Skip to content
Skip to navigation menu

The President's Research Scholarships

Ymchwil Caerdydd i Uwch-ddulliau Niwroddelweddu (CRANIUM)

Nod CRANIUM yw ysgogi’r cyfnod nesaf yn natblygiad methodoleg niwroddelweddu ar gyfer cymwysiadau trosiannol mewn iechyd ac afiechyd dynol.

Cyseinedd magnetig

Canolbwynt CRANIUM yw Canolfan Delweddu Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC) sydd â’i thechnegau ar gyfer delweddu’r ymennydd dynol i gyd o dan yr un to:  Delweddu Cyseinedd Magnetig (MRI), Magnetoenseffalograffeg (MEG), Electroenseffalograffeg (EEG) ac Ysgogi Magnetig Traws-greuanol (TMS).

Mae CRANIUM yn rhoi sylw i dair thema:

Bydd y prosiectau ymchwil doethur yn canolbwyntio ar arbrofi, gyda thuedd gref tuag at fethodolegau’r gwyddorau ffisegol yn cael eu cymhwyso at systemau biolegol. Bydd adnoddau creadigol y myfyrwyr PhD yn cael eu harneisio er mwyn deall signalau o system nerfol mamaliaid a datblygu dulliau niwroddelweddu a gaiff eu mabwysiadu gan ymchwilwyr niwrowyddoniaeth anifeiliaid a niwrowyddoniaeth ddynol ledled y byd.

Bydd y rhaglen yn paratoi’r myfyrwyr ôl-raddedig ar gyfer gyrfa ymchwil mewn delweddu biofeddygol a niwrowyddoniaeth, gyda’r hyblygrwydd i ymgymryd â thechnegau newydd wrth iddyn nhw ddatblygu.  Y tu hwnt i waith ymchwil academaidd, mae yna alw cynyddol am arbenigwyr sy’n deall y technegau mesur sy’n cael eu cymhwyso at systemau biolegol yn y diwydiannau biodechnoleg, fferylliaeth a gofal iechyd.

Project Details

This project is open to applications - to be considered on a rolling basis.

 
Quantitative functional MRI: measuring the brain’s consumption of oxygen


Deadline: This project is considering applications on a rolling basis
Start Date:  1 October 2012 (or Jan 2013 at the latest)
Full project details: http://courses.cardiff.ac.uk/funding/R467.html
Related links:

Beth i'w wneud nesaf

  • Dysgu rhagor am y prosiectau ymchwil a'r ysgoloriaethau sydd ar gael a sicrhau canllawiau am unrhyw brosesau ymgeisio am brosiectau penodol drwy gysylltu â Chysylltwr y Prosiect.
  • Cyflwyno cais ôl-raddedig ar-lein, o fewn yr amser sy’n cael ei bennu gan Gysylltwr y Prosiect, er mwyn cael eich ystyried ar gyfer un o Ysgoloriaethau Ymchwil y Llywydd. (Yn Adran 5 (Arian) ar gyfer yr eitem: ‘Byddaf yn gwneud cais am ysgoloriaeth/grant ‘ -  dylai’r ymgeiswyr ddangos yr enw ‘Ysgoloriaethau Ymchwil y Llywydd’.)

Open day 2012

Update

This project is open to applications - to be considered on a rolling basis..