Skip to content
Skip to navigation menu

English

Darganfyddiad Caerllion

Dysgwch fwy am ddarganfyddiadau Caerllion yn y cyhoeddiad rhyngweithiol


Ail-luniad o Gaerllion yng nghyfnod y Rhufeiniaid, yn dangos y faestref anferthol a ddarganfuwyd (© 7reasons)

Ail-luniad o Gaerllion yng nghyfnod y Rhufeiniaid, yn dangos y faestref anferthol a ddarganfuwyd (© 7reasons)

Isca oedd enw’r Rhufeiniad ar gyfer Caerllion a’r cadarnle hwn oedd pencadlys yr Ail Leng Awgwstaidd. Roedd y lleng hwn ymhlith y goresgynwyr a groesodd y Môr Udd yn 43 O. C. cyn treulio cenhedlaeth yn ymladd yn erbyn tylwythau Celtaidd ffyrnig Cymru. Milwyr Rhufeinig oedd y llengfilwyr. Roedd y gwŷr hyn yn hynod arfog a disgybledig ac roeddynt yn ymrestru am hyd at 25 mlynedd. Y rhain oedd asgwrn cefn y fyddin ac adeiladwyr yr Ymerodraeth Rufeinig. Roeddynt yn goncwerwyr, yn adeiladwyr ac yn wladychwyr.

Dim ond tri chadarnle llengol parhaus sydd ym Mhrydain a Chaerllion yw un ohonynt. Mae’n llawer anoddach cloddio yn y ddau gadarnle arall yng Nghaer ac Efrog gan fod y rhan fwyaf o’r gweddillion wedi’u claddu o dan ddinasoedd canoloesol a modern. Felly, mae Caerllion yn cynnig cyfle unigryw i astudio’r llengoedd Rhufeinig ym Mhrydain.

Sam Steele

Mae Sam Steele yn fyfyriwr archaeoleg israddedig yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd ac roedd yn un o’r myfyrwyr a fu’n gysylltiedig â’r darganfyddiad.

Darganfod drwy hap a damwain

Roedd myfyrwyr o’r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd yn dysgu sut i ddefnyddio offer geoffisegol mewn meysydd y tu allan i’r cadarnle dros gyfnod y Pasg pan ddaethant o hyd i’w darganfyddiad anhygoel yn ddamweiniol. Ni thybiwyd yn wreiddiol fod y rhan hon o Gaerllion wedi cael ei defnyddio rhyw lawer, ond daeth y myfyrwyr a’r tiwtoriaid o hyd i amlinelliadau cyfres o adeiladau mawr ger amffitheatr enwog Caerllion ac afon Gwy.

Cymerwch ran

Dewch i un o’n dwy daith ddyddiol (11 am a 2.30 pm, ar wahân i ddydd Llun) ym Maes y Priordy, Caerllion, dan arweiniad myfyrwyr ac archeolegwyr o Brifysgol Caerdydd a Choleg Prifysgol Llundain. Mae’r gloddfa ar agor drwy gydol penwythnos gŵyl y banc yr haf (28 - 30 Awst 2010). Yn ogystal â theithiau, bydd y darganfyddiadau diweddaraf yn cael eu harddangos, cynhelir ‘mân-gloddfa’ a bydd cyfle i siarad gydag archeolegwyr am sut maent yn cloddio safleoedd hynafol.

Cadwch olwg ar y cloddfeydd cyfredol ar Twitter neu yn y blog cloddio:
http://www.britarch.ac.uk/caf/wikka.php?wakka=CaerleonLegionaryFortress


Take a virtual tour of the new discovery


Adnoddau