Skip to content
Skip to navigation menu

The President's Research Scholarships

Ynghylch yr Ysgoloriaethau

Ysgoloriaethau Ymchwil y Llywydd yw dyfarniadau amlycaf Caerdydd ac maen nhw’n cynnwys y bri sy’n dod yn sgil cysylltiad â Llywydd newydd y Brifysgol, enillydd Gwobr Nobel mewn Meddygaeth (2007), yr Athro Syr Martin Evans.

Wrth benderfynu ym mha feysydd y dylai’r ysgoloriaethau pwysig hyn fod ar gael, mae’r Brifysgol wedi pwyso a mesur nifer o ffactorau allweddol sydd, gyda’i gilydd, yn ategu canlyniadau cryf i’r ymgeiswyr llwyddiannus am yr ysgoloriaethau, y maes ymchwil a’r Brifysgol.

Gall pob un o’r meysydd ymchwil y mae Ysgoloriaethau Ymchwil y Llywydd ar gael ynddyn nhw ategu rhagoriaeth yn y ddarpariaeth ymchwil ôl-raddedig – o ran prosiectau ymchwil, goruchwyliaeth, yr amgylchedd ymchwil, a pharatoi at yrfa academaidd a/neu broffesiynol.

Mae pob un o Ysgolion a Chanolfannau Ymchwil y Brifysgol sy’n cynnig cyfleoedd o dan y rhaglen wedi dangos gwir botensial yr Ysgoloriaethau i gyfrannu at ragoriaeth mewn ymchwil drwy brosiectau PhD arwyddocaol, ymestynnol a gwreiddiol a thrwy oruchwyliaeth a chymorth rhagorol ar gyfer PhD.

Yn ychwanegol, mae pob un o’r meysydd wedi amlygu ymrwymiad i gymathu deiliaid yr Ysgoloriaethau mewn diwylliant ymchwil bywiog ac uchel ei barch a hynny mewn amgylchedd rhyngddisgyblaethol.

Mae nodweddion deniadol eraill yr Ysgoloriaethau’n cynnwys presenoldeb nifer o Ysgolorion y Llywydd ym mhob un o’r meysydd ymchwil a’r warant y bydd Ysgolorion y Llywydd yn cael eu cyflwyno i dechnolegau, theorïau, dulliau methodolegol a dadleuon arloesol.

Gall pob un o Ysgolorion y Llywydd fod yn hyderus o gael hyfforddiant a chymorth o’r safon uchaf un, o dan ofal goruchwylwyr sydd â hanes cydnabyddedig o oruchwylio myfyrwyr PhD yn llwyddiannus. Ym mhob achos mae’r Ysgol neu’r Ganolfan Ymchwil yn gwneud eu cyfraniad ariannol eu hunain at Ysgoloriaethau Ymchwil y Llywydd gan ein galluogi i gynnig 72 o Ysgoloriaethau ar gyfradd lawn yr RCUK.