Mae’r Ysgol Addysg Feddygol a Deintyddol Ôl-raddedig yn gyfrifol am gomisiynu, goruchwylio a monitro’r ddarpariaeth addysg a hyfforddiant ar gyfer tua 2,600 o feddygon a deintyddion mewn swyddi hyfforddi ôl-raddedig yn y GIG ar draws Cymru. Hefyd mae’r Ysgol yn helpu i oruchwylio o ran darparu Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar gyfer Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol a Deintyddol ar draws Cymru.
Adrannau ac Unedau
- Addysg Ddeintyddol
- Meddygaeth Deulu
- Meddygaeth Ysbyty
- Addysg Feddygol
- WIMAT (Athrofa Therapïau Lleiaf Ymyrrol Cymru)
- Sicrhau Ansawdd
Gyrfa a Recriwtio
Rydym yn gyfrifol am recriwtio pobl i’w hyfforddi fel Meddygon Sylfaen ac Ymarferwyr Arbenigol a Chyffredinol a Deintyddol ar draws Cymru. Archwilio cyfleoedd cyfredol mewn amryfal lwybrau hyfforddi a chyflwyno ceisiadau.
Hyfforddiant sy’n llai na Llawn Amser
Cysylltiadau a Phobl
Cysylltwch â’r staff, myfyrwyr a’r adrannau yn yr Ysgol Addysg Feddygol a Deintyddol Ôl-raddedig




