Ewch i’r prif gynnwys

Ansawdd a pherfformiad ymchwil

Mae effaith fyd-eang i'n hymchwil, a phrofir ei ansawdd yn gyson drwy ein perfformiad mewn asesiadau cenedlaethol.

Yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021, barnwyd bod 90% hymchwil yn arwain y byd neu rhyngwladol-ragorol.

Bu ein ffocws ar ehangder, dyfnder a safon; ein gwobr am hynny yw bod yn 14eg yn y DU am bŵer ein hymchwil.

Mae ein cyflwyniadau i 23 o'r 34 uned asesu yn adlewyrchu ein hymchwil arloesol a rhyngddisgyblaethol, gan gwmpasu meysydd fel Meddygaeth Glinigol, y Gyfraith, Peirianneg a Cherddoriaeth.

Mae hyn yn atgyfnerthu traddodiad cryf o ragoriaeth ymchwil fel y tystia ein perfformiad yn REF 2014 ac Ymarfer Asesu Ymchwil 2008

REF 2021

REF 2021

Cadarnhawyd gan y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021 fod 90% o'n hymchwil yn arwain y byd neu’n rhyngwladol-ragorol.

REF 2014

REF 2014

Yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014, dyfarnwyd bod 87% o'n hymchwil yn arwain y byd neu’n rhyngwladol-ragorol.

RAE 2008 results

RAE 2008 results

33 of the 34 research areas we submitted for assessment were rated as world-leading (4*) in RAE 2008.