Ewch i’r prif gynnwys

Cydraddoldeb ac amrywiaeth

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi, datblygu a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl ymarferion a'n gweithgareddau.

Rydym yn anelu at sefydlu diwylliant cynhwysol sy'n rhydd o unrhyw anffafriaeth ac wedi seilio ar werthoedd urddas, cwrteisi a pharch. Rydym yn adnabod hawl pob unigolyn i gael eu trin yn unol â'r gwerthoedd hyn.

Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ar sail oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd a chred (gan gynnwys diffyg cred), rhyw a chyfeiriadedd rhywiol. Rydym hefyd am feithrin perthynas dda â grwpiau gwahanol.

Gwyliwch fideo 'Prifysgol Caerdydd - Cymuned Amrywiol' ar Youtube

Mae ein cynllun amrywiaeth strategol yn anelu at hyrwyddo a chyflawni gwelliannau cydraddoldeb ar draws Prifysgol Caerdydd yn dilyn y Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae ein hoffer cynllunio asesiad effaith ansawdd yn galluogi sefydliadau addysg uwch i roi cydraddoldeb yn eu polisïau. Gallwch ddilyn cynnydd ein cynllun cydraddoldeb strategol a'r dadansoddiad o'r data monitro ar gyfer staff a myfyrwyr yn ein hadroddiad monitro blynyddol.