Ewch i’r prif gynnwys

Safonau'r Gymraeg

Disodlodd Safonau'r Gymraeg Gynllun Iaith Gymraeg blaenorol y Brifysgol ar 1 Ebrill 2018.

Sefydlwyd fframwaith cyfreithiol modern ym Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ar gyfer defnyddio'r Gymraeg mewn gwasanaethau cyhoeddus. Rhoddodd hyn statws cyfartal i'r Gymraeg â'r Saesneg am y tro cyntaf yng Nghymru.

Rydym wedi ymrwymo i wneud cyfraniad cadarnhaol i ddatblygiad y Gymraeg drwy:

  • Sicrhau na chaiff y Gymraeg ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg
  • Annog siaradwyr Cymraeg i fanteisio ar y gwasanaethau y mae ganddynt hawl i'w derbyn gennym yn Gymraeg
  • Cynnig hyfforddiant ymwybyddiaeth i'r holl staff ynglŷn â Safonau'r Gymraeg a chefnogi'r rhai y mae angen cymorth arnynt gyda'r Gymraeg

Rydym yn dangos ein hymrwymiad i'r Safonau ac yn nodi sut y byddwn yn cydymffurfio â nhw yn y polisïau canlynol:

Adroddiad Monitro Blynyddol ar Safonau’r Gymraeg 2023

Adroddiad Monitro Blynyddol ar Safonau’r Gymraeg 2023

Trefniadau llywodraethau

Ein Bwrdd Gweithredol sy'n gyfrifol yn y pen draw am sicrhau bod y Brifysgol yn cydymffurfio'n llwyr â Rheoliadau'r Gymraeg (Rhif 6) 2017, yn ogystal â goruchwylio'r gwaith o weithredu a monitro pob polisi arall.

Mae ein tîm Cydymffurfiaeth a Risg, sy'n rhan o Swyddfa Ysgrifennydd y Brifysgol, yn benodol gyfrifol am ddarparu arweiniad a chyngor ar Safonau'r Gymraeg. Darperir adroddiadau rheolaidd gan y tîm Cydymffurfiaeth a Risg i Grŵp Llywio'r Gymraeg, dan gadeiryddiaeth ein Dirprwy Is-Gangehellor.

Mae'r tîm yma'n atebol am weithredu ein gweithgareddau o ddydd i ddydd, sy'n sicrhau ein bod yn cadw at Safonau'r Gymraeg a'n Polisïau.

Mae gennym rwydwaith fywiog o Hyrwyddwyr y Gymraeg, sy'n cynnwys o leiaf un aelod o staff o bob Ysgol, Coleg ac Adran. Mae'r unigolion hyn yn gwasanaethu fel y prif bwynt cyswllt ar gyfer y tîm Cydymffurfiaeth a Risg, yn ogystal ag ar gyfer eu Hysgol/Adran berthnasol.

Mae'r tîm Cydymffurfiaeth a Risg yn aml yn ymgysylltu â'r hyrwyddwyr i ddosbarthu gwybodaeth ac arweiniad sydd â'r nod o'n cynorthwyo i gadw at y Safonau. Yn ogystal, cynhelir cyfarfodydd chwarterol i'r grŵp gyfnewid arferion gorau a syniadau am syniadau.

Ein cynnig i fyfyrwyr

  • Rydym yn croesawu gohebiaeth ac ymholiadau yn Gymraeg a byddwn yn sicrhau bod unrhyw ohebiaeth Gymraeg a ddaw i ni yn derbyn ateb yn Gymraeg wedi'i lofnodi
  • Os ydych chi'n derbyn cylchlythyrau a llythyrau safonol gennym ni, bydd y rhain yn ddwyieithog
  • Bydd y cyhoeddiadau a gynhyrchir gennym ni'n ganolog a'r deunyddiau print hefyd yn cael eu cyhoeddi'n ddwyieithog
  • Bydd ein holl dudalennau gwe corfforaethol a hafanau ein Colegau, Ysgolion, Adrannau, Canolfannau a Sefydliadau Ymchwil ar gael yn Gymraeg a Saesneg

Dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg

Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i'r datblygiadau diweddaraf mewn darpariaeth cyfrwng Cymraeg o fewn y sector ac yn darparu detholiad sylweddol o fodiwlau y gellir eu hastudio yn Gymraeg, gan gwmpasu amrywiaeth eang o bynciau sy'n amrywio o'r Gyfraith i Feddygaeth.

Mae gennym fentrau uchelgeisiol i ddarparu ystod eang o gyfleoedd i astudio a byw yn y Gymraeg, gyda ffocws penodol ar raglenni a gynigir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a'r Academi Gymraeg.

Tiwtora

Os oes aelodau o'r staff addysgu Cymraeg eu hiaith yn eich maes pwnc, mae gennych yr opsiwn i ofyn am diwtor personol sy'n siarad Cymraeg. Fodd bynnag, os nad oes aelodau o'r staff addysgu Cymraeg ar gael, bydd aelod staff addas o Ysgol arall yn cael ei neilltuo i'ch tiwtora

Yn Ysgol y Gymraeg a Chanolfan Cymraeg i Oedolion Bro Morgannwg, mae gan yr holl fyfyrwyr diwtoriaid Cymraeg eu hiaith.

Arholiadau

Byddwch yn cael cynnig sefyll eich arholiadau yn Gymraeg, pa un a ydych chi wedi derbyn eich tiwtora drwy'r Gymraeg ai peidio.

Os byddai'n well gennych sefyll eich arholiadau yn Gymraeg, byddwn yn sicrhau bod eich gwaith cwrs, papurau arholiad a sgriptiau'n cael eu hasesu gan academydd Cymraeg hyfedr fel blaenoriaeth neu'n cael eu cyfieithu os nad oes marcwyr Cymraeg eu hiaith ar gael. Mae'r trefniadau hyn yn amodol ar unrhyw ganllawiau neu reoliadau cenedlaethol neu gan gyrff proffesiynol neu Arweiniad yr ASA.

Cyfathrebu

Os ydych yn byw yng Nghymru, byddwn yn cynnig y dewis i chi gael eich cyfweld yn Gymraeg pan fyddwn yn eich gwahodd i'ch cyfweliad.

Llety

Bydd cyfle i chi ymgeisio am lety sydd wedi'i neilltuo'n arbennig i siaradwyr Cymraeg mewn dwy neuadd breswyl, sef Llys Senghennydd a Gogledd Talybont.

Gwasanaethau eraill

Rhai gwasanaethau eraill y gallwch eu disgwyl drwy gyfrwng y Gymraeg yw:

  • llythyrau
  • ymgeisio am gymorth ariannol
  • llyfryn croeso
  • prosbectws
  • tiwtor personol sy'n medru'r Gymraeg
  • gwasanaethau cwnsela
  • cyfarfodydd
  • tystysgrifau
  • cyflwyno gwaith ysgrifenedig yn Gymraeg
  • ffurflenni

Polisi Iaith Gymraeg Darparu Gwasanaethau

Mae'r polisi yn cynnig arweiniad ynghylch y gwasanaethau y mae'n rhaid eu darparu yn Gymraeg ac yn Saesneg, a'n hymrwymiad i wneud yn siŵr na chaiff y Gymraeg ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Polisi Safonau Gweithredol y Gymraeg

Mae'r polisi'n cynnig arweiniad ar weithrediadau sy'n gorfod cael eu cynnal yn Gymraeg, monitro dewisiadau iaith staff a chyfleoedd i hyrwyddo'r Gymraeg ymhlith staff newydd a chyfredol.

Cysylltwch â ni

Cysylltwch â'n Tîm Cydymffurfiaeth a Risg os oes gennych unrhyw gwestiynau am Safonau'r Gymraeg:

Cydymffurfiaeth a Risg