Bioddelweddu
Mae Ysgoloriaethau Ymchwil y Llywydd mewn Bioddelweddu yn gadarn yn y rhyngwyneb rhwng y gwyddorau ffisegol a gwyddorau bywyd ac maen nhw’n cyd-fynd yn dda â nodau strategol presennol y cyrff ariannu mawr fel BBSRC, EPSRC, MRC ac Ymddiriedolaeth Wellcome. Craidd yr Ysgoloriaethau yw defnyddio’r methodolegau a’r datblygiadau ymchwil diweddaraf mewn technoleg delweddu i ateb cwestiynau o bwys mewn biofeddygaeth, gan ganolbwyntio ar ofal iechyd ac ymchwil ar heneiddio, sef dwy enghraifft yn unig o feysydd blaenoriaeth mewn ymchwil sy’n cael ei hariannu gan y llywodraeth ac sydd â llawer o botensial i effeithio ar y gymdeithas a materion ansawdd bywyd.
Mae meysydd Bioleg Adeileddol a Bioddelweddu yn arbennig o bwysig i broffil Caerdydd, fel y gwelir ym mhenodiad diweddar y Dr Mark Young yn Gymrawd Ymchwil Evans-Huber a chanddo’r cylch gorchwyl o hybu cydweithredu ar draws y disgyblaethau mewn Bioleg Adeileddol, gan ganolbwyntio’n benodol ar ddatblygiadau newydd mewn ymchwil meicrosgopi electronau fel y mae’n cael ei gymhwyso at wyddorau bywyd.
Bwriad y gweithgareddau hyfforddi doethuriaid mewn Bioddelweddu yw cynhyrchu’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr ar y rhyngwyneb rhwng gwyddorau bywyd a’r gwyddorau ffisegol. Caiff graddedigion eu recriwtio, eu haddysgu a’u hyfforddi i ddatblygu a chymhwyso’r dulliau delweddu arloesol diweddaraf ar draws ystod o feysydd sy’n gysylltiedig â Bioddelweddu er mwyn rhoi sylw i gwestiynau sylfaenol a chymhwysol yn y biowyddorau ac mewn gofal iechyd.
Bydd y rhaglen hyfforddi doethuriaid yn adeiladu ar synergeddau naturiol sydd eisoes yn bodoli rhwng ymchwilwyr yn yr Ysgolion Optometreg a Gwyddorau’r Golwg, Biowyddorau a Ffiseg a’r ymchwil ar draws yr Ysgolion sydd ar y gweill, yn aml gyda chymorth arian allanol o bwys. Bydd y myfyrwyr yn manteisio ar amrywiaeth mawr o arbenigedd a chyfleusterau o safon yn yr Ysgolion sy’n cymryd rhan ac ar draws y Brifysgol.
Ar ôl eu hyfforddi, bydd y doethuriaid graddedig mewn sefyllfa eithriadol o dda i ddefnyddio’u medrau gwyddonol a’u medrau trosglwyddadwy yn y byd academaidd neu yn y tirlun diwydiannol technolegol iawn sy’n cynnwys meysydd biodechnoleg, gofal iechyd a/neu fferylliaeth yn y Deyrnas Unedig a thros y môr.
Beth i'w wneud nesaf
- Dysgu rhagor am y prosiectau ymchwil a'r ysgoloriaethau sydd ar gael a sicrhau canllawiau am unrhyw brosesau ymgeisio am brosiectau penodol drwy gysylltu â Chysylltwr y Prosiect.
- Cyflwyno cais ôl-raddedig ar-lein, o fewn yr amser sy’n cael ei bennu gan Gysylltwr y Prosiect, er mwyn cael eich ystyried ar gyfer un o Ysgoloriaethau Ymchwil y Llywydd. (Yn Adran 5 (Arian) ar gyfer yr eitem: ‘Byddaf yn gwneud cais am ysgoloriaeth/grant ‘ - dylai’r ymgeiswyr ddangos yr enw ‘Ysgoloriaethau Ymchwil y Llywydd’.)




