Skip to content
Skip to navigation menu

English

Ymchwilio i’r eidionyn a dyfwyd mewn labordy

05 Awst 2013

Neil StephensDr Neil Stephens

Roedd llygaid cyfryngau’r byd ar Lundain heddiw (5 Awst 2013) yn y blasu cyhoeddus cyntaf erioed o eidionyn a wnaed o gig a dyfwyd mewn labordy gan ddefnyddio peirianneg meinwe.

Datblygwyd y dechnoleg arloesol hon, sy’n dwyn yr enw cig mewn llestr, gan yr Athro Mark Post a’i dîm ym Mhrifysgol Maastricht, ac mae’n cynrychioli ffordd radical newydd o dyfu a bwyta cig: www.culturedbeef.net 

Er 2008, bu Dr Neil Stephens, sef Cymrawd Ymchwil yn Cesagen sydd wedi’i leoli yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd, yn ymchwilio i faterion cymdeithasol a moesegol y dechnoleg hon a’r hyn y gallai’r arloesiad hwn mewn peirianneg meinwe ei olygu. Mae wedi cynnal 40 o gyfweliadau â’r gwyddonwyr, y cyllidwyr a’r cynigwyr sy’n gwneud ac yn cefnogi cig gwneud.  Bydd yn bresennol yn y gynhadledd i’r wasg heddiw lle caiff yr eidionyn ei flasu.

Yn ôl y gwyddonwyr, mae’r manteision y gall y dechnoleg newydd hon eu cynnig yn cynnwys cig heb orfod lladd anifeiliaid, sy’n iachach ac yn rhydd rhag afiechydon sy’n trosglwyddo o anifeiliaid i ddyn.  Hefyd, gallai’r cig gael ei dyfu yn ystod teithiau gofod a gallai fod ag effaith amgylcheddol lai o lawer na chig anifail cyfan presennol wedi’i fagu.

Bu Dr Stephens yn ymchwilio i’r addewidion hyn, gan ddadansoddi sut y daeth y gymuned hon o wyddonwyr at ei gilydd a pha strategaethau maent yn eu defnyddio i gyfiawnhau’r addewidion a wneir ganddynt.  Mae gwaith y labordy yn tynnu ar wybodaeth am beirianneg meinwe feddygol, ac mae’r rhan fwyaf o’r bobl yn y maes yn treulio’r rhan fwyaf o’u hamser yn gwneud ymchwil feddygol.

Dywedodd Dr Stephens: "Mae hon yn ffordd radical newydd o wneud cig.  Bu gwyddoniaeth yn rhan o gynhyrchu cig ers amser maith, ond mae bob amser wedi cynnwys magu’r anifail cyfan sy’n cael ei ladd, ei rannu a’i fwyta.  Nid yw hyn yn digwydd gyda chig gwneud.

"Mae mor anarferol, mor amwys – rwy’n credu y bydd hyn yn arwain at gwestiynau ynghylch a yw’n gig o gwbl, a yw’n ddewis arall yn lle cig neu a yw’n fwyd go iawn hyd yn oed.  Mae mor wahanol, mae’n herio ein rhagdybiaethau am gig.

"Mae fy ymchwil yn dangos bod y dechnoleg yn y camau cynnar iawn o hyd.  Mae’r maes hwn yn dal i fod yn fach ac nid yw’r rhan fwyaf o wyddonwyr yn cael llawer o gyllid ar gyfer eu hymchwil.  Maent yn gobeithio y bydd y digwyddiad eidionyn gwneud yn annog cyllidwyr gwyddoniaeth i roi rhagor o arian.

"Mae addewid y dechnoleg yn sylweddol.  Caiff ei awgrymu y bydd cig gwneud yn well i’r amgylchedd, anifeiliaid, ein hiechyd ac amrywiaeth ein diet.  Fodd bynnag, mae cyfres o heriau’n bodoli, ynghyd â chwestiynau pwysig y mae angen eu gofyn ynghylch p’un a all cig gwneud gyflawni’r addewidion hyn ai peidio.

"Mae’r heriau’n cynnwys uwchraddio cynhyrchu fel y gellir gwneud symiau sylweddol am bris cystadleuol.  Mae hyn yn cynnwys rhagor o ymchwil i’r hylif y caiff y celloedd eu tyfu arno, pa ffynhonnell o gelloedd sy’n cael ei defnyddio, a sut i weithredu bioadweithydd diwydiannol ar raddfa fawr y gellid tyfu’r cig ynddo.

"Y tu hwnt i hyn, byddai angen i’r dechnoleg gael ei chydnabod yn fwyd a’i phrofi’n ddiogel gan reoleiddwyr bwyd.  Hefyd, mae cwestiynau cymhleth ynghylch sut y byddai’n ffitio mewn system fwyd sydd eisoes yn gymhleth, a sut y bydd grwpiau eraill yn y system fwyd yn ymateb."

Caiff gwaith Dr Stephens ei ariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) (prosiect RES-145-28-0003), Ymddiriedolaeth Wellcome (WT096541MA) a phrosiect FP7 EPINET (288971).

Gwyliwch fideo o Dr Stephens yn trafod ymddangosiad y ffordd radical newydd hon o wneud cig a’r cwestiynau allweddol ynghylch effaith gymdeithasegol bosibl y dechnoleg newydd hon.

Dolenni Cysylltiedig

Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol

Cesagen