Skip to content Skip to navigation menu
Heddiw (dydd Llun 11 Gorffennaf 2011), mae Prifysgol Caerdydd wedi croesawu penderfyniad Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i dderbyn ei chynnig i godi ffi o £9,000 y flwyddyn ar fyfyrwyr Cartref amser-llawn ac israddedigion o’r UE a fydd yn ymuno â’r Brifysgol o 2012-13 ymlaen.
Meddai’r Is-Ganghellor, Dr David Grant:
"Prifysgol Caerdydd yw prifysgol fwyaf Cymru a’i phrif brifysgol dan arweiniad ymchwil. Mae’n cynnig addysg o safon sy’n ysbrydoli myfyrwyr o amrywiaeth mawr o gefndiroedd. Bydd y ffi gytûn hon, ynghyd â buddsoddiad cynhaliol y Brifysgol mewn cyfres o ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chymorth ariannol ac academaidd parhaus, yn sicrhau bod addysg ym Mhrifysgol Caerdydd yn dal i fod mor hygyrch yn y dyfodol i fyfyrwyr sydd â’r potensial i lwyddo ag y mae hi heddiw.
"Ar adeg pan fo cyllid y llywodraeth i fyd addysg uwch yn gostwng cryn dipyn, bydd hi hefyd yn golygu y bydd Prifysgol Caerdydd yn cynnal ac yn datblygu’n darpariaeth ar draws ein portffolio eang o gyrsiau – gan gynnwys y nifer fawr iawn o raglenni costus a ddarparwn ym myd gwyddoniaeth, peirianneg a’r disgyblaethau proffesiynol.
"Drwy gydol y broses iterus hon rydyn ni wedi gweithio’n agos gydag Undeb y Myfyrwyr i ddatblygu pecynnau cadarn o gymorth ariannol ac academaidd a chymorth sgiliau i’n myfyrwyr. Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu cymorth i’n myfyrwyr drwy gydol eu hamser ym Mhrifysgol Caerdydd ac i sicrhau arfogi’n myfyrwyr ar gyfer bywyd ar ôl y Brifysgol – nid yn unig â chymhwyster y mae galw mawr amdano ond â’r sgiliau a’r agweddau y mae eu hangen ar gymdeithas a darpar gyflogwyr.
"Ochr yn ochr â buddsoddiad ein myfyrwyr, byddwn ni’n buddsoddi llawn cymaint mewn addysg uwch sy’n ysgogol, yn gynhalgar ac yn fforddiadwy. Edrychwn ymlaen at ddal i groesawu poblogaeth amrywiol a bywiog o fyfyrwyr i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd."
Cliciwch yma i weld Cynllun Ffioedd Prifysgol Caerdydd ar gyfer 2012/13
Gwybodaeth ychwanegol:
Ffioedd ar gyfer myfyrwyr o Gymru/yr UE a gweddill y DU
Ni fydd yn rhaid i unrhyw fyfyriwr dalu ffioedd ymlaen llaw.
Daw’r ffioedd ar gyfer myfyrwyr sy’n byw yng Nghymru o ddwy ffynhonnell. Fel ar hyn o bryd, bydd myfyrwyr sy’n byw yng Nghymru yn atebol am y £3,375* cyntaf o’u ffioedd – caiff hwn ei dalu trwy fenthyciad gan Student Loans Company. Bydd myfyrwyr ond yn dechrau ad-dalu’r benthyciad hwn pan fyddant yn ennill mwy nag £21,000. Llywodraeth Cymru fydd yn talu’r hyn sy’n weddill dros £3,375 trwy grant ffioedd dysgu. Caiff y grant ffioedd dysgu ei dalu i bob myfyriwr cymwys sy’n byw yng Nghymru (a’r rheiny o’r UE sy’n astudio yng Nghymru).** Nid yn unig yw’n berthnasol i’r myfyrwyr hynny sy’n astudio yng Nghymru, ond hefyd i bob myfyriwr o Gymru sy’n astudio yn y DU. Ni fydd rhaid ad-dalu’r grant ffioedd dysgu ac ni fydd yn amodol ar brawf modd. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Caiff cefnogaeth i fyfyrwyr o rannau eraill o’r DU eu llywodraethu gan y trefniadau ffioedd a benderfynwyd gan eu llywodraethau eu hunain. Disgwylir y bydd angen i’r myfyrwyr hyn dalu eu ffioedd dysgu eu hunain yn llawn trwy fenthyciad gan Student Loans Company. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Student Loans Company.
* £3,375 yw’r ffi ddysgu bresennol i israddedigion (2011 - 2012) - disgwylir i’r ffigur hwn gael ei addasu yn unol â chwyddiant.
** Yn amodol ar Reoliadau Cymorth Myfyrwyr.
Ehangu Mynediad a Chadw
Eleni, mae poblogaeth myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn cynnwys bron i 1,500 o fyfyrwyr o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru (ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf) – y cyfanswm uchaf ond un ym mhob prifysgol yng Nghymru.
Bob blwyddyn, caiff hyd at 1,400 o ddisgyblion Blwyddyn 11 eu hysbrydoli gan ein seminarau mewn ysgolion i ymuno â rhaglen Cam i Fyny i’r Brifysgol y Brifysgol. Yn 2010, enillodd 150 o raddedigion y cynllun le mewn prifysgol, gyda 59 ohonynt yn ennill lle yng Nghaerdydd.
Yn ystod y tair blynedd nesaf, byddwn yn ymestyn ein rhaglen Cam i Fyny i’r Brifysgol 100%, gyda 3,000 o ddisgyblion ar y rhaglen ar unrhyw adeg, a byddwn yn rhoi blaenoriaeth i ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf yn ne-ddwyrain Cymru.
Mae Prifysgol Caerdydd yn ymfalchïo yn ei henw da yn cefnogi myfyrwyr i gwblhau eu cyrsiau yn llwyddiannus. Mae naw deg pedwar y cant o’n hisraddedigion yn cyflawni eu dyheadau addysgol.
Mae Prifysgol Caerdydd yn ymfalchïo yn ei hanes o ran cynorthwyo myfyrwyr i gwblhau eu cyrsiau’n llwyddiannus. Cyflawnodd dros 95% o israddedigion Caerdydd eu nodau addysgol bwriadedig.
Byddwn yn buddsoddi mwy mewn darparu cymorth wedi’i deilwra trwy sefydlu Canolfan Sgiliau i gydlynu gwasanaethau cymorth academaidd fel rhan o’r profiad i fyfyrwyr, gan eu galluogi i wireddu eu potensial.
Cyflogadwyedd
Yn ystod y tair blynedd diwethaf mae dros 94% o’n graddedigion, ar gyfartaledd, wedi dechrau gwaith neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis ar ôl iddynt raddio.
Byddwn yn adeiladu ar hyn ac yn ymgorffori sgiliau cyflogadwyedd a menter ymhellach ym mhrofiad Caerdydd. Byddwn yn cyflawni hyn trwy weithio ar y cyd â chyflogwyr, arbenigwyr gyrfaoedd, Menter Myfyrwyr a’r Undeb Myfyrwyr, fel y gall myfyrwyr gyfrannu’n gadarnhaol mewn sefyllfa waith, ychwanegu gwerth i’w cyflogwyr cyn gynted â phosibl yn eu gyrfaoedd a gwireddu eu potensial trwy eu huchelgeisiau proffesiynol a gyrfaol.
Buddsoddiadau yn y campws
Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, mae Prifysgol Caerdydd wedi cyfoethogi’r profiad i fyfyrwyr ac wedi gweddnewid yr amgylchedd academaidd, gan gynnwys:
Mwy am Brifysgol Caerdydd
This is an externally hosted beta service offered by Google.