 o weithwyr 20-65 oed a gynhaliwyd gan dîm o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol y Brifysgol, dan arweiniad yr Athro Alan Felstead.

Dyma mae’r canlyniadau yn ei ddangos:

·         Mae cyflogau’n is yng Nghymru na rhannau eraill o Brydain - mae gweithwyr yng Nghymru yn cael tua phedair o bob pumed rhan o’r gyfradd cyflog cyfartalog Prydeinig, a thua dwy ran o dair o’r hyn y mae gweithwyr yn Llundain a De Ddwyrain Lloegr yn ei ennill.

·         Fodd bynnag, mae swyddi yng Nghymru yn llai medrus, a swyddi rhan-amser ymhlith y rhai isaf oll o ran medr.

·         Er gwaethaf hyn, mae gweithwyr yng Nghymru yn dangos lefelau uwch o foddhad yn eu swyddi, brwdfrydedd a bodlonrwydd â’u gwaith.

·         Maent yn dangos mwy o ymroddiad i’r sefydliadau y maent yn gweithio iddynt hefyd – mae eu lefelau teyrngarwch yn uwch ac maent yn fwy parod i weithio’n galed i helpu’r sefydliad i lwyddo.

·         Fodd bynnag, mae gwaith o ansawdd da yn gymharol brin, a gweithwyr yng Nghymru yn dweud ei bod yn anos dod o hyd i swydd debyg na gweithwyr mewn rhannau eraill o Brydain.

Mae’r rhain ymhlith rhai o’r canfyddiadau o Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth 2012.  Caiff yr arolwg, a gynhelir bob chwe blynedd, ei ariannu ar y cyd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) a Chomisiwn Cyflogaeth a Sgiliau’r DU (UKCES).  Cafwyd cymorth ychwanegol ar gyfer y sampl o Gymru gan Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD).

Dyma a ddywed yr Athro Alan Felstead, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, a Chyfarwyddwr yr arolwg: "Mae swyddi yng Nghymru yn parhau i gael eu talu’n wael ac yn isel o ran sgiliau. Pan fydd gweithwyr yng Nghymru’n cael swydd, maen nhw’n ofni y byddai’n anodd dod o hyd i swydd cystal â’r un sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd a bod dewisiadau tebyg yn brin. O ganlyniad, mae gweithwyr yn fwy bodlon a hapus â’u swyddi o gymharu â gweithwyr mewn ardaloedd mwy ffyniannus lle mae digonedd o swyddi eraill o’r un ansawdd."

Mae’r ymchwilwyr hefyd yn nodi bod gweithwyr yng Nghymru yn fwy optimistaidd ynglŷn â chadw eu swyddi o gymharu â’r rheiny sy’n gweithio mewn mannau eraill. Fodd bynnag, mae llai o weithwyr yng Nghymru wedi colli eu swyddi yn ddiweddar a wynebu newid sefydliadol yn eu gweithle na gweithwyr mewn rhannau eraill o Brydain. Mae’r ddau ffactor wedi’u cysylltu’n agos ag ansicrwydd mewn swydd.

"Gan fod economi Cymru yn fwy dibynnol ar y sector cyhoeddus, nid yw effeithiau’r caledi wedi cael eu teimlo’n llawn eto," meddai Rhys Davies o WISERD, a chyd-awdur yr adroddiadau.  "Pan fydd hyn yn digwydd, gallai hwyliau gweithwyr yng Nghymru newid yn sylweddol a golygu nad ydym ni mor hapus."

Bydd yr adroddiadau’n cael eu lansio heddiw ym Mhrifysgol Caerdydd gyda chefnogaeth Sefydliad Bevan.

Dolenni cysylltiedig

Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol

Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD)