Skip to content Skip to navigation menu
Mae’r Swyddfa Cysylltiadau Cyhoeddus yn rhan o’r Is-adran Cyfathrebu a Chysylltiadau Rhyngwladol ac mae’n gyfrifol am amrediad eang o weithgareddau Cysylltiadau Cyhoeddus canolog. Mae’n cydgysylltu ac yn darparu arweinyddiaeth i gysylltiadau cyhoeddus ar draws yr Ysgolion academaidd a’r Is-adrannau. Mae’r Swyddfa’n darparu amrediad eang o wasanaethau fel y nodir isod. Os ydych chi’n chwilio am dudalennau newyddion diweddaraf y Brifysgol, rhifynnau o lythyr newyddion y Brifysgol – Newyddion Caerdydd - neu os ydych chi’n newyddiadurwr sy’n chwilio am wybodaeth, gall y byddwch yn dymuno ymweld â’r Ganolfan Newyddion.
Gwybodaeth i staff y Brifysgol: gweler yr adrannau isod.
Mae gan y Swyddfa Cysylltiadau Cyhoeddus fynediad da i’r cyfryngau newyddion ac mae’n gyfrifol am baratoi a dosbarthu datganiadau newyddion i'r cyfryngau ar ran y Brifysgol. Mae’n gweithredu cronfa ddata cyfryngol soffistigedig ar gyfer targedu dosbarthiad datganiadau newyddion i'r cyfryngau a darparu cysylltau yn y cyfryngau.
Mae tudalennau newyddion Prifysgol Caerdydd, gan gynnwys newyddion o’r Brifysgol, monitro cyfeiriadau at Brifysgol Caerdydd wedi’u cyhoeddi yn y cyfryngau, a llythyr newyddion y Brifysgol wedi’u lleoli yn y Ganolfan Newyddion.
Mae’r Swyddfa Cysylltiadau Cyhoeddus yn croesawu gwybodaeth gan Ysgolion ynglŷn ag eitemau newyddion a allai fod yn ddefnyddiol, megis cyflawniadau gan y staff, datblygiadau mewn ymchwil ac addysgu, a digwyddiadau Ysgolion. Mae rhoi rhybudd cynnar i’r Swyddfa am eitemau a darparu gwybodaeth gynhwysfawr yn ei gwneud yn haws i drafod cyhoeddusrwydd yn effeithiol.
byddwch cystal â chysylltu â’r aelod perthnasol o’r tîm: Victoria Dando, Emma Darling, Christopher Jones, Karen O'Shea, Stephen Rouse, Amy Stackhouse
Ysgol Academaidd
Cyswllt Cysylltiadau Cyhoeddus
Pensaernïaeth
Chris Jones
Biowyddorau
Stephen Rouse
Busnes
Amy Stackhouse
Cemeg
Cynllunio Dinesig a Rhanbarthol
Karen O'Shea
Cyfrifiadureg a Gwybodeg
Deintyddiaeth
Stephen Rouse a Chris Jones
Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr
Emma Darling
Peirianneg
Emma Darling a Chris Jones
Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth
Astudiaethau Ewropeaidd
Gofal Iechyd
Hanes, Archaeoleg a Chrefydd
Victoria Dando ac Emma Darling
Newyddiaduraeth
Victoria Dando
Y Gyfraith
Y Ganolfan Dysgu Gydol Oes
Mathemateg
Meddygaeth
Chris Jones a Stephen Rouse
Cerddoriaeth
Nyrsio a Bydwreigiaeth
Optometreg a Gwyddorau'r Golwg
Fferylliaeth
Ffiseg a Seryddiaeth
Seicoleg
Addysg Feddygol a Deintyddol Ôl-raddedig
Gwyddorau Cymdeithasol
Stephen Rouse a Victoria Dando
Cymraeg
Mae’r manylion cyswllt llawn ar gyfer y tîm Cysylltiadau Cyhoeddus yma.
Yn ogystal â darparu newyddion am gyflawniadau a dyheadau’r Brifysgol gyfan, yn aml bydd datganiadau newyddion i'r cyfryngau ynglŷn â phrosiectau ymchwil ac addysgu, llwyddiannau a gwobrau staff a myfyrwyr, ymweliadau, digwyddiadau a phethau anarferol yn rhoi cyfle i Ysgolion hyrwyddo’u hunain, yn enwedig os oes yna lun diddorol neu gyfle i dynnu llun.
Yn gyntaf, dylai staff roi gwybodaeth gynhwysfawr i’r Swyddfa Cysylltiadau Cyhoeddus. Ar ôl cael eu llunio, bydd datganiadau newyddion i'r cyfryngau yn cael eu hanfon at y darparwyr gwybodaeth er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn ffeithiol gywir. Yna cytunir ar restr ddosbarthu cyn i’r datganiadau gael eu dosbarthu gan y Swyddfa Cysylltiadau Cyhoeddus. Bydd copi o’r datganiad newyddion yn cael ei anfon at Bennaeth yr Ysgol i’w gymeradwyo ymlaen llaw os yw hynny’n briodol. Yna anfonir copïau o doriadau sy’n deillio o'r datganiad newyddion ynghyd â ffurflen werthuso at ddarparwyr gwybodaeth er mwyn iddynt gynnig sylwadau ar y gwasanaeth. Hefyd, cyhoeddir datganiadau newyddion i'r cyfryngau ar wefan y Brifysgol yn y Ganolfan Newyddion.
Roedd Caerdydd yn un o’r prifysgolion cyntaf yn y DG i fod yn bartner i’r wefan newyddion ymchwil Futurity. Mae’r holl bartneriaid yn aelodau o Gymdeithas Prifysgolion America neu’n aelodau o Grŵp Russell. Mae’r tîm Cysylltiadau Cyhoeddus yn gweithio’n agos â thîm golygyddol yn Futurity er mwyn i storiâu newyddion am ymchwil gael sylw.
Mae’r Brifysgol yn tanysgrifio i EurekAlert!, sef gwasanaeth newyddion byd-eang ar-lein sy’n cael ei redeg gan AAAS, y gymdeithas wyddoniaeth. Mae EurekAlert! yn rhoi sylw i newyddion ac adnoddau sy’n canolbwyntio ar holl feysydd gwyddoniaeth, meddygaeth a thechnoleg. Mae’r tîm Cysylltiadau Cyhoeddus yn gosod storïau newyddion ac yn rhoi sylw i arbenigwyr ar y safle.
Mae’r Swyddfa Cysylltiadau Cyhoeddus yn delio â dros 600 o ymholiadau gan y cyfryngau bob blwyddyn ac mae’n fan cyswllt canolog i ymholiadau o’r fath. Yn ogystal â chynhyrchu cyhoeddusrwydd, mae’r cyfleuster canolog hwn yn helpu i ddiogelu enw da’r Brifysgol trwy ddarparu datganiadau a sylwadau gwybodus, awdurdodol ac amserol i’r cyfryngau, yn enwedig ar faterion dadleuol neu faterion sy’n ymwneud â sector cyfan. Cyfrifoldeb y Swyddfa Cysylltiadau Cyhoeddus, mewn partneriaeth ag uwch swyddogion a Phenaethiaid Ysgol os yw’n briodol, yw darparu sylw a gwybodaeth ar ran y Brifysgol, yn enwedig ynglŷn â pholisïau’r Brifysgol. Dylid cyfeirio ceisiadau am wybodaeth neu gwestiynau ynglŷn â pholisïau o'r fath at y Swyddfa Cysylltiadau Cyhoeddus, yn unol â’r protocolau cyfryngol a nodir isod. Mae’r Ganolfan Ddiogelwch (029 208 74444) yn cadw rhifau ar-ôl-gwaith i’r Swyddfa Cysylltiadau Cyhoeddus.
Yn aml bydd newyddiadurwyr o bob cyfrwng yn ceisio sylwadau arbenigol gan aelodau o’r staff academaidd. Mae cael sylw yn y cyfryngau fel hyn hefyd yn gymorth i feithrin enw da a chodi proffil aelodau unigol o’r staff, eu Hysgolion a’r Brifysgol. Er mwyn hwyluso’r berthynas hon, mae’r Swyddfa Cysylltiadau Cyhoeddus yn cynhyrchu Cyfeiriadur Arbenigedd sy’n rhestru aelodau o’r staff sy’n barod i gynnig sylwadau i’r cyfryngau ar bynciau sy’n berthynol i’w meysydd arbenigol. Mae’r cyfeiriadur ar gael hefyd ar wefan y Brifysgol ac mae cyfle yno i staff ymuno â’r cyfeiriadur. Mae cyngor am arferion da wrth ddelio â’r cyfryngau ar gael gan y Swyddfa Cysylltiadau Cyhoeddus. Yn benodol, mae’n bwysig i bobl sylweddoli taw personol yw unrhyw sylw neu farn gan staff yn hytrach na pholisi neu sylw swyddogol gan y Brifysgol, yn unol â’r hyn a nodir yn y protocolau cyfryngol.
Mae llinell ISDN ar gael yn y Brifysgol i ddarparu sain o ansawdd radio i’r staff a wahoddir i wneud cyfweliad â’r cyfryngau "i lawr y lein". Yn ogystal â bod yn fuddiol wrth siarad â’r cyfryngau yn y DG ac yn rhyngwladol, mae’r cyfleuster yn arbed amser am nad oes raid i staff deithio i’r gorsafoedd radio lleol. Caiff y cyfleuster ei ddarparu, ar y cyd â’r Ganolfan Astudiaethau Newyddiaduraeth yn Stiwdio 4, Llawr Isaf Deheuol (ar y chwith i lawr y grisiau wrth ddod i mewn), Adeilad Bute, Rhodfa Brenin Edward VII. Byddwch cystal â chysylltu â Colin Larcombe. (029 208 76279). Rydym yn sylweddoli mai ar fyr rybudd y bydd y cyfweliadau hyn fel arfer, ond byddwch cystal â rhoi cymaint o rybudd ag y modd ymlaen llaw. Rhowch wybod i’r Swyddfa Cysylltiadau Cyhoeddus eich bod am ddefnyddio’r cyfleuster, a byddwn ni’n talu’r costau.
Gall y Swyddfa Cysylltiadau Cyhoeddus roi cyngor i’r staff am bob agwedd ar gyfweliadau â’r cyfryngau a chysylltiadau cyfryngol, ac mae’n cyfrannu - ar y cyd â’r Ganolfan Astudiaethau Newyddiaduraeth, a’r Is-adran Personél - at hyfforddi staff ar y pwnc hwn.
Er mwyn cydlynu cysylltiadau cyhoeddus a chysylltiadau â’r cyfryngau er budd yr holl Brifysgol, cânt eu cefnogi gan y polisïau a phrotocolau a ganlyn, ac mae disgwyl i'r holl staff lynu wrth y rhain.
1. Gwneir datganiadau ar ran y Brifysgol gan y Swyddfa Cysylltiadau Cyhoeddus ar ran neu yn uniongyrchol gan yr Is-ganghellor neu ei enwebeion.
2. Wrth ddarparu sylwadau i'r cyfryngau am faterion dadleuol, yn enwedig rhai sy’n ymwneud â’r sector addysg uwch, dylai staff ddynodi taw eu heiddo nhw yn bersonol neu’n broffesiynol yw eu sylw, barn neu ddadansoddiad ac nad yw o angenrheidrwydd yn cynrychioli polisi neu safbwynt y Brifysgol. Mae hyn yn gyson ag, er enghraifft, yr ymwadiad yn Newyddion Caerdydd, sef llythyr newyddion y Brifysgol. Dylid cyfeirio at hyn yn benodol mewn erthyglau yn y cyfryngau sy’n cynnig sylw ar faterion dadleuol ac sy’n ymddangos dan enw a theitl aelod o’r staff.
3. Nid yw eitemau sy’n cael eu darlledu ar y teledu, radio a’r we yn cael eu monitro a gwahoddir staff i roi gwybod i’r swyddfa am gyfweliadau o’r fath neu unrhyw gyfranogiad arall i’r cyfryngau er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn cael sylw mewn crynodebau newyddion, cyhoeddiadau a gweithgaredd hyrwyddo arall. Bydd hyn yn helpu i werthuso effeithiolrwydd cysylltu â’r cyfryngau.
4. Dylid rhoi gwybod i’r Swyddfa Cysylltiadau Cyhoeddus ymlaen llaw am geisiadau i ffilmio eitemau newyddion ar dir y Brifysgol; fel arfer bydd caniatâd yn cael ei roi. Mae’r Swyddfa Cysylltiadau Cyhoeddus yn cynorthwyo gyda threfniadau ynglŷn â lleoliadau cyfweliadau, yn ceisio caniatâd yr Ysgol/Is-adran berthnasol ac yn hysbysu’r swyddogion diogelwch. Cysylltwch â’r tîm Cysylltiadau Cyhoeddus. Sylwch fod defnyddio’r Brifysgol yn lleoliad ar gyfer ffilmio deunydd nad yw’n ddeunydd newyddion yn fater masnachol sy’n rhwym wrth gontract masnachol. Dylid cyfeirio ceisiadau am ffilmio o’r fath at y Swyddfa Cysylltiadau Cyhoeddus sy’n cydgysylltu â’r Is-Adran Ystadau ynglŷn â materion o’r fath. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau we Ffilmio.
5. Mae’r Swyddfa Cysylltiadau Cyhoeddus, ar y cyd â chydweithwyr, yn darparu sylwadau i gair rhydd ar ran y Brifysgol a’r weinyddiaeth ganolog ar ran y Brifysgol. Dylai ymatebion i staff ynglŷn ag erthyglau yn gair rhydd gael eu gwneud mewn cydweithrediad â’r Swyddfa Cysylltiadau Cyhoeddus.
6. Fel arfer bydd gwahoddiadau i bobl bwysig iawn, gan gynnwys aelodau o'r Teulu Brenhinol, Llywydd y Brifysgol, gwleidyddion blaenllaw ac uwch-weision sifil yn cael eu cyflwyno gan swyddfa’r Is-ganghellor, er mwyn sicrhau cydlyniad effeithiol. Byddwch cystal â chysylltu â’r Swyddfa Cysylltiadau Cyhoeddus yn gyntaf.
7. Mae yna weithdrefn gan y Brifysgol ynglŷn â chynnig ac ystyried enwau i adeiladau a darlithfeydd; byddwch cystal â chysylltu â’r Swyddfa Cysylltiadau Cyhoeddus yn gyntaf. Yn yr un modd, dylid cyfeirio argymhellion i osod placiau coffa yn y Brifysgol at y Swyddfa Cysylltiadau Cyhoeddus yn gyntaf.
8. Mae mynediad yma i wybodaeth ynglŷn â defnyddio logo Prifysgol Caerdydd. Byddwch cystal â chysylltu â’r Swyddfa Cysylltiadau Cyhoeddus os oes gennych ymholiadau pellach ynglŷn ag adnabyddiaeth weledol.
Bydd amrediad eang o bapurau newydd a chylchgronau cenedlaethol a rhyngwladol a ffynonellau newyddion rhyngrwyd yn cael eu monitro i weld pa ddefnydd a wnaed o ddatganiadau newyddion i'r cyfryngau ac i ddarganfod cyfeiriadau eraill at Brifysgol Caerdydd. Mae yna grynodeb o eitemau newyddion ar-lein. Hefydd, bydd y swyddogion Cysylltiadau Cyhoeddus yn cynhyrchu a dosbarthu Crynodeb Cyfryngol dyddiol sy’n rhoi manylion o ddiddordeb o’r Brifysgol ac yn lleol. Byddwch cystal ag e-bostio aelod o’r tîm os ydych chi’n dymuno bod ar y rhestr.
Yn ogystal â’r calendr rheolaidd o ddigwyddiadau’r Brifysgol, gall y bydd yna achlysuron eraill drwy gydol y flwyddyn sy’n gyfle i godi proffil Ysgol a’r Brifysgol trwy ddigwyddiad Cysylltiadau Cyhoeddus. Elfen arbennig o ddigwyddiadau o’r fath yw’r defnydd ohonynt i ddod â gwesteion i’r Brifysgol. Mae pob agwedd ar ddigwyddiadau o’r fath, o’r gwahoddiad cychwynnol i ohebiaeth wedyn, yn gyfle i sefydlu neu gyfnerthu perthynas â rhanddeiliaid. Mae agor adeiladau, cychwyn adrannau, canolfannau ymchwil newydd, etc., ymweliadau gan unigolion â phroffil uchel, anrhydeddau a gwobrau pwysig, ac anerchiadau a chyflwyniadau cyhoeddus ar themâu poblogaidd yn enghreifftiau o’r hyn y gellir ei wneud ar gyfer cysylltiadau cyhoeddus effeithiol.
Yn ogystal â chefnogi trefniadau ar gyfer digwyddiadau i’r Brifysgol gyfan, megis ymweliadau gan bwysigion, gwyliau gwyddoniaeth, cyngherddau, etc., gall y Swyddfa Cysylltiadau Cyhoeddus ddarparu cymorth a chyngor i Ysgolion mewn perthynas â’u digwyddiadau cysylltiadau cyhoeddus.
Newyddion Caerdydd yw llythyr newyddion y Brifysgol sy’n cael ei ddosbarthu i’r holl staff ac i nifer fawr o randdeiliaid allanol. Mae’n helpu i feithrin enw da’r Brifysgol trwy dynnu sylw at lawer o lwyddiannau unigol a sefydliadol. Cynhyrchir deg rhifyn y flwyddyn yn ystod y semestrau. Mae pob rhifyn yn cynnwys y dyddiadau cau ar gyfer cyfraniadau i’r rhifyn nesaf. Croesewir eitemau ac awgrymiadau, a dylid anfon y rhain i’r Swyddfa Cysylltiadau Cyhoeddus neu drwy e-bost: newsletter@cardiff.ac.uk. Er mwyn cael eich rhoi ar restr ddosbarthu Newyddion Caerdydd, byddwch cystal ag e-bostio newsletter@cardiff.ac.uk neu mae modd gweld y fersiwn rhyngweithiol yma
Mae hon yn rhestr o’r anerchiadau, arddangosydd a digwyddiadau eraill sy’n digwydd yn y Brifysgol ac sy’n agored i ymwelwyr o’r tu allan ac i staff ledled y Brifysgol. Rhoddir sylw i ychydig o ddigwyddiadau ar dudalen ôl Newyddion Caerdydd ac mae fersiwn wedi ei ddiweddaru'n fwy rheolaidd ar gael ar y we. Os hoffech roi cyhoeddusrwydd i ddigwyddiad yn y calendr digwyddiadau ar-lein, byddwch cystal ag e-bostio’r manylion llawn i publicity@cardiff.ac.uk .
Cynhyrchir Adroddiad Blynyddol y Brifysgol, sef yr Adolygiad Blynyddol, gan y Swyddfa Cysylltiadau Cyhoeddus gyda chymorth cydweithwyr mewn sawl Is-adran. Ar hyn o bryd caiff ei gyhoeddi mewn pryd i’w ddosbarthu pan fydd Llys y Brifysgol yn cyfarfod, ym mis Mawrth bob blwyddyn. Hefyd, cynhyrchir chwaer-gyhoeddiad, Publications Grants and Statistics yn flynyddol. Yn ogystal, mae adroddiadau blynyddol yr Ysgolion o werth o ran cyfrannu at feithrin enw da Ysgolion. Mae cyngor a chymorth ar gyfer cynhyrchu a dosbarthu adroddiadau blynyddol Ysgolion ar gael gan y Swyddfa Cysylltiadau Cyhoeddus.
Mae dewis eang o nwyddau hyrwyddo â brand y Brifysgol ar gael gan y Swyddfa Cysylltiadau Cynfyfyrwyr o’r Is-adran Recriwtio Myfyrwyr a’r We ac o siop Undeb y Myfyrwyr. Mae logo ac arfbais Prifysgol Caerdydd wedi’u cofrestru ac maent yn nodau gwarchodedig i’r Brifysgol. Cynhyrchir cerdyn Nadolig y Brifysgol ym mis Tachwedd bob blwyddyn i’w werthu i Ysgolion/Is-adrannau, staff a myfyrwyr. Gall y Gwasanaethau Graffig addasu’r cardiau yn unol â gofynion Ysgolion; cysylltwch â: Steve Garratt. Mae dewis o e-gardiau hefyd ar gael yma, fel y gall staff a myfyrwyr anfon cyfarchiad ar-lein am ddim.
O bryd i’w gilydd bydd sefydliadau masnachol yn cysylltu â’r Brifysgol i gynnig eu cynhyrchion neu wasanaethau i staff/myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Ambell waith bydd hyn yn golygu cynnig disgownt i staff/myfyrwyr. Gall y bydd ffi neu fudd arall yn cael ei gynnig i'r Brifysgol am gytuno i ddosbarthu/cyfathrebu hyrwyddiad.
Mae cyngor ynglŷn â hyrwyddiadau o’r fath ar gael gan y Swyddfa Cysylltiadau Cyhoeddus a’r Adran Brynu.
This is an externally hosted beta service offered by Google.