Skip to content
Skip to navigation menu

English

Ymraniad mewn lefelau llythrennedd

04 Medi 2013

English children outperform web

Mae academydd o Brifysgol Caerdydd wedi darganfod tystiolaeth nad yw plant yn saith oed yng Nghymru yn gwneud cystal â’u cyfoedion yn Lloegr mewn llythrennedd.

Canfu’r academydd blaenllaw Yr Athro Chris Taylor, o Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD), er bod plant yng Nghymru a Lloegr yn sgorio’n gyfartal mewn asesiadau ar eu rhifedd a’u rhesymu di-eiriau, bod y bwlch mewn lefelau llythrennedd rhwng y ddwy wlad yn cynyddu wrth i’r plant dyfu i fyny.

"Ar un llaw, mae’r dadansoddiad yn canfod amrywiad sylweddol mewn gwahanol agweddau ar ddatblygiad gwybyddol plant fesul gwlad yn y DU, heb unrhyw hanes unigol o ‘lwyddo’," meddai’r Athro Taylor. "Fodd bynnag, o ran datblygiad llythrennedd, mae modd gweld cyferbyniadau amlwg a phryderus rhwng plant yng Nghymru a phlant yng ngweddill y DU. Yr hyn sy’n ddiddorol yw bod rhywfaint o’r gwahaniaeth yn ymddangos i raddau helaeth o ganlyniad i fwy o welliannau yn llythrennedd plant sy’n byw yn Llundain, sydd ar gyfartaledd yn fwy na’r gwelliant mewn sgiliau llythrennedd ar gyfer plant mewn unrhyw ardal neu wlad arall yn y DU."

Mae’r ymchwil, a gyhoeddwyd ar-lein yn Comparative Education, yn defnyddio data cyfoethog ar gefndir a datblygiad plant a gymerwyd o Astudiaeth Carfan y Mileniwm. Mae’r arolwg hydredol hwn, a gynhaliwyd gan y Ganolfan Astudiaethau Hydredol (CLS), yn dilyn sampl o 19,000 o fabanod a anwyd yn y DU yn y flwyddyn 2000–2001, gyda 2,000 o’r rheiny’n dod o Gymru.

Mae’r data yn cynnig cyfle unigryw ar gyfer ymchwil gymharol yn y DU, sy’n rhywbeth y mae ei angen ym marn yr Athro Taylor o ystyried y systemau addysg wedi’i dargyfeirio a sefydlwyd yn sgil datganoli gwleidyddol ar ddiwedd y 1990au (a sefydlu’r llywodraethau ar gyfer Cymru a’r Alban).

"Yn rhy aml, mae’r cyfryngau a gwleidyddion yn cymharu canlyniadau addysgol plant o wahanol wledydd yn y DU ac yn rhyngwladol heb ystyried y gwahaniaethau sylfaenol yn eu gwneuthuriad cymdeithasol ac economaidd neu gan ddibynnu ar fesurau canlyniadau addysgol nad oes modd eu cymharu’n uniongyrchol o bosibl. Mae Astudiaeth Carfan y Mileniwm yn cynnig cyfle unigryw i wneud cymariaethau o’r fath mewn ffordd deg a dibynadwy."

Bydd yr Athro Taylor yn dechrau dadansoddi ymhellach yn 2014 pan gaiff data ei ryddhau ar gyfer y plant yn yr astudiaeth wrth iddynt agosáu at ddiwedd eu blynyddoedd yn yr ysgol gynradd. "Bydd hyn nid yn unig yn galluogi i ni ystyried a yw unrhyw fylchau mewn datblygiad addysgol yn saith oed yn parhau i dyfu, ond bydd hefyd yn caniatáu dadansoddiad manylach o effaith ffactorau eraill sy’n ganolog i’r system addysg yng Nghymru, er enghraifft rôl addysg ddwyieithog mewn datblygu addysg," meddai’r Athro Taylor i gloi.

Mae’r ddogfen Interrupting educational inequality in the UK: evidence from the UK Millennium Cohort Study yn cael ei chyflwyno i Gymdeithas Ymchwil Addysg Prydain (BERA) gan yr Athro Chris Taylor a’r Athro Sally Power yng nghynhadledd flynyddol BERA.

Dolenni cysylltiedig

Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD)