Gwreiddiau
Dechreuodd y Grŵp Ymchwil ar Drais a Chymdeithas gydag awydd un llawfeddyg ifanc i leihau ymosodiadau trais. Dros y ddegawd ddiweddaraf, mae ymchwil y grŵp wedi helpu i greu gweithrediad ymarferol ar lefel lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Bellach mae’r Grŵp yw enillydd un o Wobrau Pen-blwydd y Frenhines am addysg uwch a phellach - y bedwaredd mae aelodau Prifysgol Caerdydd wedi’i hennill.
Proffiliau aelodau’r grwp

Aelodau allweddol y tîm, a’u meysydd arbenigedd. Mae’r Grŵp yn ymelwa ar amrywiaeth o arbenigedd, gan gynnwys academyddion o’r Ysgolion Deintyddiaeth, Meddygaeth, Busnes, Seicoleg.
Enillwyr Blaenorol
Mae gan aelodau Prifysgol Caerdydd hanes o lwyddiant mewn Gwobrau Pen-blwydd y Frenhines. Yr enillwyr blaenorol yw:
Yr Athro Tony Campbell, yr Ysgol Feddygaeth, 1998 - Defnydd o gemoleuedd;
Y Ganolfan Peirianneg Gweithgynhyrchu, 2000 – Cyfraniad i’r economi;
Y Sefydliad Geneteg Feddygol, 2007 – Dealltwriaeth o glefyd etifeddol.
Canlyniadau ymwchil

Mae ymchwil y Grŵp wedi ymddangos mewn cylchgronau gwyddonol, troseddeg a meddygol pwysig. Yn Ymarfer Asesu Ymchwil 2008 ar draws y DG, amlygwyd gwaith y Grŵp fel maes “ymchwil ar raddfa fyd-eang.”
Mae’r gwaith hwnnw’n parhau, gyda’r meysydd diddordeb presennol yn cynnwys arfarnu’r model rhannu data, mudiad torfeydd yn y cyfnod sy’n adeiladu at drais, dylunio safleoedd trwyddedig mewn modd mwy diogel a’r ffactorau risg sy’n peri bod troseddu’n fwy tebygol o ddigwydd ymhlith pobl ifanc.
Canlyniadau ymarferol
Mae Caerdydd wedi helpu i roi’r gwasanaeth iechyd wrth galon atal troseddau. Yn lleol, drwy sefydlu Grŵp Lleihau Troseddau Caerdydd, aeth y Grŵp ati mewn partneriaeth gydag academyddion, gweithwyr proffesiynol yn y maes iechyd, Heddlu De Cymru a Chyngor Caerdydd i drechu trais. Mae’r Grŵp hefyd wedi cefnogi newid yn y ffordd mae’r GIG yn edrych ar ôl dioddefwyr trais ar draws y DU.
Teyrngedau

Mae gwaith y Grŵp Ymchwil Trais a Chymdeithas wedi bod yn bwysig wrth feithrin partneriaethau lleol yn erbyn troseddu, yn enwedig yng nghanol y ddinas yn hwyr yn y nos. Mae hefyd wedi dylanwadu ar bolisi cenedlaethol a rhyngwladol yn y maes hwn. Mae ffigurau uwch o Brifysgol Caerdydd, y Llywodraeth, yr Heddlu, yr Awdurdod Lleol a’r GIG oll wedi llongyfarch y Grŵp Ymchwil ar ei waith ac ar ddyfarnu’r Wobr iddo.
