Skip to content
Skip to navigation menu

English

Awdurdod Byd-enwog i arwain Ysgol Biowyddorau

19 Ionawr 2010

Yr Athro Ole Petersen CBE FRSYr Athro Ole Petersen CBE FRS

Penodwyd gŵr sydd ymhlith y mwyaf blaenllaw ym maes ymchwil biofeddygol ryngwladol, yr Athro Ole Petersen CBE FRS, yn Gyfarwyddwr yr Ysgol Biowyddorau.

Dywedodd yr Athro Petersen, a fydd yn ymgymryd â'r swydd ar Chwefror 1: "Roeddwn yn awyddus iawn i ddod i Gaerdydd gan y gwyddwn fod yr Ysgol Biowyddorau yn wyddonol ragorol mewn amrediad eang o feysydd, gan gynnwys niwrowyddoniaeth, geneteg, bioamrywiaeth ac ecoleg. Mae hynny o fudd i nifer o agweddau, gan gynnwys torri tir newydd mewn gofal iechyd, cadwraeth bioamrywiaeth a hyfforddi'r to nesaf o fiowyddonwyr. Rheoli'r rhagoriaeth hyn sydd mor eang ac adeiladu arni fydd yr her i mi."

Agorodd yr Athro Petersen ddrysau fel y gellid deall sut y gall ïonau calsiwm ysgogi amrediad o ddigwyddiadau yng nghelloedd y corff, yn arbennig yn y pancreas. Mae gan hyn oblygiadau i ddeall pancreatitis, pan fo ensymau gorweithredol yn treulio'r pancreas ei hunan, a deall canser y pancreas, sydd gyda'r mwyaf angheuol o bob canser. Cafodd gryn sylw yn y cyfryngau gan mai ei dîm ym Mhrifysgol Lerpwl oedd y cyntaf i esbonio sut y gallai sbri goryfed achosi pacreatitis.

Wrth reswm, ymchwil yw un o'i flaenoriaethau wrth ddod i Gaerdydd. Dywedodd: "Mae 'na nifer sylweddol o grwpiau blaenllaw gyda'r gorau yn y byd mewn nifer o feysydd. Rwyf am godi cynifer o bobl eraill ag y mae'n bosibl i'r safon honno."

Ymhlith y cynlluniau mae creu Bwrdd Gwyddonol Ymgynghorol ar gyfer yr Ysgol, i gynnwys bobl flaenllaw allanol a fydd yn gallu cynghori ar bolisi ymchwil a hefyd hyrwyddo'r Ysgol yn fyd-eang. Yng nghlwm â hynny bydd ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o'r rhagoriaeth sydd yn yr Ysgol. Meddai’r Athro Petersen: "Mae llawer iawn o bethau cyffrous oddi mewn i'r Ysgol na chyfeiriwyd atynt yn amlwg bob tro. Mae gennyf awydd i greu sefyllfa lle mae pobl yn gwybod am yr holl bethau dau sy'n digwydd yn Ysgol y Biowyddorau."

Ac yntau'n Gadeirydd panel cychwynnol y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd ar gyfer ffisioleg, pathoffisioleg ac endocrinoleg, mae'n frwd dros hyrwyddo ymwybyddiaeth o gyllido Ewropeaidd yn yr Ysgol. Meddai'r Athro Petersen: "Tybiaf mai peth da iawn yw cael corff dros Ewrop gyfan sy'n dyfarnu grantiau yn llwyr ar sail rhagoriaeth ymchwil. Yn sicr mae gennym bobl yn yr Ysgol, gan gynnwys ymchwilwyr ieuainc sy'n ceisio grantiau cychwynnol, sydd yn fwy nag abl i ennill gwobrau."

Bu diddordeb mewn addysgu gan yr Athro Petersen byth oddi ar ei ddyddiau cynnar ym Mhrifysgol Copenhagen lle cafodd ei hunan yn gofalu am myfyrwyr ond rhyw ddwy flynedd yn iau nag ef. Yng Nghaerdydd mae'n awyddus i ddatblygu'r dolennau rhwng ymchwil ac addysgu.

Dywedodd: "Mae'n beth call i'r myfyrwyr elwa ar yr holl ymchwil sy'n digwydd. Eto i gyd mae angen iddynt wybod yr hyn sydd eisoes wedi'i sefydlu'n yn y maes, ond yn y cyd-destun hwnnw mae'n hynod bwysig iddynt wybod am y darganfyddiadau newydd sy'n digwydd yn yr Ysgol.

Bydd yr Athro Petersen hefyd yn dal i gynnal ei ddiddordebau ymchwil, a gyllidir gan y Cyngor Ymchwil Feddygol. Daw aelodau o'i dîm blaenorol gydag ef i Gaerdydd i gydweithio â'r tîm dan arweiniad yr Athro Paul Kemp ar ffisioleg celloedd. Gan iddo ddarganfod sut mae calsiwm yn effeithio ar ymddygiad y gell, mae'r Athro Petersen erbyn hyn yn awyddus i archwilio'r mecanweithiau sy'n achosi clefydau yn fwy manwl. Buddsoddodd y Brifysgol £500,000 mewn microsgop deu-ffoton newydd i gefnogi'r gwaith hwn.

Yn ystod ei yrfa cafodd yr Athro Petersen nifer o wobrwyon, gan gynnwys ei ethol yn Gymrawd y Sefydliad Brenhinol (FRS) a'i benodi'n Gadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE) yn 2008 am ei wasanaeth i wyddoniaeth. Y mae ganddo dros 300 o erthyglau academaidd i'w enw, gan gynnwys 14 a gyhoeddwyd yn Nature. Cyfeiriwyd ato dros 16,000 o weithiau yn y llenyddiaeth wyddonol.

Tags