Skip to content
Skip to navigation menu

English

RSS

Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol

23 Ion 2014

MOOC Newyddiaduraeth Gymunedol cyntaf y Byd

Community_Journalism_web

Mae Prifysgol Caerdydd yn lansio MOOC (Cwrs Ar-lein Agored Enfawr) cyntaf y byd mewn newyddiaduraeth gymunedol – a fydd yn cynnig sgiliau ymarferol a chipolwg ar y sector deinamig hwn sy’n tyfu’n gyflym.

Bydd Prifysgol Caerdydd yn cynnig MOOC pum wythnos trwy FutureLearn (a fydd yn dechrau ar 14 Ebrill) a gyflwynir gan Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol. Arweinir y cwrs gan yr Athro Richard Sambrook, Cyfarwyddwr y Ganolfan Newyddiaduraeth, sef y ganolfan flaenllaw ar gyfer hyfforddiant galwedigaethol ôl-raddedig yn y DU. Mae’r Athro Sambrook yn gyn Gyfarwyddwr Newyddion Byd-eang yn y BBC, a bydd sylwebyddion ac ymarferwyr arbenigol eraill diwydiant y cyfryngau yn ymuno ag ef, yn ogystal ag academyddion eraill Caerdydd.

Darllenwch mwy

Directory of Expertise: Find experts for media comment

Mwy o Newyddion