Skip to content Skip to navigation menu
Gall Prifysgol Caerdydd gynnig dewis eang o leoliadau allanol ar gyfer ffilmio masnachol a ffilmio nad yw’n fasnachol. Mae gan ein hystâd nodedig adeiladau traddodiadol sy’n dyddio o ddechrau’r ugeinfed ganrif gan benseiri fel George Caroe a Harris & Moodie ynghyd â’r Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg, sef adeilad a gwblhawyd yn 2008.
Mae’r Brifysgol y gweithio gyda Chomisiwn Sgrîn Cymru, sef gwasanaeth sy’n cynnig cymorth a chyngor am ddim ac sy’n rhan o gangen Llywodraeth Cynulliad Cymru, Busnes Creadigol Cymru.
Mae modd gweld rhai o leoliadau Prifysgol Caerdydd yn: www.cardiff.ac.uk/about/photosviews/360views/
Ymhlith cynyrchiadau adnabyddus a gafodd eu ffilmio ar ein tir yn y gorffennol mae un o ffilmiau Harry Potter a chyfresi teledu fel Crash, Sarah-Jayne Adventures, Doctor Who, Torchwood a Sherlock.
Mae Victoria Dando o’r tîm Cysylltiadau Cyhoeddus, sydd â sawl blwyddyn o brofiad yn y byd teledu, yn cydlynu ceisiadau am leoliadau i’r Brifysgol. Bydd yn gwneud yn siŵr fod y trefniadau’n hwylus i’r cwmni cynhyrchu ac yn achosi cyn lleied o anhrefn â phosibl i staff a myfyrwyr.
Byddwch cystal â chysylltu â’r Swyddfa Cysylltiadau Cyhoeddus os ydych chi’n dymuno ffilmio eitem newyddion yn y Brifysgol neu os ydych chi’n fyfyriwr sydd am ffilmio ar y campws fel rhan o waith prosiect. Bydd yn cydgysylltu ag adrannau eraill yn y Brifysgol er mwyn ceisio’r caniatadau perthnasol.
Os hoffech wneud ymholiadau ynglŷn â ffilmio cynyrchiadau ar raddfa fawr neu gynyrchiadau masnachol yn y Brifysgol, byddwch cystal â darllen y Rhestr Wirio Ffilmio cyn cysylltu â’r Swyddfa Cysylltiadau Cyhoeddus i drafod lleoliadau a ffioedd. Rhaid cytuno ar gontract a’i lofnodi cyn gall ffilmio ddigwydd.
Dylid cyfeirio pob ymholiad at Victoria Dando, Swyddfa Cysylltiadau Cyhoeddus, Is-adran Cyfathrebu a Chysylltiadau Rhyngwladol
E: dandov2@cardiff.ac.uk
Ff: 02920 879074
Rhestr Wirio Ffilmio
This is an externally hosted beta service offered by Google.