Athrofa Catalysis Caerdydd
Mae’r sector cemegau yn rhan eithriadol o lwyddiannus a phwysig o economi cyffredinol y Deyrnas Unedig. Yn y blynyddoedd diwethaf mae allbwn y Deyrnas Unedig wedi bod yn fwy na £50B ac mae yn y seithfed safle yn y byd. Mae grwpiau ymchwil sydd ar y blaen yn rhyngwladol yn chwarae rhan allweddol i sbarduno arloesi newydd drwy waith ymchwil sylfaenol sy’n torri tir newydd.
Cafodd Athrofa Catalysis Caerdydd ei sefydlu yn 2008 o dan gyfarwyddiaeth yr Athro Graham Hutchings FRS ac, yn sgil recriwtio staff academaidd a thechnegol allweddol newydd, mae’n cael ei chydnabod fel y brif athrofa ymchwil mewn catalysis yn y Deyrnas Unedig. Mae’r Ganolfan yn dechrau dod i’r amlwg fel tîm blaenllaw yn rhyngwladol a bernir ei bod yn y pump uchaf o grwpiau o’r fath yn y byd.
Bydd myfyrwyr Ysgoloriaeth Ymchwil y Llywydd yn cymryd rhan mewn gwaith ymchwil a fydd yn rhychwantu holl feysydd catalysis gan gynnwys catalysis heterogenus a homogenus a biogatalysis, gan ryngweithio â gwaith ymchwil arall mewn cemeg o synthesis cemegol i fethodolegau cyfrifiaduro. Bydd yna synergeddau hefyd â meysydd eraill yn y Brifysgol ac mae’r Athrofa’n ceisio sefydlu mentrau cydweithredol newydd â’r Ysgolion Biowyddorau, Peirianneg, Fferylliaeth a Ffiseg.
Caiff myfyrwyr doethuriaeth eu hyfforddi yn labordai’r Ganolfan sydd newydd gael eu hailwampio ac sy’n cynnwys offer a chyfleusterau ymchwil o’r radd flaenaf yn y byd.
Nod yr efrydiaethau fydd paratoi’r myfyrwyr doethuriaeth mewn maes sy’n eang ei yrfaoedd, gan gynnwys y byd academaidd a diwydiant. Mae gan staff academaidd y Ganolfan hanes trawiadol o ran hyfforddi myfyrwyr sydd wedi codi i safleoedd uchel yn y byd academaidd ac mewn diwydiant ledled y byd. O ran cyflogaeth, mae’r myfyrwyr ôl-raddedig yn boblogaidd iawn ar ôl eu hefrydiaethau.
Update
This project is now closed to applications:
Beth i'w wneud nesaf
- Dysgu rhagor am y prosiectau ymchwil a'r ysgoloriaethau sydd ar gael a sicrhau canllawiau am unrhyw brosesau ymgeisio am brosiectau penodol drwy gysylltu â Chysylltwr y Prosiect.
- Cyflwyno cais ôl-raddedig ar-lein, o fewn yr amser sy’n cael ei bennu gan Gysylltwr y Prosiect, er mwyn cael eich ystyried ar gyfer un o Ysgoloriaethau Ymchwil y Llywydd. (Yn Adran 5 (Arian) ar gyfer yr eitem: ‘Byddaf yn gwneud cais am ysgoloriaeth/grant ‘ - dylai’r ymgeiswyr ddangos yr enw ‘Ysgoloriaethau Ymchwil y Llywydd’.)



